Dathlu llwyddiannau deiliaid diweddaraf y Dystysgrif Sgiliau Iaith
Fel rhan o ddathliadau Wythnos Shwmae Su’mae yma ym Mhrifysgol Mangor, cynhelir digwyddiad i ddathlu gwaith myfyrwyr Cangen Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ o’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Bydd cyfle i roi sylw i rai o’r myfyrwyr hynny sydd wedi llwyddo i ennill y Dystysgrif Sgiliau Iaith eleni. Bydd rhai o Lysgenhadon y Coleg Cymraeg Cenedlaethol sy’n astudio ym Mangor yno hefyd.
Cynhelir y digwyddiad anffurfiol yn Gorad, Pontio, am 2 o’r gloch bnawn Mercher, 17 Hydref.
Mae’r Dystysgrif Sgiliau Iaith yn gymhwyster cenedlaethol wedi ei hachredu gan CBAC, ac fe’i datblygwyd er mwyn galluogi myfyrwyr sy’n astudio yng Nghymru i ennill tystysgrif sy’n tystio i’w sgiliau iaith a’u gallu i weithio drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae nifer o gyflogwyr blaenllaw eisoes wedi datgan eu cefnogaeth i’r Dystysgrif, yn eu plith ITV Cymru, Llywodraeth Cymru a Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr.
Mae’r dathliad yn Pontio yn agored i staff a myfyrwyr ac yn gyfle i ddysgu am waith y Gangen dros baned a chacen ac i gyfeiliant Wil Chidley, myfyriwr Gwyddorau Eigion sydd hefyd yn aelod o’r band poblogaidd, Patrobas.
Ceir mwy o fanylion am y Dystysgrif Sgiliau Iaith ar wefan y ac am fwy o wybodaeth am Gangen Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ o’r Coleg, cliciwch ar y ddolen yma.
Dyddiad cyhoeddi: 16 Hydref 2018