Cliciwch ar y cwestiwn er mwyn cael yr ateb.Ìý
Os nad ydych yn medru dod i’n Diwrnod Agored, gallwch ymweld â ni ar ddiwrnod sy’n gyfleus i chi. Cysylltwch â ni cyn gynted a phosibl fel ein bod yn medru sicrhau y profiad gorau bosibl. Cysylltwch â ni ar diwrnodauagored@bangor.ac.uk
Os ydych yn y broses o wneud cais am le mewn prifysgol, mae’n debyg y bydd gan eich ysgol neu goleg gopi o’r llyfryn Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau neu gallwch ddarllen y dudalen weÌýYsgoloriaethau a Bwrsariaethau.
Mae'r system o wneud cais am lety'n agor fis Ionawr fel arfer. Bydd ymgeiswyr sydd wedi derbyn cynnig (a all fod yn un amodol) i astudio yn y Brifysgol ym mis Medi ac sy'n nodi Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ fel eu Dewis Cadarn, yn derbyn e-bost yn eich gwahodd i wneud cais am lety. Unwaith y byddwch wedi derbyn yr ebost, gallwch archebu ystafell drwy wneud cais ar-lein.
Dylech wneud cais am ystafell mewn neuadd cyn gynted ac y gallwch. Gallwch edrych ar yr holl Neuaddau gwahanol sydd gennym yma ym Mangor ar y wefan ³¢±ô±ð³Ù²âÌýlleÌýgallwch wylio fideos a gweld lluniau o’r ystafelloedd.
Os oes gennych gynnig amodol ac eich bod wedi cyflawni amodau ein cynnig – ewch ar UCAS Hub i weld os yw eich lle wedi ei gadarnhau - Llongyfarchiadau rydych ar eich ffordd i'r brifysgol!
Peidiwch a phoeni! Y peth cyntaf i’w wneud yw edrych ar eich statws ar UCAS Hub. Os ydych wedi cael eich gwrthod, byddwch yn cael eich rhyddhau i’r system Glirio yn awtomatig. Bydd llefydd ar gael ar gyrsiau mewn nifer o brifysgolion trwy’r system Glirio. Bydd Prifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ yn cyhoeddi rhestr o bynciau sydd efo llefydd trwy’r system Glirio a bydd modd i chi gysylltu efo gwahanol brifysgolion. Gallwch gysylltu â phrifysgolion yn uniongyrchol (gan amlaf ar eu Llinell Gymorth neu Sgwrs Fyw) i holi am lefydd ar gyrsiau.
Mae'r rhan fwyaf o brifysgolion yn cychwyn eu tymor cyntaf ddiwedd mis Medi. Mae'r wythnos gyntaf, sef Wythnos Groeso, yn gyfle i chi gynefino. Nid oes darlithoedd ffurfiol yn ystod yr wythnos ac mae amryw o weithgareddau'n cael eu trefnu er mwyn i chi ddod i adnabod myfyrwyr eraill a dod i adnabod y brifysgol.Ìý
Cewch wybod mwy am Wythnos Groeso a'r union ddyddiadau ar ein gwefan.
Wythnos Groeso (sydd hefyd yn cael ei hadnabod fel Wythnos y Glas, Ffreshers, Wythnos Gynefino) yw’r wythnos gyntaf y byddwch yn ei dreulio yn y brifysgol. Byddwch yn cael y cyfle i gymryd rhan yn y gweithgareddau lu sydd yn cael eu trefnu gan yr ysgolion academaidd. Yn ystod yr wythnos byddwch yn dewis modiwlau, talu ffioedd a dewis pa glybiau a chymdeithasau i ymuno â nhw yn y Ffair Serendipedd.
Côd Post prif adeilad Prifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ ydy LL57 2DG. Am gyfarwyddiadau teithio, cliciwchÌýymaÌý