Gall y cyfnod sydd yn arwain at ddiwrnod canlyniadau Lefel A greu pryder mawr i rai ond ni phoener, mae gennym yr wybodaeth sydd ei angen arnoch i'ch helpu i ddeall beth fydd y camau nesaf a sut mae'r system Glirio yn gweithio petae chi ei angen.
听
Ar ddiwrnod canlyniadau, gallwch fewngofnodi i'ch cyfrif UCAS i weld eich statws. Os ydych wedi cael eich derbyn gan eich Dewis Cadarn, fe welwch neges yn dweud bod eich lle gyda hwy wedi ei gadarnhau. Os nad ydych wedi cael eich derbyn gan eich Dewis Cadarn, ond rydych wedi cael eich derbyn gan eich Dewis Wrth Gefn, fe welwch y neges yma ar eich cyfrif UCAS.
Peidiwch 芒 phoeni os nad ydych wedi bod yn llwyddiannus yn cael eich derbyn gan eich Dewis Cadarn a'ch Dewis Wrth Gefn, byddwch yn cael eich gosod yn system Glirio. Pan rydych yn mewngofnodi i UCAS fe welwch neges yn nodi eich bod yn y system Glirio a bydd opsiwn yno i chi ddewis prifysgol fel eich Dewis Clirio. Peidiwch 芒 dewis prifysgol fel eich Dewis Clirio heb siarad gyda'r brifysgol yn gyntaf.
Unwaith rydych yn y system Glirio, mae'n rhaid i chi gysylltu 芒 phrifysgolion yn uniongyrchol (gan amlaf ar eu Llinell Gymorth neu Sgwrs Fyw) i holi am lefydd ar gyrsiau. Bydd gwefan UCAS yn cyhoeddi rhestr o bob prifysgol sy'n cynnig llefydd drwy'r system Glirio. Bydd gwefannau prifysgolion hefyd yn cynnwys gwybodaeth am y cyrsiau maent yn eu cynnig drwy'r system Glirio.听Bydd gwybodaeth Clirio Prifysgol 香港六合彩挂牌资料 ar gael ar y wefan o fis Mehefin.
Cyn i chi gysylltu 芒 phrifysgolion, dylech gael y canlynol wrth law: eich rhif personol UCAS, rhif Clirio, cod cyrsiau, cyfeiriad e-bost a rhif ff么n. Byddent hefyd yn gofyn i chi am eich canlyniadau arholiadau Lefel A, neu gymwysterau tebyg megis BTEC ac yn gofyn am ganlyniadau TGAU perthnasol.听
Os cewch chi gynnig lle drwy'r system Glirio, mae'n rhaid i chi ddewis y Brifysgol honno drwy UCAS er mwyn cadarnhau eich bod yn derbyn y lle. Cewch gysylltu 芒 chymaint o brifysgolion a dymunwch i holi am gyrsiau, ond dim ond un cynnig cewch dderbyn.听
听