YR UNED TECHNOLEGAU IAITH WEDI ENNILL ARDYSTIAD ISO 27001:2013
Mae diogeledd seibr yn dod yn bwysicach bob dydd wrth i ymosodiadau ar ein data cyfrifiadurol amlhau. Yr Uned Technolegau Iaith yw’r uned gyntaf ym Mhrifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ, ac unrhyw brifysgol yng Nghymru, i ennill ardystiad ISO 27001. Mae hwn yn safon rhyngwladol cydnabyddedig ar gyfer rheoli diogeledd gwybodaeth sy’n amlinellu gofynion penodol ar gyfer creu system rheoli diogeledd gwybodaeth. Bellach bydd awdurdodau cyhoeddus ac eraill yng Nghymru yn gallu rhoi cynnyrch yr Uned megis yr ategyn Vocab [] yn hyderus ar eu gwefannau heb ofni ymosodiadau o’r tu allan.
Diolch i Wasanaethau Digidol y brifysgol am eu cymorth ac i ITGoverance am eu gwasanaeth ymgynghori gwych a’u harweiniad drwy’r broses ac i Alcumus ISOQAR am gynnal proses awdit drylwyr a llwyddiannus.
Dyddiad cyhoeddi: 27 Ionawr 2023