Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru a Hanes Menywod
Gan edrych ymlaen at Gynhadledd flynyddol Archif Menywod Cymru, a gynhelir ar 5ed a 6ed Hydref 2024 ym Mhrifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ, eisteddodd Bethan Scorey, ein Swyddog Ymchwil ac Ymgysylltu, i lawr gyda’i chyd-ymchwilwyr doethurol Sara Fox a Lizzy Walker i drafod menywod ac ystadau Cymru, sef un o themâu trawsbynciol yn ymchwil y Sefydliad a’r llinyn cyffredin rhwng eu prosiectau doethurol.
Chwaraeodd menywod ran hollbwysig ym mywyd cymdeithasol a diwylliannol ystadau Cymru; o foneddigesion i ddeiliaid tir i weision domestig, roedd menywod yn ganolog i weithrediad ystadau a phlastai. Roedd menywod hefyd yn chwarae rhan allweddol yn natblygiad ystadau, er enghraifft yn ystod gweddwdod roedd llawer o foneddigesion yn rheoli stadau ac yn ceisio eu gwneud mor broffidiol â phosibl cyn eu trosglwyddo i’r etifedd gwrywaidd - efallai mai dyma pam nad yw llawer o foneddigion yn cael eu cydnabod am eu cyfraniad. Soniodd Sara am achos Cecil de Cardonnel (1735-1793) a’i gwr George Rice (1724-1779): ef sy’n derbyn yr holl glod am wneud gwelliannau amaethyddol sylweddol a chynyddu proffidioldeb y tir Ystâd Dinefwr yn Sir Gaerfyrddin, ond dengys deunydd archifol fod Cecil wedi rheoli’r ystâd yn llwyddiannus ar ôl marwolaeth ei gŵr, ac mae ei thanysgrifiad blynyddol i’r Gymdeithas Amaethyddol yn dystiolaeth o’i diddordeb personol hithau mewn gwelliannau amaethyddol. Yn ogystal, tynnodd Sara sylw at y ffaith bod cyfraniadau elusennol boneddigesau yn aml yn mynd yn ddisylw, er gwaethaf y ffaith bod eu cymwynasgarwch wedi chwarae rhan arwyddocaol wrth adeiladu perthynas rhwng y plasty a’r gymuned leol.
I ddod â’r straeon hyn i’r amlwg, mae Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru yn annog ysgolheictod newydd ar fywydau a phrofiadau menywod yn hanes Cymru. Ym mis Tachwedd 2018 buom mewn partneriaeth ag a Chymdeithas Hynafiaethwyr Sir Gaerfyrddin i gynnal cynhadledd undydd yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru ar y thema ‘Paradeimiau Patriarchaidd? Rolau a phrofiadau menywod ar ystadau Cymru’. Roedd y gynhadledd yn cynnwys sesiynau ar y themâu ‘Rhywedd, Llenyddiaeth a Hunaniaeth’, ‘Gerddi, Tirweddau a Chasgliadau’, ‘Boneddigesion yng Nghymru Fodern Gynnar’, ac ‘Ail-ddehongli Plastai a’u Casgliadau’, ac ysbrydolodd sawl prosiect ymchwil newydd. Un canlyniad oedd Prosiect Llythyrau Augusta Mostyn, sef prosiect i gatalogio ac ymchwilio ddwy gist yn llawn gohebiaeth, cyfrifon a phapurau yn ymwneud ag Augusta Mostyn (1830-1912) a drosglwyddwyd i Archifau Prifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ gan yr Arglwydd Mostyn. Roedd Augusta Mostyn yn un o’r menywod mwyaf dylanwadol yn hanes gogledd Cymru a gwnaeth gyfraniad aruthrol i ddatblygiad Llandudno, serch hynny nid yw cofiant academaidd wedi’i gyhoeddi eto. Gwirfoddolodd Dr Dinah Evans, cyn Ddarlithydd Hanes ym Mhrifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ, gyda’r Archifau a Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru i gatalogio ac ymchwilio i’r casgliad, gan rannu rhai o’r mewnwelediadau a ddarparwyd gan y papurau mewn digwyddiad cyhoeddus ym mis Rhagfyr 2023.
Mae hanes menywod hefyd yn thema gyffredin ar draws sawl prosiect ymchwil doethurol Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru. Yn ystod ei gradd israddedig mewn Hanes Cymru gydag Archaeoleg a’i gradd meistr mewn Hanes Cymru ym Mhrifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ sylweddolodd Lizzy Walker nad oedd llawer wedi’i ysgrifennu ar hanes menywod yng Nghymru. Bellach mae’n cyfrannu i’r maes gyda’i phrosiect doethurol o’r enw ‘The landownering and landholding women of north-east Wales from ca.1600 to 1800’, sy’n herio’r safbwynt ystrydebol nad oedd merched yn berchen ar dir nac yn dal tir yng Nghymru yn hanesyddol. Yn ôl Lizzy, mae’r ffaith roedd menywod yn berchen tir a gwneud gwaith amaethyddol wedi’i ysgrifennu allan o hanes oherwydd roedd hi mor gyffredin. Ond fel merch i ffermwr a fagwyd mewn cymuned ffermio fechan ger Llangollen, roedd hi’n cymryd y ffaith bod merched yn gweithio mewn amaethyddiaeth yn ganiataol, a bellach mae wedi synnu nad yw hyn yn wybodaeth gyffredin – er enghraifft, ychydig iawn o fenywod o Gymru a ymunodd â Byddin Tir y Merched yn ystod yr Ail Ryfel Byd oherwydd eu bod eisoes yn gweithio’r tir.
Mae ei phrosiect defnyddio deunyddiau archifol megis papurau ystâd, dogfennau profiant, a chofnodion y Sesiwn Fawr a’r Sesiwn Chwarter i bwysleisio faint o fenywod oedd yn berchen tir, rheoli tir, a gweithio’r tir ar draws gogledd-ddwyrain Cymru yn y cyfnod dan sylw, sef 1600-1800. ‘Roedd menywod yn bresennol o hyd’ meddai, gan drafod un o’i hastudiaethau achos lle’r oedd tair cenhedlaeth olynol o fenywod yn berchen ar dyddyn ac yn gweithio ynddo. Yn ddiddorol, mae hyn yn awgrymu bod merched wedi etifeddu tir ac wedi cael eu hyfforddi i'w reoli hyd yn oed pan oedd etifeddion gwrywaidd, sy'n gwneud cyferbyniad diddorol â'r dosbarth bonedd a oedd yn meddwl am eu meibion yn unig; trafodwn sut yr ymddengys mai dyma effaith barhaol Cyfraith Cymru ac etifeddiaeth ranadwy (cyfran). Trafodwn hefyd realiti a llafur beunyddiol y merched hyn, a sonia Lizzy am un o’i menywod a oedd yn rheoli deuddeg erw yn wyth deg chwech oed ar ddechrau’r ail ganrif ar bymtheg. Yn ddiweddar cyflwynodd Lizzy bapur ar fenywod ystâd Croes Howell yn Sir Ddinbych yn y ddeunawfed ganrif yng Nghynhadledd Ôl-raddedigion Hanes Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd.
Prosiect doethuriaeth Sara Fox, ’Aloof Among its Beeches’: Welsh Writing in English - representations of the Gentry House from the Late Eighteenth century onwards', yw’r astudiaeth gyntaf o gynrychioliadau ffuglennol o blastai yng Nghymru. Disgrifia Sara sut mae ei phrosiect wedi esblygu i edrych ar awduron benywaidd yn unig, ac mae’n canmol y gwaith y mae’r wasg gydweithredol annibynnol ±á´Ç²Ô²Ô´ÇÌýwedi’i wneud i gyhoeddi llyfrau gan awduron benywaidd Cymreig sydd wedi’u anghofio. Yn ogystal â’u darluniau llenyddol o blasdai, mae Sara yn edrych ar fywydau’r awduron, a oedd yn aml yn fwy dramatig na bywydau eu cymeriadau! Yn ddiweddar mae hi wedi bod yn ymchwilio i’r Saesnes Ann Hatton (1764-1838), a gafodd ei diarddel gan ei theulu a’i thalu i gadw draw o Lundain. Ymgartrefodd hi a’i hail ŵr yn Abertawe gan agor ty ymdrochi, ond wedi i’r busnes hwnnw fethu a’i gŵr farw, dechreuodd Ann ysgrifennu nofelau. Cyhoeddodd ddwy ar bymtheg o nofelau i gyd, oll o dan y’r enw ‘Ann of Swansea’; Mae gan Sara ddiddordeb mawr ym mherthynas Ann gydag Abertawe, ac yn awgrymu ei bod wedi’i denu at ‘radicalrwydd yr awyr’. Mae ei nofelau’n llawn gwrthdroadau, lle mae menywod yn herwgipio dynion yn hytrach na’r ffordd arall rownd, a menywod yn gwisgo fel dynion ac yn ymladd gornestau gyda’r dynion y maent yn cael eu gorfodi i briodi.
Mae yna debygrwydd diddorol hefyd rhwng prosiectau Sara a Lizzy, sef menywod mewn rolau rheoli. Mae Sara’n adrodd hanes Amy Dillwyn (1845-1935), a fu’n rheoli fferm ei thad yn Hendrefoelan o’i gwely am ddegawd. Ar farwolaeth ei thad etifeddodd ei waith sbleter yn Llansamlet a oedd mewn dyled ddifrifol, ond llwyddodd i’w hachub gan arbed tri chant o swyddi yn y broses. Disgrifia Sara sut y cymerodd Amy ‘y syniad gwrywaidd hwn o anrhydedd y teulu’ ymlaen, gan fabwysiadu persona gwrywaidd, gwisgo mewn dillad gwrywaidd, ac ysmygu sigarau. Mae ei chwe nofel yn archwilio’r thema o ba mor gaeth a rheoledig oedd merched mewn cymdeithas batriarchaidd.
Gwnaeth traethawd hir Dr Sadie Jarrett, , gyfraniad sylweddol i’r astudiaeth o fenywod yng Nghymru fodern gynnar. Mae ei phennod ‘‘‘By reason of her sex and widowhood’’: An early modern Welsh gentlewoman in the Court of Star Chamber’ yn archwilio achos y Fonesig Margaret Lloyd (1565-1650) o deulu Salesbury. Cyhuddodd brawd iau Margaret, pennaeth teulu Salesbury, hi o gipio ei mab oddi wrth ei warcheidwad a chydlynodd ymosodiad ar ei chartref. Mewn ymateb, siwiodd Margaret ei brawd yn Siambr Llys y Seren. Mae pennod Sadie yn ystyried y berthynas rhwng merched a’u perthnasau gwrywaidd ar ddiwedd y cyfnod canoloesol, cyfnod pan oedd Cymru’n addasu i gyfreithiau newydd a oedd weithiau’n gwrthdaro â safbwyntiau sefydledig cymdeithas fonedd Cymru ar fenywod. Un o’i chasgliadau yw bod Margaret wedi gweithredu fel ‘asiant hyderus o fewn cyfyngiadau cymdeithas batriarchaidd’.
Mae Dr Mary Oldham, a gwblhaodd ei PhD ar Gregynog yn ddiweddar, hefyd wedi cyhoeddi erthygl mewn cyfnodolyn yn y Montgomeryshire Collections sy’n olrhain pa mor ganolog yw menywod i olyniaeth – a hanes – ystâd Gregynog.
Gan fod hanes menywod yn thema mor ganolog yn ymchwil Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru, yn naturiol rydym wedi datblygu partneriaeth gref a ffrwythlon gydag Archif Menywod Cymru. Mae eu cynhadledd flynyddol yn rhoi llwyfan ardderchog i’n cydweithwyr rannu eu hymchwil, a chefais gyfle i gyflwyno papur y llynedd. Fy mhrif ddiddordeb ymchwil yw hanes pensaernïol a gardd y plasty Cymreig, ac astudiaeth o Gastell Sain Ffagan yng Nghaerdydd yw fy mhrosiect doethuriaeth. Un agwedd o fy ymchwil yn dangos sut y dylanwadodd perchnogion Castell Sain Ffagan ar ddyluniad y tŷ a’r gerddi, a dwi wedi dylwi ar batrwm o dair cenhedlaeth olynol o fenywod Windsor-Clive yn gwneud cyfraniadau sylweddol i’r gerddi yn y cyfnod tua 1850-1920.
Etifeddodd Harriet Windsor-Clive (1797-1869) yr ystâd ar farwolaeth ei brawd hŷn, 6ed Iarll Plymouth, yn ddi-blant. Er iddi briodi i mewn i’r teulu Clive, hi oedd yn gyfrifol am gario llinell Windsor, ei henwau a’i theitlau ymlaen, drwy cael trwydded frenhinol i ddefnyddio’r cyfenw ‘Windsor-Clive’ a chael Barwniaeth Windsor wedi ei hadfywio yn 1855, tra cafodd yr Iarllaeth ei hadfywio am ei hŵyr. Wedi marwolaeth annisgwyl ei mab, rheolodd yr ystâd ar ran ei hŵyr ifanc. Harriet oedd yn gyfrifol am gychwyn dau brosiect adeiladu fawr yng Nghastell Sain Ffagan, sef ychwanegu bloc gweision newydd i gefn y tŷ a chreu terasau ffurfiol yn y gerddi. Soniodd fy mhapur am sut y gwnaed yr ychwanegiadau hyn yn yr arddull Gothig, gan gynnwys tŵr a chreneliadau, gan archwilio’r posibilrwydd taw bwriad Harriet oedd i ddangos ei hawdurdod dros ei thenantiaid. Daeth merch yng nghyfraith Harriet, Mary Windsor Clive (1829-1889), i reoli’r ystâd ym 1869, ac mae ei hychwanegiadau at gerddi Sain Ffagan yn adlewyrchu ei diddordeb personol mewn archaeoleg, er enghraifft cylch cerrig a ffurfiwyd o ddarnau o goed wedi’u ffosileiddio. Roedd merch-yng-nghyfraith Mary, Alberta ‘Gay’ Windsor-Clive (1863-1944), yn rhan o set gymdeithasol ffasiynol o’r enw ‘the Souls’ ac roedd yn westeiwraig poblogaidd. Datblygodd berthynas arbennig gyda Chastell Sain Ffagan, wrth iddi hi a’i theulu ifanc ymweld bob haf i ymlacio wedi Tymor Cymdeithaisol Llundain a threulio amser prin gyda’i gilydd. Roedd Gay yn ferch i Lysgennad Prydeinig, ac adlewyrchwyd ei magwraeth yn Rhufain a Fflorens yn ei hychwanegiadau i ardd Sain Ffagan, gan gynnwys yr ‘Ardd Eidalaidd’ awthentig iawn. Mae deunydd archifol yn datgelu ei bod wedi gweithio'n agos gyda'r Prif Arddwr a'i bod yn rhan o'r penderfyniadau ymarferol yn y gerddi, gan ofyn am planhigion penodol a chynghori ar led y llwybrau.
Roedd fy mhapur yn herio’r ddealltwriaeth bresennol mai aelodau gwrywaidd y teulu Windsor-Clive oedd yn gyfrifol am greu’r gerddi, er enghraifft un o’r unig weithiau yn y llenyddiaeth gyfredol ar y gerddi yw erthygl gyda’r teitl ‘Gerddi ±õ±ð¾±°ù±ô±ôÌýPlymouth yng Nghastell Sain Ffagan'. Yn benodol, heriodd y disgrifiad annheg o Gay Windsor-Clive fel ‘addurn gardd’ a grwydrodd o gwmpas ‘yn harddu’r lleoliad sydd eisoes yn brydferth’ mewn cyhoeddiad 2002 am adfer y Gerddi Eidalaidd. Wrth i’r gynhadledd gael ei chynnal yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru, roedd yna gyfle i gyfuno fy mhapur gyda thaith tywys o amgylch y gerddi.
Mae Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru yn falch iawn bod Cynhadledd Flynyddol Archif Menywod Cymru yn cael ei chynnal ym Mhrifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ eleni. Bydd tri o’n cydweithwyr yn cyflwyno papurau, gan gynnwys ein Cyfarwyddwr Dr Shaun Evans, y bydd ei bapur yn gymwys ‘Boniddigesau, Gweithgaredd Hynafiaethol ac Ymwybyddiaeth Hanesyddol Gymreig yn y 19eg Ganrif’. Bydd Lizzy yn cyflwyno papur ar ‘Menywod yn berchen ac yn ddeilliaid tir yn ngogledd-ddwyrain Cymru: Tystiolaeth o blydlesoedd yr 17eg a’r 18fed ganrif’, a bydd Dr Meinir Moncrieffe, a gwblhaodd ei phrosiect doethuriaeth ar Syr John Wynn o Wydir yn ddiweddar, yn rhoi papur yn dwyn y teitl ‘’Rhodd duw yw dynes radlon a gonest a does drysor cyffelyb iddi’: Camdriniaeth mud Gwragedd y Bonedd Cymreig’. Edrychwn ymlaen at y gynhadledd ac at barhau â’n perthynas ag Archif Menywod Cymru.
(Gan Bethan Scorey)