Coronafirws ac Iechyd Meddwl
Diweddarwyd: 14 Medi 2020
Rydym yn deall y gall y pandemig COVID-19 (coronafirws) fod yn achosi teimladau o bryder a thrallod i staff a myfyrwyr Prifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ. Yn ystod yr amser heriol hwn, mae’n bwysig ein bod ni fel unigolion ac fel cymuned yn cynnal ein hiechyd meddwl a chorfforol. Nod y dudalen hon yw darparu gwybodaeth ac arweiniad i’ch cefnogi gyda hyn. Gobeithiwn ddiweddaru’r dudalen hon gyda gwybodaeth newydd cyn gynted ag y bydd ar gael.
Efallai bod gennych gwestiynau am ymateb y brifysgol i’r haint, sut y bydd hyn yn effeithio ar eich academyddion, neu ba adeiladau a gwasanaethau sy’n dal i fod yn weithredol. Rydym yn argymell eich bod yn gwirio tudalennau cwestiynau a ofynnir yn aml am COVID-19 i staff a myfyriwr y brifysgol i gael y wybodaeth ddiweddaraf sy’n berthnasol i chi.
Er mwyn eich amddiffyn eich hun a phobl eraill rhag coronafirws, dilynwch ac fel y wybodaeth fwyaf cyfredol yn y sefyllfa barhaus hon. Os ydych chi’n poeni am deithio, p’un a ydych chi’n dychwelyd i’r DU o dramor neu’n gadael y DU, gallwch edrych ar gyngor y llywodraeth .
Wrth i’r cyfyngiadau symudiadau gael eu lliniaru, mae llawer ohonom yn paratoi ar gyfer dychwelyd i ‘normal’, a fydd yn debygol o barhau i fod yn gyfnod ansicr ac anghyfarwydd. Mae Dr Dominique Thompson wedi ysgrifennu am , gan awgrymu ffyrdd i helpu ein hunain a’n gilydd i ddod trwy’r amser anodd hwn yn raddol.
Cefnogi eich Iechyd Meddwl a’ch Lles
Gan fod y coronafirws yn effeithio ar sawl rhan o’n cymdeithas, mae hefyd yn effeithio’n wahanol ar bob un ohonom. Mae teimladau o bryder ac ansicrwydd yn normal yn ystod adegau dryslyd, llawn straen fel hyn. Dyna pam ei bod yn bwysig ein bod yn cymryd amser i edrych ar ôl ein hunain a’n gilydd nes bydd y pandemig yn arafu. Mae’r gwefannau canlynol yn darparu gwybodaeth a chyngor am sut i ofalu am eich iechyd meddwl mewn perthynas â’r haint:
ei gwneud yn haws dod o hyd i’r gefnogaeth y mae arnoch ei hangen yn ystod y pandemig.
: Mae’r dudalen GIG hon yn cynnig awgrymiadau a chyngor syml ar sut i ddechrau cymryd gwell gofal o’ch iechyd meddwl. Os ydych yn dal yn ei chael hi’n anodd ar ôl sawl wythnos ac mae’n effeithio ar eich bywyd bob dydd, cysylltwch â .
: Rhai awgrymiadau cyffredinol i’ch helpu chi, eich ffrindiau a’ch teulu i ofalu am eich iechyd meddwl ar adeg pan mae llawer o drafod am fygythiadau posibl i’n hiechyd corfforol. Mae gan yr Ymddiriedolaeth Iechyd Meddwl dudalennau hefyd ar yn ystod y pandemig ac yn ystod y cyfyngiadau symud.
: Mae’r dudalen hon yn cynnwys cynllunio ar gyfer aros gartref neu du mewn, gofalu am eich iechyd meddwl, a rhestr wirio i baratoi i aros gartref am sawl wythnos.
Datblygwyd yr ystyriaethau iechyd meddwl hyn gan Adran Iechyd Meddwl a Defnydd Sylweddau Sefydliad Iechyd y Byd fel negeseuon sy’n targedu gwahanol grwpiau i gefnogi lles meddyliol a seicogymdeithasol yn ystod yr haint COVID-19. Mae’r grwpiau hyn yn cynnwys y boblogaeth gyffredinol, gweithwyr gofal iechyd, arweinwyr tîm neu reolwyr mewn cyfleusterau iechyd, darparwyr gofal i blant, oedolion hŷn, darparwyr gofal a phobl â chyflyrau iechyd sylfaenol, a phobl sy’n hunanynysu.
Yn ogystal â’r adnoddau hyn, rydym yn argymell eich bod yn edrych ar adnoddau iechyd meddwl ar-lein Prifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ am gefnogaeth ac arweiniad pellach. Edrychwch ar ein rhestr o linellau cymorth lleol a chenedlaethol i gael hyd i rywun y gallwch siarad â nhw. I gael cefnogaeth sy’n gysylltiedig â ffydd ac ysbrydolrwydd, cysylltwch â’n Tîm Caplaniaeth.
Ewch i wefan y Gwasanaeth Cwnsela i gael gwybodaeth am sut i ddefnyddio gwasanaethau cefnogi ar-lein y brifysgol. Cyhoeddwyd erthygl yn The Independent , gan egluro pam y gallai therapi fod yn adnodd priodol i lawer ohonom wrth reoli effeithiau COVID-19. Er mwyn dod o hyd i gwnselwyr a therapyddion sydd wedi eu hyfforddi i weithio'n foesegol ar-lein, ewch i .
Er mwyn dod o hyd i gwnselwyr a therapyddion sydd wedi eu hyfforddi i weithio’n foesegol ar-lein, ewch i .
Rheoli Emosiynau Heriol
Hyd yn oed os ydym yn cymryd gofal ohonom ein hunain a’n gilydd hyd eithaf ein gallu, efallai y bydd adegau pan fydd yn teimlo’n anodd i ni reoli emosiynau cryf, astrus. Yn ystod yr adegau hyn, gall y teimladau fod yn llethol a gwneud i rywun deimlo’n ddiymadferth. Mae’r adnoddau hyn yn darparu gwybodaeth ynglŷn â pham mae teimladau heriol yn codi a sut i’w rheoli.
Gall deall beth yw emosiynau a sut maent yn gweithio helpu i leihau’r effeithiau negyddol gallant eu cael pan fyddwn yn colli rheolaeth dros eu dwyster. Mae’r hwn gan yr Athro Michaela Swales o Adran Seicoleg Prifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ yn rhoi esboniad manwl o emosiynau yn ogystal â strategaethau i reoli emosiynau
Mae’r daflen hon gan yn canolbwyntio ar y pryder a’r ansicrwydd y mae pob un ohonom yn ei deimlo o ganlyniad i’r pandemig. Mae poeni yn beth naturiol a gall fod o gymorth, ond rydym yn aml yn poeni gormod ac mae’n amharu ar ein bywydau. Mae’r adnodd hwn yn disgrifio sut i adnabod pryder gormodol a lleihau’r gorbryder sy’n deillio o hynny.
Rydym i gyd wedi colli rhywbeth o ganlyniad i’r coronafeirws, p’un a yw’n wyliau, yn amser gyda ffrindiau a theulu neu seremoni raddio, rydym i gyd yn teimlo rhyw fath o golled. Mae David Kessler, sy’n arbenigwr galar enwog, yn egluro’r gwahanol fathau o alar rydym yn eu hwynebu fel unigolion ac fel cymuned mewn erthyglau a phodlediadau yn .
Mae hwn hefyd yn gyfnod anhygoel o anodd i'r rhai ohonom sydd wedi dioddef profedigaeth, p'un a bu'r sawl farw o covid-19 neu o achos arall. Os ydych chi neu unrhyw un rydych yn ei adnabod wedi cael profedigaeth, cyfeiriwch at yr erthygl hon ar am wybodaeth a chyngor ar reoli amgylchiadau enbyd o'r fath. Gallwch gael rhestr o gysylltiadau'n ymwneud â phrofedigaeth trwy .
Anawsterau Iechyd Meddwl sy’n Bodoli Eisoes
Gall yr haint coronafeirws a'r ymateb cymdeithasol ysgogi meddyliau cymhellol ac ymddygiadau di-fudd ym mhob un ohonom, a gall yr effeithiau hyn waethygu mewn pobl ag anawsterau parhaus fel gorbryder neu anhwylder gorfodaeth obsesiynol. Mae'n bwysig cofio bod y rhai ohonom sy'n rheoli problemau iechyd meddwl mewn mwy o berygl o brofi cymhlethdodau iechyd ac anghydraddoldeb cymdeithasol. Efallai ei bod yn ymddangos yn anoddach gofyn am help a chael y gefnogaeth angenrheidiol, ac felly mae'n hollbwysig ein bod yn ymwybodol o sut rydym yn teimlo a'r hyn rydym ei angen.
I'r rhai ag anawsterau iechyd meddwl sydd eisoes yn bodoli, mae'r Sefydliad Iechyd Meddwl yn cynghori eich bod, lle bo modd, yn gwneud cynllun gyda'r ymarferwyr rydych wedi bod yn gweithio gyda nhw cyn neu yn ystod y pandemig.
Mae rhai sefydliadau wedi creu adnoddau penodol ar gyfer rheoli anawsterau iechyd meddwl sydd eisoes yn bodoli yn ystod yr haint:
- : Iechyd a mathau eraill o orbryder a’r coronafirws
- : Anhwylderau bwyta a’r coronafirws
- : Awgrymiadau da mewn perthynas ag anhwylder gorfodaeth obsesiynol a’r coronafirws
Mae’r coronafirws hefyd yn cynyddu’r risg i’r rhai sy’n byw mewn perthynas lle maent yn dioddef camdriniaeth. Gall y gorchymyn cenedlaethol i aros gartref wneud pobl sy’n dioddef camdriniaeth neu mewn perygl o gael eu cam-drin fod yn fwy ynysig. Gall y rhai sy’n cyflawni’r troseddau camdriniaeth yn y cartref hefyd ymateb i ofnau a phryderon cysylltiedig â’r firws gyda mwy o ddicter, casineb neu ymddwyn yn fyw annisgwyl. Edrychwch ar yr adnoddau canlynol i gael arweiniad ar gadw’n ddiogel:
- : Canllawiau’r llywodraeth ar gefnogaeth i ddioddefwyr camdriniaeth yn y cartref yn ystod y pandemig coronafirws.
- : Mae’r dudalen hon yn cynnig cyngor ymarferol yn ogystal ag adnoddau i gael gwybodaeth a chefnogaeth.
- : Er mwyn siarad â rhywun am gamdriniaeth rydych yn ei ddioddef yn awr, ffoniwch y Llinell Gymorth Genedlaethol Camdriniaeth yn y Cartref 24/7 ar 0808 2000 247.
Cefnogi Eraill
Gall cynorthwyo pobl eraill pan fônt angen cymorth ac estyn allan at rywun a all fod yn teimlo’n unig neu’n bryderus fod o fudd i’r unigolyn sy’n derbyn cefnogaeth yn ogystal â’r un sy’n cynorthwyo. Dyma rai awgrymiadau am bethau y gallwch eu gwneud i gefnogi’ch cymdogion a’ch anwyliaid:
- Gwnewch yn siŵr eich bod yn rhannu gwybodaeth o ffynonellau dibynadwy (fel ac ).
- Cadwch mewn cysylltiad â’ch teulu a’ch ffrindiau, hyd yn oed os ydyw dros y ffôn yn unig.
- Cysylltwch â’r rhai a all fod yn fwy agored i niwed neu mewn perygl i gynnig pa bynnag help rydych chi’n teimlo y gallwch ei roi.
- Os oes gennych ddiddordeb gwirfoddoli, darllenwch am wirfoddoli yn ystod y pandemig.
- Gall cefnogi eraill fod yn heriol. Edrychwch ar y gan Student Minds UK i gael cyngor ar helpu eich hun wrth helpu eraill.
Gorbryder am Gyllid a Chyflogaeth
Yn ddiamau, mae'n amser ansicr o ran cyflogaeth a chyllid. Mae'r pandemig wedi effeithio ar bob proffesiwn a sefydliad, p'un a yw'n golygu bod pobl bellach yn gweithio gartref, wedi eu rhoi ar ffyrlo, neu'n chwilio am waith yn y dyfodol mewn marchnad swyddi ansefydlog. Bydd yr holl newidiadau hyn yn effeithio ar iechyd meddwl, yn enwedig os ydynt yn amharu ar eich gallu i gadw'n ddiogel ac yn iach. Edrychwch ar yr adnoddau canlynol os ydych yn poeni am gyllid neu reoli eich cyflogaeth, gan fod y rhain yn bethau pwysig sy'n cyfrannu at gynnal eich lles seicolegol.
Mae Mind yn darparu adnoddau i'r rhai sy'n symud i weithio ar-lein neu o gartref, yn ogystal â chefnogaeth i reoli'r profiadau o gael eich rhoi ar ffyrlo neu gael eich diswyddo. Mae'n debygol y bydd gweithwyr allweddol a staff rheng flaen yn gweithio dan amodau llawn straen ac angen mwy o gefnogaeth emosiynol nag erioed; edrychwch ar y wybodaeth a'r cysylltiadau a luniwyd gan Mind ac Iechyd Meddwl y DU i'ch helpu gyda'ch iechyd meddwl.
Gall rheoli eich cyllid fod yn bwysicach yn awr nag erioed o'r blaen. Mae Sefydliad Iechyd Meddwl wedi llunio adnoddau ar gyfer sut i reoli'r pryderon hyn, gyda chyngor ar gyllidebu, cael cefnogaeth gan y llywodraeth, a'ch hawliau i weithio. Gallwch hefyd gysylltu ag isadran Gwasanaethau Myfyrwyr, yr Uned Cymorth Ariannol, sy'n rhoi cefnogaeth ac arweiniad i fyfyrwyr ar bob agwedd ar gyllid myfyrwyr.
Hiliaeth a Throseddau Casineb o Ganlyniad i COVID-19
Yn anffodus, cafwyd adroddiadau cenedlaethol o hiliaeth a thrais senoffobig ledled y DU mewn perthynas â coronafirws. Mae’r brifysgol yn condemnio unrhyw fath o ymddygiad hiliol ac ni fydd yn goddef unrhyw ddigwyddiadau o’r math hwn. Os ydych chi neu rywun rydych chi’n ei adnabod wedi dioddef unrhyw fath o droseddau casineb, rhowch wybod am y digwyddiad a gofynnwch am gefnogaeth yn ôl yr angen.
Cysylltwch ag unrhyw un o’r bobl a’r sefydliadau canlynol i siarad am wahaniaethu:
- Swyddog Cydraddoldeb ac Amrywiaeth Myfyrwyr, Helen Munro E-bost: h.munro@bangor.ac.uk Ffôn: 01248 388021
- Swyddfa Cefnogi Myfyrwyr Rhyngwladol E-bost: internationalsupport@bangor.ac.uk Ffôn: 01248 38 8430
- . Gallwch hefyd ffonio eu llinell gymorth 24 awr ar 0808 1689 111.
- . Gallwch hefyd ffonio eu llinell gymorth 24 awr ar 0800 138 1625.