Mae pob Athro’n Athro Iaith
Bu'r pwnc amserol cyflwyno’r Gymraeg ar draws y cwricwlwm o dan y chwyddwydr mewn sesiwn drafod arbennig wedi ei threfnu gan Brifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ stondin y Brifysgol ar faes Eisteddfod yr Urdd Ddydd Gwener 8 Mehefin.
Yn y sesiwn ‘Mae pob athro’n athro iaith’ bu'r arbenigwyr o ac athrawon sydd wedi dilyn cwrs y Cynllun Sabothol Cenedlaethol yn trafod sut y gall y cwrs helpu athrawon pob pwnc i gyflwyno’r Gymraeg yn fwy effeithiol i ddisgyblion.
Roedd y sesiwn wedi ei hanelu’n bennaf at benaethiaid ysgolion. Y panelwyr oedd Dr. Llion Jones, Cyfarwyddwr Canolfan Bedwyr; Eleri Hughes, Prif Diwtor; Adam Rhys Williams, Pennaeth Cynorthwyol, Ysgol Uwchradd Caergybi a Carole Richardson, athrawes yn Ysgol Gynradd Niwbwrch. Wyn Thomas, Dirprwy Is-Ganghellor Prifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ, fu'n cadeirio’r sesiwn.
²Ñ²¹±ð’r (Cwrs Uwch) yn gwrs iaith tri mis, sy’n cael ei ariannu’n llawn gan Lywodraeth Cymru. Mae wedi ei anelu at siaradwyr Cymraeg rhugl ac yn cael ei gynnal ym Mangor, Caerdydd a Chaerfyrddin. Canolfan Bedwyr, canolfan gwasanaethau’r Gymraeg, Prifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ, sy’n arwain y Cynllun yn genedlaethol mewn cydweithrediad â Phrifysgol Caerdydd a Phrifysgol Y Drindod Dewi Sant. Mae’n agored i athrawon, cynorthwywyr dosbarth, darlithwyr a hyfforddwyr sydd eisiau gwella’u Cymraeg. Eleni, am y tro cyntaf, caiff y rhai sy’n dilyn y cwrs gyfle i ennill cymhwyster cenedlaethol am eu gwaith.
Darllenwch fwy am y Cynllun Sabothol ar .
Dyddiad cyhoeddi: 10 Mehefin 2012