Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ

Fy ngwlad:

Taflen wybodaeth iechyd a lles

²Ñ²¹±ð’r ddogfen hon yn amlygu’r ddarpariaeth fewnol ac allanol sydd ar gael i helpu staff i wella, a hyrwyddo, eu lles meddyliol, emosiynol a chorfforol.

²Ñ²¹±ð’r wybodaeth ganlynol wedi’i strwythuro i adlewyrchu gwahanol lefelau a’r brys o angen am gymorth, gan ddechrau gyda chymorth ar gyfer cymorth ar unwaith (Gwyn), cymorth canolraddol i wella llesiant (Llwyd), ac adnoddau i helpu i hyrwyddo llesiant (Glas).

Gobeithiwn y bydd y ddogfen hon yn eich helpu i gael gwell dealltwriaeth o'r adnoddau sydd ar gael ar gyfer iechyd a lles staff

Cefnogaeth ganolraddol

Gwasanaethau iechyd meddwl cymunedol y GIG

Canolfan iechyd meddwl bwrdd iechyd prifysgol betsi cadwaladr.

Mae bwrdd iechyd prifysgol betsi cadwaladr (bcuhb) yn darparu gwybodaeth a chyfeiriadau at amryw o wasanaethau lleol yn y gymuned i gefnogi iechyd meddwl a lles. Mae'r rheini’n cynnwys meddygfeydd y meddygon teulu, hwb cymunedol gallaf, gwasanaeth iechyd meddwl gofal sylfaenol, monitro gweithredol a therapïau parabl.

I weld rhestr gyflawn o’r gwasanaethau a’r gefnogaeth sydd ar gael gweler

Cyrsiau Iechyd a Lles

Mae Swyddfa Hunanofal Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn cynnal nifer o i oedolion sy'n byw mewn cymunedau ledled y gogledd i helpu gwella lles a rheoli cyflyrau iechyd tymor hir yn effeithiol. Ymhlith y cyrsiau mae Pum Ffordd at Les, Cysylltu â Phobl, Bwyta’n Gall, Calonnau Iach a llawer mwy.

Therapi ar-lein SilverCloud

Gall pobl ledled Cymru gael mynediad at therapi ar-lein am ddim heb fod angen mynd trwy eu meddyg teulu.

Mae yn llwyfan therapi ar-lein sy'n defnyddio dulliau a brofwyd fel therapi ymddygiad gwybyddol (CBT) i helpu pobl i reoli eu problemau trwy eu hannog i newid y ffordd maent yn meddwl ac ymddwyn.

Ìý

Gall pobl 16 oed a hŷn sy’n profi gorbryder ysgafn i gymedrol, iselder neu straen gofrestru ar gyfer cwrs 12 wythnos o therapi ar-lein SilverCloud. Gallwch ddewis o un o 17 o raglenni iechyd meddwl a lles ar-lein, gan gynnwys help gyda gorbryder, iselder, straen, cwsg, a phryderon ariannol.

Ìý

SHORT TERM COUNSELLING Ìý

VIVUP - Rhaglen Cymorth i Weithwyr

Pa bynnag broblem iechyd meddwl, corfforol, ariannol neu bersonol yr ydych yn ei hwynebu, gallwch gael cymorth a chefnogaeth arbenigol ar gyfer bywyd da a drwg, 24/7, 365 diwrnod y flwyddyn. I gael rhagor o wybodaeth am VIVUP, ewch i ar wefan AD.
Telephone: :+448000239387

Iechyd Galwedigaethol

Os oes gennych bryderon am eich iechyd a'ch gallu i wneud eich gwaith neu os ydych yn dychwelyd i'r gwaith ar ôl cyfnod o salwch, gallwch ofyn am gyngor ac ymgynghoriad gan Iechyd Galwedigaethol. Ewch iÌýIechyd GalwedigaetholÌýi gael rhagor o wybodaeth ar y llwybrau atgyfeirio a gwasanaethau cefnogi sydd ar gael.

Hyrwyddo lles

Datblygu lles staff yn y gwaith:

Mae'r brifysgol yn cynnig nifer o gyfleoedd hyfforddi a datblygu personol a phroffesiynol i staff ym mhob swydd.. Ewch i'r dudalen am fanylion sut mae cofrestru:ÌýÌý

  • Sesiynau hyfforddi a datblygu mewnol pwrpasol
  • Cynlluniau hyfforddi a mentora academaidd
  • Hyfforddiant I-act
  • Cofio Iechyd MeddwlÌý ²Ñ²¹±ð’r cwrs ar-lein hwn wedi ei lunio i roi'r sgiliau, y wybodaeth a'r hyder i staff roi cefnogaeth gychwynnol i fyfyrwyr sy’n dioddef o broblemau iechyd meddwl.ÌýÌý I gael mynediad at y cyfle dysgu hwn, cliciwch
  • Hyfforddiant Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl Cymru
  • Ymateb i ddatgeliadau o drais rhywiol ÌýMae'r cwrs hwn wedi ei lunio i gynorthwyo staff i dderbyn datgeliad o drais rhywiol gan fyfyriwr. Mae'r cwrs yn rhyngweithiol ac yn cynnwys nifer o fideos byr, astudiaethau achos, erthyglau newyddion a gweithgareddau. Dylai gymryd tua 1-2 awr i'w wneud i gyd.Ìý Cliciwch i gyrchu'r cwrs hwnÌý

Adnoddau rhyngweithiol a chanllawiau ymarferol y brifysgol:

Mae Ìýyn cynnwys adnoddau ac erthyglau ar amrywiaeth eang o faterion iechyd meddwl yn cynnwys cadw’n heini’n feddyliol, cysgu’n braf, rheoli straen, hunan-barch, a chydbwysedd gwaith/bywyd.

Mae a ddarperir gan My Possible Self, yn cynnig cyfresi o dan arweiniad a phecyn cymorth o dechnegau ac ymarferion rhyngweithiol i'ch helpu i wneud synnwyr o broblemau, nodi’r arferion rydych am eu newid, a dysgu dulliau ymdopi er mwyn byw'n hapusach ac yn iachach.

Mae yn cynnwys awgrymiadau a dulliau o gefnogi arferion a dulliau iechyd meddwl da i nodi ac ymdrin yn effeithiol ag achosion o drallod

Ìý

Mae yn cyflwyno ystyriaethau allweddol mewn perthynas â rheoli'r pwysau arferol sy'n dod yn sgil addasu i newid.

Ìý

Mae Ìýyn cyflwyno polisi straen y brifysgol ac yn darparu canllawiau ac offer hunanasesu wedi eu teilwra sy'n ymwneud â nodi a rheoli straen yn y gwaith.

Ìý

²Ñ²¹±ð’r Ganolfan Ymchwil ac Ymarfer Ymwybyddiaeth OfalgarÌý yn cynnig sesiynau adfyfyrio ymwybyddiaeth ofalgar am ddim. Os yw'n well gennych ymarfer ymwybyddiaeth ofalgar yn fyw a chyda phobl eraill, gallwch hefyd ymuno ag amrywiaeth o ar ZoomÌýdan ofal eu helusen gysylltiedig The Mindfulness Network, arweinir y sesiynau hyn gan athro ymwybyddiaeth ofalgar a chânt eu cynnal o leiaf unwaith yr wythnos.

Ìý

I gael rhagor o hunangymorth ac adnoddau gwybodaeth allanol i gefnogi lles meddyliol, ewch i ar wefan Iechyd a Lles.

Y Gaplaniaeth a Darpariaeth Ffydd:

Caiff Caplaniaeth a darpariaeth ffydd ym Mhrifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ eu harwain gan ddeuddeg o unigolion o ffydd a chefndiroedd crefyddol amrywiol. Maent yma i wrando, i weddïo gyda chi, i dafod agweddau ar fywyd a ffydd, ac mae rhai yn cynnig arweiniad a mentora ysbrydol.

Gweithgareddau corfforol ar gyfer iechyd a lles:

Cyfleusterau chwaraeon a hamdden:

Mae gan y brifysgol amrywiaeth eang o gyfleusterau chwaraeon a hamdden dan do ac awyr agored ar draws pedwar safle’r brifysgol.

Ìý

Canolfan BrailsfordÌýyw prif ganolfan chwaraeon y brifysgol ar gyfer aelodau Prifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ a'r gymuned leol. Mae'n gartref i amrywiaeth o gyfleusterau chwaraeon, gan gynnwys Astroturf, wal ddringo, campfeydd, llwyfan perfformio, cyrtiau sboncen a llawer mwy.

Ìý

Mae rhaglen ffitrwydd yn cynnig amrywiaeth o ddosbarthiadau bob dydd o’r wythnos, gan gynnwys rhaglen feicio ‘spinning’, ioga, Pilates, hyfforddiant dwysedd uchel ysbeidiol, a bocsio. Gall sesiynau hyfforddiant personol helpu unigolion i gyflawni eu canlyniadau iechyd a ffitrwydd yn gyflymach, gwella techneg a ffurf, a dyfeisio trefn ffitrwydd wedi'i theilwra i anghenion a dewisiadau personol.

Staff Actif a Bŵtcamp

Mae Staff Actif yn rhaglen o weithgareddau sy’n cynnig cyfle i staff brofi gweithgaredd newydd bob mis o'r flwyddyn. Gall staff roi cynnig ar ddosbarthiadau mewn ystum ac iechyd y cefn, bocsio, soffa i 5km, saethyddiaeth a llawer mwy. Mae Bwtcamp Staff wedi'i gynllunio i adeiladu cryfder a ffitrwydd trwy gymysgedd o weithgareddau aerobig, hyfforddiant cryfder a chyflymder.

Mae Staff Actif a Bŵtcamp yn costio £2 y sesiwn ac nid oes rhaid i staff fod yn aelod o Ganolfan Brailsford i ymuno.

Cynllun Beicio i’r Gwaith

Mae'r cynllun beicio i'r gwaith yn galluogi staff i gael budd o logi beiciau ac offer cymudo yn y tymor hir. Mae'n gynllun lle nad oes angen talu treth ac Yswiriant Gwladol a sefydlwyd gan y Llywodraeth a'r Adran Drafnidiaeth i helpu hyrwyddo teithio iachach i'r gwaith a lleihau llygredd a thagfeydd.

Ewch i Buddion Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ i gael gwybodaeth am sut i gymryd rhan yn y cynllun hwn.

Ìý

Nofio

Mae nofio yn ymarfer ysgafn gwych sy'n defnyddio pob grŵp o gyhyrau ac yn ymarfer i’r corff cyfan. Os ydych yn mwynhau nofio i gadw’n heini neu ar gyfer hamdden, gallwch ddewis o sawl lleoliad ar draws y gogledd. Gweld lle mae eich canolfan nofio a hamdden leol.

Ìý

Cerdded

Mae cerdded yn un o'r ffyrdd symlaf o sicrhau iechyd a ffitrwydd cyffredinol. Mae ein tudalen oÌý deithiau cerdded ÌýÌýyn cynnwys teithiau cerdded amser cinio o wahanol fannau ar safleoedd ym Mangor a Phorthaethwy a rhai teithiau cerdded hanesyddol i ddysgu am hanes a threftadaeth leol. Gallwch hefyd weld casgliad o deithiau cerdded gyda’r golygfeydd gorau o fynyddoedd Eryri, Penrhyn LlÅ·n, Llwybr Arfordir Môn, a Sir Conwy.

Eich cefnogi i gael iechyd corfforol llawn

Mae'r brifysgol yn cynnig nifer o wasanaethau i helpu i roi sylw i gyflyrau iechyd corfforol.

Iechyd galwedigaethol

Mae Iechyd GalwedigaetholÌýyn helpu staff sy'n dychwelyd i'r gwaith ar ôl afiechyd. Mae’n sicrhau bod mesurau priodol ar waith i gefnogi staff sydd â phroblemau iechyd i weithio'n ddiogel ac yn effeithiol.