Penodi i Weithgor Llywodraeth Cymru ar y Gymraeg yn y Gweithle
Mae Dr Lowri Hughes o Ganolfan Bedwyr Prifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ wedi derbyn gwahoddiad gan y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus, Leighton Andrews, i fod yn aelod o . Cadeirir y Gweithgor gan Rhodri Glyn Thomas AC.
Wrth i’r broses o uno Awdurdodau Lleol fynd rhagddi, pwrpas y Gweithgor yw cynnig argymhellion ymarferol i Weinidogion Cymru ynglŷn ag arfer gorau o ran defnydd yr iaith Gymraeg yng ngweinyddiaeth Llywodraeth Leol, a chefnogaeth Llywodraeth Leol i’r iaith drwy ei swyddogaethau datblygu economaidd.
Fel Cyfarwyddwr Cynllun Iaith Prifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ, mae Lowri wedi arwain ar nifer o brosiectau i ddatblygu’r defnydd o’r Gymraeg yn y gwaith. Un o’i blaenoriaethau ar hyn o bryd yw sicrhau bod ymchwil yn bwydo ymarfer. I’r perwyl hwn, cydweithiodd ag arbenigwyr Newid Ymddygiad yn yr Ysgol Seicoleg i ennill cyllid PhD sy’n edrych yn benodol ar ddatblygu’r Defnydd o’r Gymraeg yn y Gwaith.
Dywedodd yr Athro Jerry Hunter, Dirprwy Is-Ganghellor Cyfrwng Cymraeg a Chysylltiadau â’r Gymuned: ‘Mae hwn yn gyfnod hynod gyffrous i Brifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ o safbwynt datblygu’r agenda Cymraeg yn y Gwaith. Ar Ddydd Gŵyl Dewi byddwn yn lansio ein Cynllun Strategol: Datblygu Defnydd o’r Gymraeg yn y Gwaith. Mae hwn yn gynllun sy’n ymgorffori gweledigaeth y Brifysgol o safbwynt rhoi pob cyfle i staff ddatblygu a defnyddio eu sgiliau Cymraeg. Mae penodiad Lowri i Weithgor yr Iaith Gymraeg yn gydnabyddiaeth o’i harbenigedd hi a Chanolfan Bedwyr yn y maes pwysig yma.’
Mae Gweithgor yr Iaith Gymraeg yn ymweld â Phrifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ ar 29 Chwefror ac yn cael cyfle i glywed am yr ymchwil ac ymarfer sydd yn mynd rhagddo yng Nghanolfan Bedwyr ac ar draws y sefydliad mewn perthynas â hyrwyddo a hwyluso defnydd o’r Gymraeg ymhlith staff.
Dyddiad cyhoeddi: 29 Chwefror 2016