Rhannu technolegau iaith y Gymraeg 芒 gweddill y byd
Ar 25 Ionawr, daeth ymchwilwyr academaidd, datblygwyr lleol a chynrychiolwyr rhai o gwmn茂au mawr y sector digidol at ei gilydd ym Mangor i drafod a rhannu arferion da ym maes technolegau iaith, a hynny yng Nghynhadledd Technoleg a鈥檙 Gymraeg 2019. Dyma鈥檙 drydedd gynhadledd i鈥檞 chynnal gan Uned Technolegau Iaith Canolfan Bedwyr, sef Canolfan Gwasanaethau, Technoleg ac Ymchwil Cymraeg Prifysgol 香港六合彩挂牌资料.
Eleni, agorwyd y gynhadledd gan Eluned Morgan AC, Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol, a gyflwynodd Gynllun Gweithredu Technoleg Cymraeg Llywodraeth Cymru, sef cynllun uchelgeisiol gan y Llywodraeth i sicrhau defnydd cyflawn o dechnoleg yn ei nod o sicrhau bod miliwn o siaradwyr y Gymraeg erbyn 2050.
Yn ogystal 芒 thrafod y Cynllun Gweithredu, cafwyd cyflwyniadau ar strategaethau digidol ar gyfer adfywio ieithoedd, technoleg adnabod lleferydd ar gyfer y Gymraeg a thrafodaethau ar sut y gall technolegau iaith fod yn yrrwr i鈥檙 economi. Yn ogystal, rhoddwyd sylw i ieithoedd lleiafrifol eraill a lle technoleg yng nghyd-destun hyfywedd yr ieithoedd hynny.
Ymhlith y cyfranwyr eleni oedd cynrychiolydd o gwmni rhyngwladol Mozilla, arweinydd project Amrywiaeth ieithyddol Digidol Ewrop, ymchwilydd cyfieithu peirianyddol o Dublin City University a Wicimediwr Cenedlaethol Cymru, Jason Evans.
Wrth gloriannu鈥檙 gynhadledd eleni, meddai Pennaeth yr Uned Technolegau Iaith, Delyth Prys:
鈥淩ydyn ni鈥檔 arbennig o falch o fedru croesawu Eluned Morgan i agor y gynhadledd eleni. Mae鈥檙 Gymraeg yn rhan o deulu o ieithoedd bach ar draws y byd sy鈥檔 awyddus i lwyddo yn y byd technolegol a digidol newydd, ac mae cyfleoedd fel hyn i rannu syniadau a datblygiadau arloesol yn bwysig i ni i gyd. Gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, mae Cymru yn flaengar wrth ddefnyddio technolegau iaith i adfywio a diogelu ein hiaith, ac rydyn ni鈥檔 falch o fedru rhannu鈥檙 datblygiadau yma gyda鈥檙 gymuned ryngwladol ehangach.鈥
Ategwyd hyn gan Yr Athro Jerry Hunter, Dirprwy Is-ganghellor sydd 芒 chyfrifoldeb dros y Gymraeg:
鈥淵n ogystal 芒 bod yn ddarparwr addysg uwch cyfrwng Cymraeg o bwys, mae鈥檔 wych gweld Prifysgol 香港六合彩挂牌资料 yn arwain ar yr holl elfennau atodol hynny 鈥 ymchwil, polisi a thechnoleg 鈥 sy鈥檔 cyfrannu at gyrraedd nod Llywodraeth Cymru o greu miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Nid agweddau ar wah芒n mo rhain, yn bodoli mewn gwagleoedd, ond yn hytrach y seilwaith sydd ei hangen arnom wrth i ni gyrchu鈥檙 nod uchelgeisiol hwn.鈥
Wrth agor y gynhadledd eleni, cyfeiriodd Eluned Morgan AC at yr angen i dechnoleg Gymraeg i allu cynnal datblygiadau presennol yn y maes ac i rannu ei harbenigeddau ag eraill:
鈥淢ae technoleg eisoes wedi newid y ffordd ry鈥檔 ni鈥檔 byw yn llwyr, ac mae鈥檔 bosibl y bydd y newidiadau鈥檔 digwydd yn gyflymach fyth yn y dyfodol. Dwi鈥檔 falch fod cynhadledd o鈥檙 fath wedi ei drefnu er mwyn i bawb allu dysgu oddi wrth ein gilydd er budd ein hieithoedd ni i gyd ym myd technoleg.鈥
Dyddiad cyhoeddi: 28 Ionawr 2019