Project arloesol Prifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ yn cynyddu defnydd o’r Gymraeg yn y gweithle
Mae project arloesol a luniwyd ar y cyd gan Ganolfan Bedwyr ac ymchwilwyr Newid Ymddygiad yn y Brifysgol er mwyn cynyddu defnydd y Gymraeg yn y gweithle wedi derbyn sylw arbennig gan Gomisiynydd y Gymraeg yn ddiweddar.
Mewn digwyddiad a drefnwyd gan swyddfa’r Comisiynydd ar gyfer penaethiaid sefydliadau cyhoeddus Cymru, cyflwynodd Dr Lowri Hughes, Pennaeth Polisi a Datblygu yng Nghanolfan Bedwyr, ganfyddiadau’r project ARFer a gynhaliwyd yn y Brifysgol yn ystod y misoedd diwethaf. Aelodau'r tîm ymchwil oedd Yr Athro Carl Hughes, Dr Emily Tyler, Dr Lowri Hughes ac Arwel Williams.
Nod y project oedd mynd y tu hwnt i’r ystadegau ynghylch defnydd y Gymraeg gan staff y Brifysgol a cheisio deall sut y mae’r 71% hynny sydd unai’n rhugl neu â rhywfaint o Gymraeg yn defnyddio’r iaith – neu ddim yn defnyddio – yn y gwaith o ddydd i ddydd. Wrth ddeall mwy am ddefnydd staff o’r iaith, ffurfir sail tystiolaeth o’r ymddygiad hwnnw er mwyn mynd ati i deilwra ymyraethau a darparu cefnogaeth yn y modd mwyaf effeithiol.
Mae ARFer yn fethodoleg sydd wedi’i hysbrydoli gan broject Aldahitz a gynlluniwyd gan gwmni Soziolinguistika Klusterra yng Ngwlad y Basg ac mae wedi’i selio ar egwyddorion sydd yn deillio o’r gwyddorau ymddygiad. Trwy ofyn i unigolion wneud ymrwymiad i ddefnyddio’r Gymraeg fel yr iaith ragosodedig (‘default’) nod y project oedd sefydlu defnydd o’r Gymraeg yn norm. Cyflawnwyd yr ymchwil atodol gan Arwel Williams. Mae Arwel yn fyfyriwr ymchwil yn yr Ysgol Seicoleg, yn astudio am ddoethuriaeth ym maes newid ymddygiad dan nawdd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
Treialwyd ARFer mewn adran o fewn y Brifysgol oedd yn cynnwys 22 aelod staff. Roedd gan y staff yma broffil iaith amrywiol gyda 64% yn siaradwyr rhugl, 22% yn siarad ychydig o Gymraeg a 14% heb sgiliau yn y Gymraeg. Fel rhan o’r rhaglen, gofynnwyd i bum aelod staff (~20%) wneud ymrwymiad iaith i ddefnyddio’r Gymraeg fel yr iaith rhagosodedig gyda’u cydweithwyr oedd â’r gallu i’w deall nhw. Y pum unigolyn yma oedd y ‘Galluogwyr ARFer’ ac roedd gan y ddau aelod ar bymtheg arall o staff ‘ryddid iaith’ – hynny yw, roeddent yn rhydd i ddefnyddio’r Gymraeg neu Saesneg gyda’r galluogwyr ARFer a chydweithwyr eraill.
Wrth drafod y project, meddai Dr Lowri Hughes: ‘Roedden ni’n ymwybodol nad ydy staff sy’n gallu siarad Cymraeg bob amser yn gwneud hynny yn y gweithle, ac roedden ni eisiau deall y sefyllfa er mwyn gallu cynnig y gefnogaeth fwyaf effeithiol posib iddyn nhw. Roedd gwaith ymchwil cychwynnol gydag un tîm yn dangos mai ychydig dros 25% o’r sgyrsiau rhwng swyddogion oedd yn cael eu cynnal yn Gymraeg. Fel rhan o’r ymchwil, fe wnaethom ni ofyn i bum aelod o’r tîm ddefnyddio’r Gymraeg bob amser gyda chydweithwyr oedd yn eu deall. Wrth arsylwi effaith y prosiect, casglwyd bod y Gymraeg wedi cael ei defnyddio dros 60% o’r amser. O ganlyniad, bydd Brifysgol yn datblygu’r rhaglen ARFer gyda’r nod o lunio pecyn y gall sefydliadau eraill ei ddefnyddio yn eu gweithleoedd hwythau hefyd.’
Mewn ymateb i gyflwyniad Dr Hughes ar y project, meddai Comisiynydd y Gymraeg, Meri Huws:
‘Er mwyn hybu a hwyluso defnyddio’r Gymraeg o fewn y gweithle mae’n allweddol bwysig bod sefydliadau â dealltwriaeth o ddefnydd iaith y gweithlu. Credaf bod y prosiect ARFer yn cynnig methodoleg effeithiol i newid ymddygiad aelodau o staff trwy deilwra ymyraethau a chefnogaeth mewn modd nad yw’n gymhleth a chostus.’
Ategwyd hyn gan Dr Llion Jones, Cyfarwyddwr Canolfan Bedwyr: ‘Yr hyn sy’n wirioneddol gyffrous am y gwaith yma yw ei fod yn cynnig data a safbwyntiau newydd i’r drafodaeth am y Gymraeg. Yng nghyd-destun targed Llywodraeth Cymru o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, mae’r prosiect ARFer yn cadarnhau bod Prifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ a Chanolfan Bedwyr ar flaen y gad wrth chwilio am ddatrysiadau newydd i’r cyfleoedd a’r heriau sy’n wynebu’r Gymraeg.’
Gwyliwch fideo am y gwaith:
Dyddiad cyhoeddi: 12 Tachwedd 2018