Gwybodaeth i Rieni a Chefnogwyr
Mae dod i'r brifysgol yn newid mawr i bob myfyrwyr, ac yn enwedig i bobl ifanc sy'n symud o gartref am y tro cyntaf.听 I fyfyrwyr anabl, yn cynnwys y rhai sydd ar y sbectrwm awtistiaeth, efallai y bydd rhwystrau ychwanegol ac mae'r Gwasanaethau Anabledd yma i helpu.听 Mae gwybodaeth isod am y Gwasanaethau Anabledd, a'r gefnogaeth rydym yn ei darparu.
Gwasanaethau Anabledd
Mae’r Gwasanaethau Anabledd yn cynnwys y gwasanaethau integredig canlynol:
- T卯m SpLD (cefnogi myfyrwyr 芒 Gwahaniaeth Dysgu Penodol, gan gynnwys dyslecsia, dyspracsia, anhwylder diffyg canolbwyntio a gorfywiogrwydd (ADHD))
- T卯m Cynghorwyr Iechyd Meddwl
- T卯m Cynghorwyr Anabledd
- Cynllun Cymorth Anfeddygol
- Canolfan Asesu
Cefnogaeth a ddarperir
- Mae'r Gwasanaethau Anabledd yn cynnig gwasanaeth proffesiynol a chynhwysfawr i fyfyrwyr anabl.
- Rydym yn annog myfyrwyr a darpar fyfyrwyr i gysylltu 芒 ni fel y gallwn weithio gyda nhw yn unigol o fewn ffiniau ein polisi cyfrinachedd.听
- Trwy gydweithio gyda'r myfyriwr a gwasanaethau perthnasol eraill, gan gynnwys ysgolion academaidd, byddwn yn archwilio rhwystrau, yn nodi strategaethau priodol ac yn llunio Cynllun Cefnogi Dysgu Personol.听
- Byddwn yn cymryd pob cam rhesymol ac ymarferol i alluogi myfyrwyr i gael mynediad i'w hastudiaethau, ond mae'r brifysgol yn disgwyl i fyfyrwyr gadw mewn cysylltiad 芒'n gwasanaeth, er enghraifft, ymateb i ymholiadau e-bost neu alwadau ff么n.听 E-bost yw'r brif ffordd y mae'r brifysgol yn gohebu 芒 myfyrwyr, ac rydym yn edrych ar ffyrdd o gynorthwyo myfyrwyr i ddatblygu strategaethau i reoli'r ffordd bwysig hon o gyfathrebu.
- Pan fo myfyrwyr yn cadw mewn cysylltiad 芒'r Cynghorwyr, gallwn weithio gyda myfyrwyr i ddatblygu strategaethau cyfathrebu.
- Byddwn yn cefnogi myfyrwyr i gael dealltwriaeth glir o'r prosesau a'r systemau cefnogi.
- Gallwn weithio gyda myfyrwyr ar brosesau galluogi i ymgysylltu 芒 staff perthnasol fel eu bod yn datblygu i fod yn ddysgwyr annibynnol.听
Cefnogaeth nad ydym yn ei darparu
- Ni allwn ddarparu cefnogaeth heb gyfathrebu parhaus dwyffordd 芒'r myfyrwyr eu hunain.听 Mae'n bwysig bod myfyrwyr yn deall bod yn rhaid iddynt ymgysylltu 芒 gwasanaethau priodol y brifysgol, gan gynnwys eu hysgol academaidd.听
- Ni allwn weithredu fel rhieni.听 Yn y brifysgol, caiff myfyrwyr eu hystyried fel oedolion annibynnol.听
- Yn unol 芒 deddfwriaeth diogelu data, ein polisi cyfrinachedd yw na fydd staff yn y Gwasanaethau Anabledd yn trosglwyddo gwybodaeth bersonol am fyfyrwyr (gan gynnwys gwybodaeth am bresenoldeb) i unrhyw un y tu allan i'r gwasanaeth ac eithrio yn y sefyllfaoedd a ganlyn:
- lle mae gan y Gwasanaeth ganiat芒d penodol y myfyriwr i ddatgelu gwybodaeth, neu
- lle bo staff yn credu bod perygl o niwed difrifol i'r myfyriwr neu i drydydd parti.听
- Mae cyfyngiadau llym o ran pa wybodaeth y gallwn ei rhannu 芒 rhieni unwaith y bydd myfyriwr wedi cofrestru.听 Er enghraifft, ni allwn gadarnhau i drydydd parti (gan gynnwys rhieni neu gefnogwyr) a yw rhywun yn fyfyriwr yn y brifysgol, neu lle maent.
- Byddwn yn mynd ar 么l unrhyw bryderon a godir ond ni allwn roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r unigolyn a leisiodd y pryder - byddwn, fodd bynnag, yn annog y myfyriwr i wneud hynny.
- Gallwch gefnogi'ch merch/mab trwy'r cyfnod o newid trwy eu cefnogi i weithredu'n briodol.听 Strategaeth sydd wedi bod yn ddefnyddiol i rai myfyrwyr a rhieni yw bod y rhiant yn rhoi crynodeb o bryderon y myfyriwr mewn e-bost, ei anfon at eu mab/merch a gofyn iddyn nhw anfon yr e-bost ymlaen i'r gwasanaeth.听 Gall hyn gefnogi myfyriwr i ddod yn fwy annibynnol ac yn aml mae'n sicrhau ymateb mwy amserol gan na all staff gyfathrebu'n uniongyrchol 芒 rhiant neu gefnogwr ond byddant bob amser yn ateb myfyriwr cyn gynted ag y gallant.
- Ni allwn ddarparu gwasanaeth brys ac mae cefnogaeth ar gael yn ystod oriau swyddfa yn unig.听 Gwybodaeth am sut i gael help mewn argyfwng iechyd meddwl.
Paratoi ar gyfer y brifysgol
Yn aml y peth pwysicaf y gallwch ei wneud yw cefnogi myfyriwr i gael mynediad at wasanaethau'r brifysgol yn annibynnol.听
Fel rheol mae myfyrwyr sydd 芒 sgiliau byw bob dydd cryf yn gweld y trawsnewid i fyw yn y brifysgol yn broses llyfnach gyda llai o straen, ac felly maent yn fwy abl i reoli'r agweddau eraill ar fywyd yn y brifysgol.听 Bydd dod i'r brifysgol gyda'r sgiliau i siopa a pharatoi amrywiaeth o brydau bwyd, gallu golchi eu dillad, a rhai strategaethau i helpu i gynnal cylch cysgu iach i gyd yn helpu, ac yn gadael rhagor o amser ar gyfer gweithgareddau pleserus, a'u hastudiaethau academaidd.
Bydd yn ddefnyddiol hefyd i edrych ar yr adran Paratoi ar gyfer y brifysgol ar wefan Wythnos Groeso y brifysgol.