Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Mae dadansoddeg data yn faes sy'n tyfu yn y farchnad swyddi heddiw gyda chyflogwyr yn chwilio fwyfwy am raddedigion â sgiliau dadansoddi a'r gallu i ddeall 'Data Mawr'. Mae'r cwrs hwn yn rhoi sylfaen o wybodaeth i chi mewn Dadansoddeg Data Busnes ac yn helpu i ddatblygu eich galluoedd ymarferol i dynnu data, ei ddadansoddi ac adrodd arno i gefnogi gwneud penderfyniadau sefydliadol.
Mae cwmnïau o ystod eang o ddiwydiannau yn casglu llu o ddata ac yn dechrau cystadlu ar eu gallu i ddefnyddio'r data hwnnw. Dyma lle mae angen graddedigion dadansoddeg data busnes. Gall dadansoddi data helpu busnesau i ddatrys problemau ac mae galw mawr amdano mewn diwydiannau fel cyllid, iechyd, busnes a marchnata. Gall y gallu i ddadansoddi a dehongli data roi mantais gystadleuol i fusnesau drwy wneud penderfyniadau gwybodus.
Mae 'Data Mawr' yn newid busnes a'r economi, trwy astudio dadansoddeg data busnes ym Mhrifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ byddwch yn meithrin y wybodaeth a'r sgiliau i ddadansoddi 'Data Mawr' mewn amrywiaeth o gyd-destunau busnes. Byddwch yn dysgu technegau gwerthfawr a ddefnyddir gan ddadansoddwyr data ac yn datblygu sgiliau gydag amrywiaeth o offer, algorithmau a modelau.
Mae'r cwrs hwn yn eich paratoi i ddod yn rheolwr data strategol, gan ddefnyddio damcaniaethau rheoli craidd ynghyd â sgiliau dadansoddol ymarferol i allu datgelu tueddiadau, patrymau a chefnogi gwneud penderfyniadau sefydliadol. Mae cyfle i chi ddatblygu a gwella’ch sgiliau trwy brojectau ymarferol go iawn sy'n defnyddio gwybodaeth academaidd a sgiliau ymchwil i fynd i'r afael â materion busnes a sefydliadol.
Pam dewis Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ ar gyfer y cwrs hwn?
- Rydym ni wedi cynllunio'r cwrs newydd hwn i ddiwallu anghenion y farchnad swyddi heddiw. Byddwch yn meithrin sgiliau ymarferol a pherthnasol sy'n gwneud graddedigion yn hynod gyflogadwy.
- Gall Prifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ gynnig arlwy arbennig oherwydd ein cryfderau presennol mewn pynciau bancio, cyllid a marchnata.Â
- Fel Ysgol Fusnes lai, rydym yn gallu cynnig mwy o fynediad ac amser i fyfyrwyr gyda staff academaidd na sefydliadau eraill.
- Mae gan Ysgol Busnes Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ enw rhagorol am ymchwil sy'n bwydo i'n cwricwlwm gan wneud ein cyrsiau'n gyfredol ac yn berthnasol i'r byd go iawn.Â
- Mae ein labordy masnachu newydd yn rhoi’r cyfle i fyfyrwyr ddysgu mwy am y sector ariannol drwy efelychu marchnadoedd stoc yma ym Mhrifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ.
Gwyliwch fideo gan Dr Heather He
0:03 helo Dr Heather ydw i, darlithydd
0:07 mewn dadansoddeg data yn Ysgol
0:09 Busnes Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ. Rwy'n dysgu dadansoddeg data
0:11 ar gyfer ceisiadau cyllid a busnes yn
0:14 yr ysgol. Un o'r pethau gorau am
0:16 dysgu yma yw gallaf ddangos i fyfyrwyr
0:19 y cysylltiad rhwng yr hyn y maent yn ei ddysgu
0:22 a sut i wneud defnydd ohono yn eu
0:26 bywyd o ddydd i ddydd ac ar gyfer eu gyrfa.
0:28 Mae'r pynciau rwy'n eu haddysgu yma
0:31 wedi'u cynllunio i arwain a chefnogi fy
0:34 myfyrwyr i ennill y sgiliau sydd
0:37 yn cael eu gwerthfawrogi'n fawr
0:39 gan ystod eang o fusnesi.
0:43 Mae sgiliau yn cynnwys dysgu rhaglennu ystadegol
0:45 a gwneud penderfyniadau ar sail data.
0:48 Y rheswm dwi'n dewis dysgu ym Mangor yw
0:52 oherwydd mae un o ychydig o brifysgolion sy'n
0:55 datblygu a buddsoddi yn y
0:58 pwnc cyffrous dadansoddeg data.
1:04 Rwy'n wir credu bod yr hyn y mae myfyrwyr
1:07 yn dysgu yma yn yr Ysgol o fudd iddynt fel
1:10 y genhedlaeth nesaf o Arweinwyr Busnes
1:13 ac entrepreneuriaid. Nid yn unig am eu
1:16 datblygiad gyrfa ond hefyd ar gyfer
1:18 gwneud penderfyniadau yn eu bywydau bob dydd.
Cynnwys y Cwrs
Ar y cwrs hwn byddwch yn dysgu sut i ddefnyddio pecynnau codio arloesol a ddefnyddir gan wyddonwyr data, gan ganolbwyntio ar ysgrifennu cod i ddatrys problemau busnes a heriau go iawn yn y gweithle. Byddwch yn ennill profiad ymarferol ac yn dod yn gyfarwydd â materion amlwg ym maes diogelwch data, rheoli data a moeseg. Bydd myfyrwyr yn cael eu paratoi i fynegi allbynnau gwyddonwyr data a chyflawni yn erbyn y disgwyliadau hyn. Rhoddir ffocws penodol ar yr offer sydd eu hangen i fodelu, storio, glanhau, trin, ac yn y pen draw tynnu gwybodaeth o setiau data.
Byddwn yn edrych ar isadeiledd a sut mae'n chwarae rhan fawr mewn storio data. Dros y blynyddoedd rydym wedi gweld newidiadau o weinyddion traddodiadol i atebion yn y cwmwl. Gyda thechnolegau newydd daw bygythiadau diogelwch newydd. Ar y cwrs hwn, byddwn yn edrych ar y broblem o seiberddiogelwch a'r gallu i weithredu arferion gorau sylfaenol.
Bydd myfyrwyr yn dysgu sut i ddadansoddi 'Data Mawr', yn fwy penodol, rhaglenni mathemategol a defnydd ymarferol o dechnegau fel Rhwydweithiau Niwral Artiffisial, Peiriannau Fectorau Cefnogi a Phrosesu Iaith Naturiol.
Sut byddwch yn dysgu?
Cewch eich dysgu trwy gyfuniad o ddarlithoedd, gweithdai, a seminarau. Bydd disgwyl i chi hefyd ymgymryd ag astudio annibynnol a gwaith grŵp, a chymryd rhan mewn gweithgareddau a thrafodaethau ar-lein gan ddefnyddio ein hamgylchedd dysgu rhithiol..
Beth fyddwch chi’n ei astudio ar y cwrs yma?
Ym Mlwyddyn 1, bydd myfyrwyr yn cymryd credydau o bynciau fel, Dadansoddeg Busnes, Codio Dadansoddeg Busnes, Rhaglenni Cronfeydd Data mewn Busnes a Chyllid, Darganfod Economeg, Cyflwyniad i Faterion Rheolaeth Gyfoes mewn Moeseg, Cynaliadwyedd, Rheoli Adnoddau Dynol, a Twristiaeth ac Egwyddorion Rheolaeth a Threfniadaeth.
Ym Mlwyddyn 2, bydd myfyrwyr yn cymryd credydau o bynciau fel, Dadansoddeg Busnes, Systemau Gwybodaeth Busnes, Ymwybyddiaeth fasnachol a dealltwriaeth o waith, Gwyddor Data, Econometreg, Isadeiledd ar gyfer Dadansoddeg Data a Buddsoddi a Rheoli Portffolio.
Ym Mlwyddyn 3, bydd myfyrwyr yn cymryd credydau o bynciau fel, Econometreg Uwch, Dysgu Peirianyddol Cymhwysol, Project Ymgynghoriaeth, FinTech mewn bancio, cyllid, buddsoddi, yswiriant a rheoleiddio, Busnes Rhyngwladol a Chymhwysedd Byd-eang a Rheolaeth Strategol.
Sylwch mai syniad bras o gynnwys y cwrs yn unig sydd yma a gallai pethau newid.
Cyfleusterau
Cronfeydd Data
Yma yn Ysgol Busnes Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ, mae gennym fynediad i rai o'r cronfeydd data gorau gan gynnwys Bloomberg. Mae caniatáu i fyfyrwyr ddefnyddio'r cronfeydd data hyn fel rhan o'u cwrs nid yn unig yn gwella eu profiad dysgu ond hefyd yn eu paratoi'n well ar gyfer gyrfa yn y diwydiant.
Bloomberg Professional
Cgronfa ddata ariannol fyd-eang yw Bloomberg Professional sy'n darparu data cyfredol a hanesyddol ynglŷn ag ecwitïau unigol, mynegeion y farchnad stoc, gwarantau incwm sefydlog, arian cyfred, nwyddau, a dyfodol ledled y marchnadoedd rhyngwladol a domestig. Mae'n cynnig gwybodaeth fanwl am fwy na 5 miliwn o fondiau, ecwitïau, nwyddau, arian cyfred a chronfeydd ariannol. Gall defnyddwyr gyrchu a lawrlwytho data yn hawdd gan ddefnyddio ategyn Excel neu API. Mae cyfyngiadau dyddiol a misol ar nifer yr arsylwadau y cewch eu llwytho i lawr.
Boardex
Cronfa ddata llywodraethu corfforaethol ryngwladol gynhwysfawr yw BoardEx sy'n cynnig cyfleusterau chwilio a dadansoddi ar-lein sy'n canolbwyntio ar ddeinameg byrddau cwmnïau. Mae'n darparu gwybodaeth fywgraffyddol gyfredol a hanesyddol fanwl am aelodau bwrdd ac uwch swyddogion gweithredol, gan gwmpasu dros 15,000 o gwmnïau a ddyfynnwyd yn fyd-eang. Mae'n blatfform cynhwysfawr sydd hefyd yn rhoi cipolwg ar bwyllgorau bwrdd, iawndal, manylion cwmni, nodweddion rhwydweithio ynglŷn â chwmnïau, cyfarwyddwyr a chyhoeddiadau am swyddi.
S&P Capital IQ Pro
Mae S&P Capital IQ Pro (S&P Global Market Intelligence a SNL Financial gynt) yn cynnig data am fanciau a chwmnïau cynhwysfawr sy'n rhychwantu America, Asia-Môr Tawel, Ewrop, y Dwyrain Canol, ac Affrica. O 2023 ymlaen, ehangodd S&P Capital IQ Pro ei ystod i gynnwys hanfodion cwmnïau, statws credyd, dewisiadau dyledion, ac ymchwil marchnad. Mae'n blatfform sy’n cynnig gwybodaeth eang i gwmnïau di-ri’ megis S&P Capital IQ yn ogystal â mentrau bach a chanolig (BBaCh). Gyda S&P Capital IQ Pro, gall defnyddwyr gyrchu data a newyddion ariannol cyfredol a hanesyddol ynglŷn â mwy na 50,000 o fanciau’n fyd-eang. Gallwch lawrlwytho'r data hwnnw gydag ategyn Excel.
S&P Capital IQ
Platfform cynhwysfawr yw S&P Capital IQ sy'n darparu gwybodaeth ddofn am gwmnïau byd-eang, statws credyd, ac ymchwil marchnad gydag offer cadarn i asesu risg. Mae’ndarparu gwybodaeth gynhwysfawr am gwmnïau, marchnadoedd, trafodion, a gweithwyr proffesiynol ledled y byd. Yn benodol, mae Capital IQ yn darparu: Data am gwmnïau byd-eang, gan gynnwys cyllid sylfaenol, incwm sefydlog, amcangyfrifon a manylion perchnogaeth. Data ansoddol sy'n amlygu’r datblygiadau allweddol, trafodion, proffiliau, cymdeithasau unigol, ecwiti preifat; a sbectrwm cynhwysfawr o ddata macro-economaidd a nwyddau. Mae'r synergedd hwnnw o wybodaeth yn ei gwneud yn arf anhepgor i weithwyr proffesiynol y diwydiant. Gallwch lawrlwytho'r data hwnnw gydag ategyn Excel.
S&P RatingsDirect
Statws credyd cyfredol a hanesyddol gan gynnwys cyllid cyhoeddus o 2007 a chyhoeddwyr byd-eang a chyllid strwythuredig o 1922.
Eikon Refinitiv (gan gynnwys Datastream)
Platfform cynhwysfawr, sy'n rhan o Thomson Reuters, yw Refinitiv Workspace, ar gyfer gwybodaeth ariannol ac economaidd. Mae'n darparu dyfynbrisiau o’r farchnad, amcangyfrifon enillion, hanfodion ariannol, datganiadau i'r wasg, data trafodion, ffeilio corfforaethol, proffiliau perchnogaeth, ac ymchwil manwl. Mae Eikon/Datastream yn cynnig data cyfoethog am gwmnïau rhyngwladol, yn ôl i'r 1960au. Mae nodweddion a data gan Thomson Reuters, a gyrchwyd yn flaenorol trwy Thomson One - fel cydsoddi a chaffael, data am fenthyciadau, manylion perchnogaeth, ac ecwiti preifat - i'w gweld yn Refinitiv Workspace. Cewch lawrlwytho'r data hwnnw gydag ategyn Excel.
Orbis Bank Focus
Mae Orbis Bank Focus, a ddarperir gan Bureau van Dijk, yn gronfa ddata gynhwysfawr o fanciau byd-eang. Cesglir ei ddata o gymysgedd o adroddiadau blynyddol, darparwyr gwybodaeth amrywiol, a ffynonellau rheoleiddio awdurdodol. Ar hyn o bryd, mae gan Orbis Bank Focus ddata manwl ynglŷn â mwy na 38,000 o fanciau - sy'n cwmpasu tua 30,000 o UDA a dros 10,000 o'r tu allan i UDA. I’r banciau a restrir, darperir cofnod hanesyddol sy'n rhychwantu 5 mlynedd, ac mae gan banciau sydd heb eu rhestru ddata sy'n cwmpasu'r 3 blynedd diwethaf.
Orbis Europe
Mae Orbis Europe, is-set o 'Orbis' byd-eang Bureau van Dijk, yn blatfform cynhwysfawr pwrpasol i ddadansoddi a chymharu cwmnïau a ddyfynnwyd a chwmnïau preifat ledled Ewrop. Mae’n cwmpasu data o 56 o wledydd Ewrop. Mae'n darparu gwybodaeth fanwl am fanciau cyhoeddus a phreifat, yswiriant, a chwmnïau diwydiannol. Caiff dros 105 miliwn o gwmnïau eu catalogio a’u diweddaru’n wythnosol. Mae’n cynnig strwythurau perchnogaeth gorfforaethol eang a nodweddion tebyg. Caiff y defnyddwyr ymchwilio, dadansoddi a llunio rhestrau o gwmnïau'n strategol trwy amrywiaeth o feini prawf chwilio, gan gynnwys eitemau llinell o ffeiliau ariannol.
Business Source Premier
Manylion testun llawn am bron i 7,600 o gyhoeddiadau busnes, gan gynnwys darllediadau testun llawn o dros 1,100 o gyfnodolion ysgolheigaidd a adolygir gan gymheiriaid. Gwybodaeth yn dyddio yn ôl i 1922 mewn rhai achosion.
Emerald Insight
Mae Emerald Insight yn cynnig crynodebau ac erthyglau testun llawn o gyfnodolion academaidd sy'n cwmpasu meysydd pwnc marchnata, rheolaeth, adnoddau dynol, cerddoriaeth fasnachol, ansawdd, economeg, rheoli gwybodaeth, gweithrediadau, peirianneg, cynhyrchu ac eiddo, addysg, iechyd a gofal cymdeithasol.
Financial Times
Newyddion, dadansoddiadau a sylwadau o rifyn ar-lein prif gyhoeddiad busnes y byd.
Gale-Business Insights
Offer rhyngweithiol a dadansoddiad manwl o hanes, perfformiad a chyfleoedd miloedd o gwmnïau a diwydiannau. Daw myfyrwyr o hyd i wybodaeth y gallant ymddiried ynddi o’r ffynonellau gorau gan gynnwys ymchwil i'r farchnad, astudiaethau achos, dadansoddiadau SWOT, adroddiadau buddsoddiadau ac arian, yn ogystal ag erthyglau o brif gylchgronau a chyfnodolion y diwydiant.
IBIS World
Cronfa ddata o ymchwil marchnad-diwydiant cynhwysfawr sy'n cwmpasu pob diwydiant yn UDA gyda chod NAICS 5 digid. Mae IBISWorld hefyd yn cynnig ymchwil fanwl debyg ynglŷn â diwydiannau dethol yn Tsieina a ledled y byd.
Mintel Oxygen
Ymchwil i’r farchnad yn y Deyrnas Unedig sy’n cynnig dadansoddiad o ystod eang o gynhyrchion (bwyd, diod, cynnyrch i’r cartref, iechyd, electroneg), tueddiadau hamdden, gwasanaethau ariannol a manwerthu.
Lexis
Mae’r gronfa ddata hon yn cynnwys cyfraith achos testun llawn a deddfwriaeth ar gyfer awdurdodaethau’r Deyrnas Unedig, UDA (Ffederal a Gwladwriaethol), UE ac awdurdodaethau eraill. Mae hefyd yn rhoi mynediad i nifer fawr o gyfnodolion cyfreithiol testun llawn, a phapurau newydd lleol a chenedlaethol y Deyrnas Unedig. Gan gynnwys Halsburys Laws of England.
Senedd y Deyrnas Unedig Briffiau Ymchwil
Mae'r gronfa ddata’n cynhyrchu adroddiadau manwl a diduedd yn barhaus a gaiff eu cyhoeddi fel papurau briffio ar wefan y Senedd.
Westlaw
Mae’n cynnwys y Legal Journals Index, mynegeion y Gyfraith Gyfredol, pob gweithred sydd mewn grym o 1267 ymlaen ac offerynnau statudol o 1949 ymlaen, ynghyd ag achosion y Deyrnas Unedig a nifer cynyddol o gyfnodolion a llyfrau testun llawn. Mae rhan Americanaidd y gronfa ddata’n cynnwys llawer o gyfnodolion testun llawn.
Cyfleusterau Cyffredinol y Brifysgol
Gwasanaeth Llyfrgell ac Archifau
Mae ein pedair llyfrgell yn cynnig amrywiaeth o amgylcheddau astudio braf gan gynnwys mannau gweithio cydweithredol, ystafelloedd cyfarfod a mannau tawel i astudio.
Mae yma gasgliad mawr o lyfrau a chylchgronau, ac mae llawer o'r cylchgronau ar gael ar gyfrifiadur mewn fformat testun llawn.
Mae gennym hefyd un o’r archifau prifysgol mwyaf nid yn unig yng Nghymru ond hefyd drwy holl wledydd Prydain. Yn gysylltiedig â'r archifau mae casgliadau arbennig o lyfrau printiedig prin.
Adnoddau Dysgu
Mae yma ddewis eang o adnoddau dysgu, sy’n cael eu cefnogi gan staff profiadol, i’ch helpu i astudio.Â
Mae gwasanaethau TG y Brifysgol yn darparu cyfleusterau a gwasanaethau cyfrifiaduro, cyfryngau a reprograffeg sy’n cynnwys:Â
- Dros 1,150 o gyfrifiaduron i fyfyrwyr, gyda rhai ystafelloedd cyfrifiaduron ar agor 24 awr bob dydd
- Blackboard, rhith-amgylchedd dysgu masnachol, sy’n galluogi i ddeunydd dysgu fod ar gael ar-lein.
Costau'r Cwrs
Costau Cyffredinol yn y Brifysgol
Myfyrwyr Cartref (DU)
- Cost cwrs israddedig llawn-amser yw £9,250 y flwyddyn (2025/26).
- Y ffi ar gyfer pob blwyddyn dramor integredig yw £1,385 (2025/26).
- Y ffi ar gyfer blwyddyn mewn diwydiant integredig fel rhan o'r cwrs yw £1,850 (2025/26).
Mwy o wybodaeth am ffioedd a chyllid i fyfyrwyr Cartref (DU).
Myfyrwyr Rhyngwladol (yn cynnwys yr UE)
Costau Ychwanegol
Mae yna hefyd rai costau ychwanegol cyffredin sy'n debygol o godi i fyfyrwyr ar bob cwrs, er enghraifft:
- Os dewiswch chi astudio dramor neu gymryd y Flwyddyn Profiad Rhyngwladol fel rhan o'ch cwrs.
- Os ydych chi'n mynd i'ch Seremoni Raddio, bydd cost llogi gŵn (£25- £75) a chost am docynnau i westeion ychwanegol (tua £12 yr un).
Costau ychwanegol cwrs-benodol
Yn dibynnu ar y cwrs rydych chi'n ei astudio, efallai y bydd costau ychwanegol cwrs-benodol y bydd gofyn i chi eu talu. Gellir rhoi'r costau hyn mewn tri chategori:
- Costau Gorfodol: mae'r rhain yn gysylltiedig â modiwl craidd neu orfodol penodol y mae'n ofynnol i chi ei gwblhau i gwblhau eich cymhwyster e.e. teithiau maes gorfodol, gwisgoedd i fyfyrwyr ar leoliad, gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).
- Costau Angenrheidiol: efallai na fydd pob myfyriwr yn cael y costau hyn, a bydd yn amrywio yn dibynnu ar y cwrs e.e. aelodaeth o gorff proffesiynol, teithio i leoliadau, meddalwedd arbenigol, cyfarpar diogelu personol.
- Costau Dewisol: mae'r rhain yn dibynnu ar eich dewis o fodiwlau neu weithgaredd, ac fe'u dangosir er mwyn rhoi syniad ichi o'r costau dewisol a allai godi i sicrhau bod cymaint o wybodaeth â phosibl ar gael i chi cyn i chi wneud eich dewis. Gall y rhain gynnwys digwyddiadau graddio ar gyfer eich cwrs, teithiau maes dewisol, tripiau Wythnos Groeso.
Gofynion Mynediad
TGAU: Mathemateg gradd C/4 yn ofynnol, os na chaiff ei ddangos gan y cymhwyster/cymwysterau Lefel 3.
Mae'r cynigion yn seiliedig ar dariffau, 104-136Â pwynt tariff o gymwysterau Lefel 3* e.e.:
- Lefel A:Â Ni dderbynnir Astudiaethau Cyffredinol a Sgiliau Allweddol fel rheol
- Diploma Estynedig Cenedlaethol BTEC: DMM- DDD
- Diploma Technegol Estynedig Caergrawnt: DMM - DDD
- Diploma’r Fagloriaeth Ryngwladol: derbynnirÂ
- Access:Â Pasio yn ofynnol
- Bagloriaeth Cymru: Byddwn yn derbyn y cymhwyster hwn ar y cyd â chymwysterau lefel 3 eraill
- Lefelau T: Ystyrir lefelau T mewn pwnc perthnasol fesul achos
- Project Estynedig:Â Gall y pwyntiau gynnwys Project Estynedig (EPQ) perthnasol ond rhaid iddynt gynnwys o leiaf 2 lefel A llawn, neu gyfwerth.
Rydym yn hapus i dderbyn cyfuniadau o'r cymwysterau a restrir uchod, yn ogystal â chymwysterau Lefel 3 amgen fel City & Guilds, Cwrs Mynediad a Diploma Technegol Estynedig Caergrawnt.
Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr hÅ·n.
Ymgeiswyr Rhyngwladol: derbyniwn gymwysterau ymadael â’r ysgol cyfwerth â lefel A/Lefel 3 a/neu diplomâu colegau o wledydd ledled y byd (yn amodol ar ofynion iaith Saesneg penodol). manylionÂ
*I gael rhestr lawn o gymwysterau Lefel 3 a dderbynnir, ewch i .
TGAU: Mathemateg gradd C/4 yn ofynnol, os na chaiff ei ddangos gan y cymhwyster/cymwysterau Lefel 3.
Mae'r cynigion yn seiliedig ar dariffau, 104-136Â pwynt tariff o gymwysterau Lefel 3* e.e.:
- Lefel A:Â Ni dderbynnir Astudiaethau Cyffredinol a Sgiliau Allweddol fel rheol
- Diploma Estynedig Cenedlaethol BTEC: DMM- DDD
- Diploma Technegol Estynedig Caergrawnt: DMM - DDD
- Diploma’r Fagloriaeth Ryngwladol: derbynnirÂ
- Access:Â Pasio yn ofynnol
- Bagloriaeth Cymru: Byddwn yn derbyn y cymhwyster hwn ar y cyd â chymwysterau lefel 3 eraill
- Lefelau T: Ystyrir lefelau T mewn pwnc perthnasol fesul achos
- Project Estynedig:Â Gall y pwyntiau gynnwys Project Estynedig (EPQ) perthnasol ond rhaid iddynt gynnwys o leiaf 2 lefel A llawn, neu gyfwerth.
Rydym yn hapus i dderbyn cyfuniadau o'r cymwysterau a restrir uchod, yn ogystal â chymwysterau Lefel 3 amgen fel City & Guilds, Cwrs Mynediad a Diploma Technegol Estynedig Caergrawnt.
Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr hÅ·n.
Ymgeiswyr Rhyngwladol: derbyniwn gymwysterau ymadael â’r ysgol cyfwerth â lefel A/Lefel 3 a/neu diplomâu colegau o wledydd ledled y byd (yn amodol ar ofynion iaith Saesneg penodol). manylionÂ
*I gael rhestr lawn o gymwysterau Lefel 3 a dderbynnir, ewch i .
Gofynion Cyffredinol y Brifysgol
I astudio cwrs gradd mae’n rhaid i chi gael isafswm o bwyntiau tariff UCAS. Am eglurhad manwl o bwyntiau tariff UCAS, ewch i .
Rydym yn derbyn myfyrwyr â phob math o gymwysterau a chefndiroedd ac yn ystyried pob cais yn unigol.
Mae’n rhaid i bob ymgeisydd gael sgiliau sylfaenol da ond mae’r Brifysgol hefyd yn gweld pwysigrwydd sgiliau cyfathrebu a thechnoleg gwybodaeth.Â
Mae’n bolisi gan y Brifysgol i ystyried ceisiadau gan ddarpar fyfyrwyr anabl yn yr un modd â; phob cais arall.
Rydym yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr hÅ·n sy’n medru dangos fod ganddynt y gallu a’r ymrwymiad i astudio rhaglen prifysgol. Bob blwyddyn rydym yn cofrestru nifer sylweddol o fyfyrwyr hÅ·n. Am fwy o wybodaeth am astudio fel myfyriwr aeddfed, ewch i adran Astudio ym Mangor.ÌýÌý
Gyrfaoedd
Ar ôl graddio, mae myfyrwyr yn cael y sgiliau a'r wybodaeth sydd eu hangen am yrfa lwyddiannus mewn diwydiant neu’r byd academaidd. Mae galw enfawr am ddadansoddwyr data busnes, gyda galw mawr yma yn y Deyrnas Unedig. Gall myfyrwyr gael gwaith mewn diwydiannau fel busnes, cyllid, marchnata, iechyd, y llywodraeth, telathrebu, y cyfryngau, a gweithgynhyrchu.
Sgiliau y byddwch yn eu dysgu ar y cwrs hwn:
- Sgiliau gwneud penderfyniadau
- Sgiliau dadansoddi – y gallu i gyflwyno data gwybodus sy'n seiliedig ar dystiolaeth
- Cyfathrebu – y gallu i siarad a chyflwyno i ystod o gynulleidfaoedd
- Rheoli – y gallu i wneud penderfyniadau gwybodus ac arwain newid
- Amldasgio – y gallu i weithio ar brojectau/tasgau lluosog
- Rheoli amser – y gallu i gwblhau projectau o fewn amserlen.
Y llwybrau gyrfa nodweddiadol sy'n gysylltiedig â'r radd hon yw:
- dadansoddwr data
- dadansoddwr meintiol
- gwyddonydd data
- ymgynghorydd data
- dadansoddwr gwybodaeth fusnes
- dadansoddwr systemau
- dadansoddwr menter
- pensaer busnes
- rheolwr project
- rheolwr diogelwch data
- ymgynghorydd rheolaeth
- dadansoddwr prosesau
- rheolwr cynnyrch
- pensaer data
- ymgynghoriaeth data
- ymgynghoriaeth busnes.
Cyfleoedd ym Mangor
Mae Gwasanaeth Sgiliau a Chyflogadwyedd y Brifysgol yn cynnig amryw o adnoddau i’ch helpu i gyflawni eich amcanion ar ôl graddio.
Rhaglen Interniaeth Prifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ
Mae Prifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ yn cynnal cynllun interniaeth â thâl yn adrannau academaidd a gwasanaethau’r Brifysgol.
Gwirfoddoli
Mae gwirfoddoli yn ehangu eich profiadau ac yn gwella eich cyflogadwyedd. Cewch fwy o wybodaeth am wirfoddoli ar wefan .
Gweithio tra'n astudio
Mae TARGETconnect yn hysbysebu swyddi lleol, cenedlaethol a rhyngwladol i raddedigion, cyfleodd profiad gwaith ac interniaethau a chyfleon gwirfoddol.
Adroddiad Cyflawniad Addysg Uwch (HEAR)
Ceir pob myfyriwr sy’n graddio adroddiad terfynol HEAR. Mae’r adroddiad yn rhestru holl gyflawniadau academaidd ac allgyrsiol fel bod darpar gyflogwyr yn ymwybodol o’r sgiliau ychwanegol rydych wedi eu hennill tra yn y Brifysgol.