Mae Cymdeithas yr Ysgol Gwyddorau Eigion (SOSA) yn cael ei rhedeg gan yr Ysgol Gwyddorau Eigion er mwyn cadw mewn cysylltiad gyda chyn-fyfyrwyr.
Mae holl gyn-fyfyrwyr a chyn-aelodau staff yr Ysgol Gwyddorau Eigion yn gymwys i ddod yn aelod o'r Gymdeithas Alumni ac mae aelodaeth yn rhad ac am ddim. Dylech gofrestru eich manylion a rhoi gwybod os oes unrhyw newid i'ch manylion cyswllt os gwelwch yn dda.聽
Mae'r Gymdeithas yn anfon Cylchlythyrau i'n cyn-fyfyrwyr a chyn-aelodau o staff sydd ar ein rhestr ac yn cynnal digwyddiadau cymdeithasol a gyrfaol yn y Brifysgol fel Ciniawau Aduniad.聽