Penodi Llysgenhadon newydd i’r Coleg Cymraeg
Mae’r Coleg Cymraeg wedi penodi llysgenhadon newydd ar gyfer 2018 er mwyn annog mwy o ddarpar fyfyrwyr i ymddiddori ym maes addysg uwch cyfrwng Cymraeg.
Mae’r 24 llysgennad wedi’u lleoli mewn saith prifysgol ledled Cymru gan gynnwys pump ym Mhrifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ. Bydd Elain Rhys, Heledd Evans, Manon Wyn Williams, Sioned Rowlands ac Hanna Lois Jones yn dechrau ar ei gwaith fis yma ac yn gyfrifol am gwblhau gwahanol dasgau drwy’r flwyddyn.
Eu prif rôl fel llysgenhadon fydd perswadio mwy o ddisgyblion ysgol i ddilyn eu hastudiaethau drwy gyfrwng y Gymraeg a chyflwyno’r manteision o hynny.
Byddant yn cynrychioli’r Coleg Cymraeg mewn amryw o ddigwyddiadau megis ymweliadau ysgolion, ffeiriau UCAS ac Eisteddfodau yn ogystal â chofnodi eu profiadau ar flog.
yw’r blog sy’n rhoi darlun o fywyd fel myfyriwr Cymraeg ar ffurf fideo, lluniau a sgwrs. Gellir dilyn blog llysgenhadon y Coleg Cymraeg .
Dyddiad cyhoeddi: 22 Ionawr 2018