Prif Weinidog Cymru y cyntaf i recordio'i lais ar gyfer adnodd Lleferydd Cymraeg newydd
Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, oedd y cyntaf i ymateb i ap锚l newydd gan Brifysgol 香港六合彩挂牌资料 am wirfoddolwyr i recordio鈥檜 llais er mwyn creu adnodd Adnabod Lleferydd Cymraeg newydd.
Mae systemau Adnabod Lleferydd yn bwysig ar gyfer cyfathrebu ar lafar gyda chyfrifiaduron, systemau ff么n, setiau teledu, a phob math o gyfarpar electronig arall. Er mwyn creu鈥檙 dechnoleg, mae angen recordio rhai cannoedd o bobl wahanol yn darllen testunau pwrpasol. Gorau oll os ceir amrywiaeth o leisiau, hen, ifanc, dynion, merched, acenion de, gogledd a dysgwyr. Defnyddir y recordiadau ar gyfer hyfforddi peiriannau adnabod lleferydd a fydd yn deall llais unrhyw un yn siarad Cymraeg. Mae鈥檙 gwaith yn cael ei arwain gan Uned Technolegau Iaith Canolfan Bedwyr, a dderbyniodd grant gan Lywodraeth Cymru ac S4C tuag at y gwaith.
Dywedodd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, sydd 芒 chyfrifoldeb hefyd dros faterion iaith Gymraeg o fewn Llywodraeth Cymru:
鈥淩wy鈥檔 falch iawn o allu cefnogi鈥檙 ap锚l hon mewn ffordd ymarferol. Mae ein polisi ar y Gymraeg, 鈥楤wrw Mlaen鈥, yn nodi鈥檔 glir bwysigrwydd medru defnyddio鈥檙 Gymraeg gyda鈥檙 dechnoleg newydd, a鈥檔 hymrwymiad i sicrhau bod Cymru yn flaengar yn y maes.鈥
Dywedodd Elin Morris, Cyfarwyddwr Polisi Corfforaethol a Masnachol S4C:
"Mae S4C yn falch o gefnogi'r iaith Gymraeg ym myd technoleg, ac mae datblygiad adnodd adnabod llais yn gam allweddol i'r iaith a hefyd i ni fel sianel deledu. Yn y blynyddoedd diwethaf, mae teclynnau adnabod llais wedi dod yn fwyfwy poblogaidd, ac yn debygol o ehangu ac esblygu ymhellach, felly mae'n hanfodol ein bod ni'n sicrhau bod modd i'n gwylwyr eu defnyddio yn y Gymraeg. Mae'r ap yma yn ffordd i bawb gyfrannu at wireddu hynny."
Datblygwyd ap arloesol newydd ar gyfer ffonau clyfar a thabledi iOS ac Android i hwyluso鈥檙 gwaith o gasglu鈥檙 recordiadau.
Dywedodd Dewi Bryn Jones, prif ddatblygwr meddalwedd yr UTI, a gafodd y syniad o greu鈥檙 ap:
鈥淵n yr hen ddyddiau, roedd hi鈥檔 waith llafurus iawn i fynd o gwmpas yn recordio pobl ar gyfer cynllun fel hwn. Gyda鈥檙 ffonau a鈥檙 tabledi newydd, lle mae yna feicroff么n ym mhob un dyfais, mater hawdd yw i bobl recordio鈥檜 hunain yn siarad. Mae angen cyswllt gwe hefyd, ac mae鈥檙 ffeiliau sain yn cael eu llwytho i fyny i鈥檔 gweinydd ni yn awtomatig wedyn.鈥
Datblygodd David Chan a Sarah Cooper, sydd hefyd yn gweithio ar y project, destunau arbennig i bobl ddarllen allan yn uchel.
Dywedodd Sarah:
鈥淢ae鈥檙 testun wedi鈥檌 gynllunio i roi pob cyfuniad sain posibl yn y Gymraeg, a bydd y corpws o鈥檙 recordiadau hyn yn gallu cael ei ddefnyddio ar gyfer ymchwil a datblygu pob math gynnyrch Cymraeg newydd. Dydyn ni ddim wedi defnyddio dulliau torfoli (crowdsourcing) o鈥檙 blaen i greu corpws fel hyn ar gyfer y Gymraeg, ond rydyn ni鈥檔 gobeithio cael ymateb da i鈥檙 ap锚l. Mae鈥檙 ap yn hawdd iawn i鈥檞 ddefnyddio, ac mae鈥檔 rhywbeth ymarferol y gall bobl ei wneud dros y Gymraeg.鈥
Rhoddwyd yr enw Paldaruo ar yr ap, am ei fod yn ap bach cyfeillgar y gall pobl baldaruo neu glebran yn gyfforddus gydag ef. Mae'r ap ar gael o鈥檙 (fersiwn iOS) a (fersiwn Android).
Dyddiad cyhoeddi: 7 Gorffennaf 2014