Adnoddau a Chyfleusterau
Ystafelloedd Technoleg Gynorthwyol
Mae gan y brifysgol dwy ystafell Technoleg Gynorthwyol (YTG); un ym Mhrif Lyfrgell y Celfyddydau, a'r llall yn Llyfrgell Safle鈥檙 Normal. Mae Ystafell Technoleg Gynorthwyol yn cael ei datblygu ar Gampws Wrecsam.
Mae'r Ystafelloedd Technoleg Gynorthwyol (ATRs) yn fannau mynediad cyfyngedig, i'w defnyddio gan fyfyrwyr 芒'r addasiad hwn yn eu Cynlluniau Cefnogi Dysgu Personol .
Prif Adeilad y Celfyddydau
Mae鈥檙 ystafell wedi鈥檌 lleoliyn wrth ymyl y ddesg fenthyca ar y llawr isaf. Yn yr Ystafell, ceir dau gyfrifiadur, bolgynnwr Braille asystem teledu cylch cyfyng (a gynlluniwyd ar gyfer defnyddwyr sydd 芒 namau ar y golwg). Hefyd yn yr ystafell mae seddi ergonomeg a ddesg y gellir addasu ei hychder.
Adnoddau Technoleg Gynorthwyol Llyfrgell Safle'r Normal
Lleolir yr ystafell yn Ystafell H012 (yr ystafell astudio tawel) drws nesaf i'r Ganolfan Addysg Grefyddol yn adeilad y llyfrgell. Mae'r ystafell yn cynnwys dau fonitor cyfrifiadur sgrin fawr a byrddau y gellir addasu eu huchder. Mae'n cynnig lle i fyfyrwyr gyda Chynlluniau Cefnogi Dysgu Personol (PLSP) weithio mewn amgylchedd tawelach.
Offer / Technoleg Gynorthwyol ar gael i'w benthyca
Mae gan y Gwasanaethau Anabledd ychydig o offer a thechnoleg gynorthwyol y gellir eu benthyca i fyfyrwyr, yn amodol ar argaeledd ac angen a aseswyd, yn cynnwys:
- Gliniaduron
- Recordwyr llais digidol
- CCTV cludadwy
- Offer ergonomeg
- SuperNova Magnifier a Screenreader
Adnoddau / cyfleusterau eraill
Mae gan y Brifysgol drwydded safle ar gyfer SensusAccess. Mae hwn yn ddull hunan-wasanaeth sy'n galluogi myfyrwyr a staff Prifysgol 香港六合彩挂牌资料 i drosi dogfennau'n awtomatig i fformat arall, yn cynnwys llyfrau-llafar, e-lyfrau a Braille digidol.
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch 芒’r Gwasanaethau Anabledd, Ganolfan Access
Wedi'i ddiweddaru 27.11.2020