Y Gymraeg yn y Brifysgol yn ennill Gwobr Ysbrydoli Cymru
Mae gwaith arloesol Prifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ yn hybu a hyrwyddo’r Gymraeg yn y gweithle wedi dod i’r brig mewn noson wobrwyo uchel ei bri. Mewn seremoni fawreddog yn Neuadd y Ddinas Caerdydd o dan nawdd y Sefydliad Materion Cymreig a’r Western Mail, derbyniodd y Brifysgol wobr Ysbrydoli Cymru yn y categori ‘Gweithleoedd Dwyieithog’.
Cafodd y Brifysgol ei henwebu ar gyfer y wobr ar sail ystod eang o weithgareddau sy’n ei galluogi i gynnal gweithle dwyieithog. Ymhlith y gweithgareddau hynny, cyfeiriwyd yn benodol at wasanaethau a gwefan a ddatblygwyd gan y ganolfan y llynedd. Rhoddwyd sylw hefyd i’r ddarpariaeth ddwyieithog gyfoethog ym meysydd datblygu staff a thechnoleg Gwybodaeth, y gwersi Cymraeg i staff ar bob lefel a’r llu modiwlau cyfrwng Cymraeg sy’n paratoi myfyrwyr ar gyfer gweithio’n ddwyieithog ar ôl iddynt raddio.
Yn ganolog i’r enwebiad yr oedd pwyslais y Brifysgol ar gynyddu hyder staff i ddefnyddio’r Gymraeg wrth eu gwaith o ddydd i ddydd a’i dyhead i sicrhau fod gan staff ar draws y sefydliad rôl i’w chwarae wrth hyrwyddo gweithle dwyieithog. Cyfeiriwyd yn benodol at y ffordd y mae gwefan yn darparu adnoddau ar bob lefel - o adnoddau i helpu staff ynganu neu ysgrifennu brawddeg syml yn y Gymraeg i adnoddu i helpu staff gadeirio cyfarfodydd dwyieithog ac ysgrifennu adroddiadau yn y Gymraeg.
Meddai Wyn Thomas, Dirprwy Is-Ganghellor gyda chyfrifoldeb dros y Gymraeg:
"Mae derbyn Gwobr Gweithleoedd Dwyieithog yr IWA yn fraint aruthrol ac yn arwydd o'r parch a'r edmygedd arbennig sydd i Brifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ o ran hyrwyddo’r Gymraeg yng Nghymru heddiw. Nid ar chwarae bach y mae arwain datblygiadau o'r fath, ond rydym yn ffyddiog y bydd Y Coleg ar y Bryn yn parhau i chwarae rhan arweiniol yn y gwaith o hybu defnydd o'r Gymraeg yn sefydliadau Cymru ac yn arwain yn y cyfnod cyffrous hwn sydd o’n blaen.”
Dyddiad cyhoeddi: 14 Mehefin 2012