Mae Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru yn ganolfan cenedlaethol ar gyfer cydlynu ymchwil i ystadau tir, plastai a'u harchifau a'u casgliadau treftadaeth cysylltiedig.聽 Mae gan y rhaglen hon o ysgolheictod botensial sylweddol i ailddiffinio sut rydym yn deall hanesion, diwylliannau a thirweddau Cymru.聽
Roedd yr ystadau yn ffurfio un o'r prif fframweithiau ym mywyd Cymru o adeg eu creu yn y cyfnod canoloesol hyd at eu tranc a'u chwalu ar ddechrau'r ugeinfed ganrif.聽 Roedd perchnogaeth a rheolaeth tir yn caniat谩u i'r bonedd ac uchelwyr ddylanwadu'n fawr ar feysydd mor amrywiol ag amaethyddiaeth a diwydiant; pensaern茂aeth, celf, cerddoriaeth a llenyddiaeth; a gwleidyddiaeth, y gyfraith, masnach, crefydd ac addysg.聽 Roedd rhai o'r cylchoedd dylanwad hyn yn lleol iawn, gan effeithio ar natur lle a hunaniaeth ar draws gwahanol rannau o Gymru.聽 Roedd dylanwadau, diddordebau a chysylltiadau eraill yn genedlaethol ac yn rhyngwladol o ran cwmpas ac arwyddoc芒d.聽 Roedd yr ystadau'n amrywio o ran eu maint, cymeriad, cyfansoddiad a hirhoedledd, gan arwain at amrywiaeth o wahanol brofiadau.聽 Roeddent yn cynnwys ac yn effeithio ar bob haen o gymdeithas a bron pob rhan o'r dirwedd; o blastai gyda'u parciau, gerddi a thai allan i ffermydd tenantiaid a bythynnod, coedlannau, caeau a ffyrdd, eglwysi, capeli ac ysgolion, a safleoedd diwydiannol fel mwyngloddiau, chwareli a phorthladdoedd.聽聽
Ein nod yw cynyddu dealltwriaeth o'r amrywiaeth cymhleth hwn trwy raglen fywiog o brosiectau yn seiliedig ar gasgliadau, yn arbennig ar lefel doethuriaeth ac ar ddechrau gyrfa.聽 Mae ein hymchwil yn rhyngddisgyblaethol a chydweithredol ei natur, gan gasglu dealltwriaeth ac arbenigedd o wahanol feysydd pwnc ac amrywiaeth o ddeunyddiau ffynhonnell i gynnig safbwyntiau newydd.聽
Mae ein rhaglen yn cynnwys astudiaethau achos am ystadau a lleoedd penodol ynghyd 芒 dadansoddiadau thematig, cynlluniau'n seiliedig ar gasgliadau a rhwydweithiau cydweithredol sy'n archwilio them芒u a phynciau yn rhyngwladol.聽 Mae'r rhaglen hon yn adolygu'n gynyddol sut rydym yn deall ein hanes, diwylliant, tirwedd, hunaniaeth, cymdeithas, treftadaeth a'n hamgylchedd adeiledig.聽聽
Mae'r them芒u trawsbynciol allweddol yn ein hymchwil yn cynnwys:
- Hunaniaethau a diwylliannau bonedd Cymru聽
- Perchnogaeth tir, tirwedd a rheoli tir聽
- Y Plasdy Cymreig: yn y gorffennol, presennol a'r dyfodol聽
- Hanes yr Amgylchedd ac Ecoleg Hanesyddol
- Tenantiaid a thirfeddianwyr: cysylltiadau cymdeithasol yn hanes Cymru聽
- Diwylliannau gweledol, materol, testunol a pherfformiadol Cymru: nawdd, casglu ac arddangos聽
- Archifau ystadau: creu, defnyddio a chadw聽
- Llinach, etifeddiaeth a defnydd o hanes聽
- Hanes yr iaith Gymraeg ac amlieithrwydd聽
- Rhywedd ac ystadau Cymru: hierarchaethau, swyddogaethau a chysylltiadau聽
- Lle a hunaniaeth聽
- Cysylltiadau byd-eang: Cymru, yr ymerodraeth a gwladychiaeth聽
- Dylanwadau anghydffurfiaeth radical聽
- Dehongli treftadaeth
Prosiectau Ymchwil
Prosiectau Doethurol Presennol
Rydym yn hynod ddiolchgar i Gwmni鈥檙 Brethynwyr, Stad Rhug, Ymddiriedolaeth James Pantyfedwen, Cronfa Etifeddiaeth Y Werin, Ymddiriedolaeth Gregynog ac Ymddiriedolaeth Gerddi Hanesyddol Cymru am gefnogi ein hymchwil doethurol. Rydym yn croesawu cynigion ar gyfer prosiectau doethurol sy鈥檔 cyfrannu at ein nodau ymchwil ac yn eu hehangu.