Dathlu llwyddiannau staff a myfyrwyr ar Ddiwrnod Shwmae Su鈥檓ae 2019
骋测诲补鈥檙 bellach wedi datblygu i fod yn ddathliad blynyddol mewn nifer o sefydliadau ar draws y wlad, derbyniodd nifer o staff y Brifysgol sydd wedi bod yn dilyn cyrsiau dysgu Cymraeg dystysgrifau am ei hymdrechion heddiw (Hydref 15).
Nod Diwrnod Shwmae Su鈥檓ae yw hybu defnydd o鈥檙 Gymraeg drwy annog pawb i ddechrau sgwrs gyda chyfarchiad yn yr iaith. Mae hefyd yn gyfle i ddathlu llwyddiannau niferus ein staff a鈥檔 myfyrwyr sydd wedi mynd ati i ddysgu鈥檙 iaith neu gynyddu eu medrusrwydd o鈥檙 Gymraeg.
Eleni, mae 48 o aelodau staff y Brifysgol wedi ennill Tystysgrifau Cymraeg yn y Gweithle ar wahanol lefelau, sy鈥檔 ychwanegu鈥檔 sylweddol yn nifer o staff sydd bellach yn gallu defnyddio rhywfaint o Gymraeg yn y gweithle, boed hynny wrth eu gwaith bob dydd neu wrth gymdeithasu 芒鈥檜 cydweithwyr. Mae 12 aelod o staff hefyd wedi llwyddo yn yr arholiadau Cymraeg i Oedolion CBAC ar wahanol lefelau.
Mae nifer helaeth o aelodau staff yn dilyn cyrsiau Cymraeg o fewn y Brifysgol ac yn y gymuned, gyda chyrsiau ar gael ar gyfer pobl lefel 鈥 o ddysgwyr pur i rai sydd wedi meistrioli鈥檙 iaith ac yn astudio cymwysterau Lefel A 鈥 gan enghreifftio鈥檔 glir ymrwymiad y Brifysgol i ddatblygu dwyieithrwydd ymhlith ei staff ac i osod dwyieithrwydd wrth wraidd ei holl weithgareddau.
Am fwy o wybodaeth ynghylch cyrsiau dysgu Cymraeg ym Mangor ac yn y rhanbarth, ewch i: /cio/index.php.cy.
Yn ogystal 芒 gwobrwyo staff y Brifysgol ar eu llwyddiannau, mae nifer o fyfyrwyr hefyd wedi bod yn dilyn cyrsiau a fydd yn rhoi cydnabyddiaeth swyddogol iddynt o鈥檜 gallu i gyfathrebu a gweithio drwy gyfrwng y Gymraeg. Eleni, cofrestrodd y nifer fwyaf eto ar gyfer y Dystysgrif Sgiliau Iaith, sy鈥檔 cael ei dyfarnu gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Yn eu plith, Jack Wilson o Warrington, a ddaeth yn ail yng nghystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn Eisteddfod yr Urdd eleni. Llwyddodd Jack i ennill y Dystysgrif gyda Rhagoriaeth.
Fyth ers y Diwrnod Shwmae Su鈥檓ae cyntaf yn 2013, mae鈥檙 Brifysgol wedi cynnal cyfres o weithgareddau ar gyfer staff a myfyrwyr er mwyn hybu defnydd o鈥檙 Gymraeg ar ei safleoedd ac, eleni, mae wythnos gyfan o ddigwyddiadau wedi eu trefnu gan Undeb Myfyrwyr Cymraeg 香港六合彩挂牌资料 (UMCB); o sesiynau sgwrsio, cwis i noson meic-agored, bydd rhywbeth yn yr arlwy at ddant pawb, waeth be fo鈥檜 gallu yn y Gymraeg. Am fwy o wybodaeth, cysylltwch 芒 Llywydd UMCB, Lleucu Myrddin: Lleucu.myrddin@undebbangor.com.
Wrth gyflwyno鈥檙 aelodau staff 芒鈥檜 tystysgrifau, meddai鈥檙 Athro Jerry Hunter, Dirprwy Is-ganghellor (Yr Iaith Gymraeg, Diwylliant ac Ymwneud 芒鈥檙 Gymuned):
鈥淢ae鈥檙 diwylliant Cymraeg a Chymreig sy鈥檔 cael ei gynnal yma ym Mhrifysgol 香港六合彩挂牌资料 yn gwbl unigryw a phleser o鈥檙 mwyaf yw cael cyflwyno鈥檙 dysgwyr 芒鈥檜 tystysgrifau a鈥檜 llongyfarch ar eu llwyddiant. Heddiw, rydym yn dathlu llwyddiannau rhai sydd ond newydd ddechrau dysgu鈥檙 iaith ochr yn ochr ag aelodau staff sydd bellach yn rhugl ac yn cyfrannu at ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg y sefydliad. Mae鈥檔 dangos ein bod 芒 chyfundrefn wirioneddol effeithiol yma ar gyfer dysgwyr ar bob lefel. Mae鈥檔 braf cael cefnogi Diwrnod Shwmae Su鈥檓ae, ond, o gofio鈥檙 ffaith mai Prifysgol 香港六合彩挂牌资料 yw鈥檙 darparwr mwyaf ym maes Addysg Uwch cyfrwng Cymraeg, mae hefyd yn gyfle i ddiolch i鈥檔 staff a鈥檔 myfyrwyr am gynnal diwylliant Cymraeg bywiog ac amrywiol trwy gydol y flwyddyn.鈥
Dyddiad cyhoeddi: 15 Hydref 2019