Tystysgrif Cymraeg Gwaith Lefelau 1-7
Mae Prifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ wedi datblygu cynllun i helpu staff i ddysgu sgiliau Cymraeg i’w defnyddio yn eu gwaith ar wahanol lefelau. Mae’r cynllun yn gosod nod i’w gyrraedd ar bob lefel. Mae’n cynnwys setiau o ddeialogau, ymadroddion a geirfa i’w defnyddio mewn gwahanol sefyllfaoedd yn y gwaith.  Gallwch ennill Tystysgrif Cymraeg Gwaith trwy gael prawf ar ddiwedd pob lefel. Mae dros 120 o staff wedi ennill tystysgrifau ers i’r cynllun gael ei sefydlu 5 mlynedd yn ôl.
Pam dilyn y cynllun hwn?
- Deunydd dysgu defnyddiol ar gyfer y gweithle e.e. croesawu ymwelwyr, ateb ffôn, siarad efo myfyrwyr, agor a chau cyfarfod neu gyflwyniad
- Nod i’w gyrraedd a chymhwyster ar bob lefel o ddysgu
- Hyblygrwydd – gallu addasu’r deunydd a’r amser i'w ddysgu yn ôl gofynion eich swydd
Lefelau
Dyma ddisgrifiadau o’r lefelau.Sut mae’r cynllun yn gweithio?
Mae’r cynllun yn hyblyg iawn ac yn hollol wirfoddol. Bydd y tiwtor Cymraeg i staff yn trefnu cael sgwrs hanner awr efo chi i drafod pa lefel sy’n addas i chi ac i gytuno ar y cynnwys. Bydd y cynnwys yn dibynnu ar eich gwaith chi a beth fydd yn ddefnyddiol i chi. Byddwch yn cael cyfres o sesiynau un-i-un efo tiwtor i ymarfer wedyn, ar amser sy’n gyfleus i chi.
Pan fyddwch chi’n teimlo’n barod, byddwn yn trefnu amser prawf i chi efo tiwtor arall. Bydd y prawf llafar yn anffurfiol ac yn para tua 10 munud ar y lefelau 1-3, ac hyd at hanner awr efo’r lefelau 4-6. Mae pob lefel yn cynnwys ychydig o waith ysgrifennu. Gallwch wneud hwn yn eich amser eich hun cyn neu ar ôl y prawf llafar. Cewch ddefnyddio Cysgeir/Cysill (geiradur a gwiriwr iaith) i’ch helpu.
Hyfforddiant Cymraeg i Staff
Adnoddau Defnyddiol
Geirda Staff
"Rydw i wrth fy modd fy mod i wedi pasio Tystysgrif Cymraeg Gwaith lefel 7! Mae’r lefelau yn gyfle i roi cynnig ar wahanol fathau o weithgareddau lle gallaf ddefnyddio fy Nghymraeg; er enghraifft, siarad â chydweithwyr, cyflwyno gwaith, darllen ac ysgrifennu, a chyfathrebu â'r cyhoedd.
Mae dysgu Cymraeg wedi bod yn brofiad anhygoel a chadarnhaol i mi. Erbyn hyn, rydw i'n teimlo'n hyderus i ddarlithio ac ymchwilio trwy gyfrwng y Gymraeg. Rydw i’n ddiolchgar iawn i'r tiwtoriaid!
"
Dr Eirini Sanoudaki,
Uwch Ddarlithydd mewn Caffael Iaith