Croeso...
Gobeithio y bydd y wefan hon yn eich helpu i fynd o gwmpas yr adeiladau academaidd ym Mhrifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ. Bydd yn dweud wrthych lle i barcio, os oes yna lifftiau a’r mannau lloches diogel y mae angen ichi fynd iddynt mewn argyfwng.
Gan fod rhannau o Fangor yn serth, e.e. Parc y Coleg, efallai y byddai’n syniad da i chi ymgyfarwyddo â’r ardal cyn dechrau gweithio / astudio yn y brifysgol. Gall fod rhwystrau i bobl gydag anawsterau symud a gall fod yn anodd mynd i rai o’n hadeiladau hynaf. Lle bo’n bosibl, rydym yn gwneud addasiadau rhesymol i gwrdd â gofynion arbennig. Rydym bob yn amser yn falch o gyfarfod â darpar fyfyrwyr mewn dyddiau agored neu ar unrhyw adeg gyfleus arall. Cysylltwch ag un o’n cynghorwyr anabledd a byddwn yn falch o’ch cyfarfod a gwneud trefniadau i fynd â chi o gwmpas.
Defnyddiwch ein mapiau a fideos...
Ar bob un o’r tudalennau i bob adeilad, rydym wedi rhoi cyswllt i fap safle’r Brifysgol a hefyd i Google Map sy’n lleoli pob adeilad yn fanwl. I gael gwybodaeth am sut i fynd o un rhan o Fangor i un arall gallwch hefyd ddefnyddio ein fideos – fel yr un am sut i fynd i Ffordd y Coleg.
what3words
Mae’r Gwasanaeth Anabledd hefyd yn defnyddio cliciwch ar y ddolen:
- Mynedfa Ffordd y Coleg:
- Mynedfa Lôn Cariadon:
Gwybodaeth ddefnyddiol ar fynediad corfforol
Lluniwyd y wybodaeth hon gan Alistair Davies, myfyriwr ym Mhrifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ yn ystod ei interniaeth gyda'r Gwasanaethau Anabledd.
- Safle Ffordd y Coleg
- Gwasanaethau Myfyrwyr
- Pontio ac Undeb y Myfyrwyr
- Safle Gwyddoniaeth
- Safle Styd y Deon
- Fron Heulog
- Reichel
- Ystadau a Chyfleusterau (yn cynnwys Bar Uno, Swyddfa Neuaddau)
- Canolfan Brailsford
- Gwyddorau Eigion
- Safle Normal
- Treborth
Gwybodaeth deithio ar gyfer Prifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ
Popeth rydych angen ei wybod am drafnidiaeth gyhoeddus i deithio ym Mangor a’r cyffiniau.
Neuaddau Preswyl
Ewch i Lety Myfyrwyr ym Mhrifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ os oes gennych gwestiynau penodol ynglÅ·n â chyfleusterau yn y Neuaddau Preswyl, cysylltwch â’r Swyddfa Neuaddau: halls@bangor.ac.uk neu ffoniwch 01248 383944.
Wedi’i ddiweddaru 08.06.2020