Tudalennau Caplaniaeth a Darpariaeth Ffydd
- Caplaniaeth a Darpariaeth Ffydd
- Darpariaeth Ffydd Lleol
- Adnoddau Caplaniaeth (a dolenni i wybodaeth ddefnyddiol)
- T卯m y Gaplaniaeth
- Cwrdd 芒 t卯m y Gaplaniaeth
- Anecs Rathbone a Gwedd茂au Fwslimaidd
- Newyddion a Digwyddiadau
- Myfyrdod y Mis
- Profedigaeth
- Cymdeithas Staff Cristnogol Prifysgol 香港六合彩挂牌资料
Profedigaeth
Cefnogaeth ar 么l Profedigaeth
Gall marwolaeth rhywun annwyl ddigwydd ar unrhyw adeg ac mae'n debyg mai dyma'r ymwahanu mwyaf poenus y mae bodau dynol yn ei brofi - gall fod yn rhywbeth y mae pobl yn barod amdano neu gall fod yn sydyn iawn. Gall profedigaeth pan rydych chi yn y Brifysgol greu pwysau tymor byr sylweddol a'r angen am gefnogaeth yn fwy hirdymor. Os ydych chi, neu rywun rydych chi'n ei adnabod, wedi colli ffrind neu berthynas yn ddiweddar yna fe allai'r ddogfen hon fod o ddefnydd i chi.听 Mae colli rhywun annwyl yn un o'r profiadau mwyaf dirdynnol a thrawmatig a all ddod i’n rhan fel bodau dynol. Mae galar rhai mor ingol fel ei fod yn teimlo eu bod wedi colli rhan ohonyn nhw eu hunain. Gall eraill deimlo dicter, drwgdeimlad, ofn, a diffyg hyder, tra bod eraill yn canfod tangnefedd. Mae profiad pob unigolyn yn unigryw er y gallwn weld elfennau cyffredin, yr ydym yn eu galw'n gyfnodau galar.
A ninnau’n Gaplaniaid i'r Brifysgol, rydym yn ymwybodol yr hoffai llawer geisio cefnogaeth allanol. Mae gan y Brifysgol ystod o wasanaethau a allai helpu mewn profedigaeth, ac yn eu plith, aelodau o'r T卯m Caplaniaeth. Os ydych chi'n teimlo bod arnoch chi ein hangen ni, rydym ni yma i helpu. Mae'r T卯m yn cynnwys Caplaniaid o amryfal gefndiroedd ffydd ac mae cynnwys y tudalennau gwe hyn yn adlewyrchu ein profiad a'n traddodiadau. Daw aelodau T卯m y Gaplaniaeth o amrywiaeth o wahanol enwadau Cristnogol a chefndiroedd Mwslimaidd, Iddewig, Hind诺aidd a Bwdhaidd. Fodd bynnag, gallwn eich rhoi mewn cysylltiad ag arweinydd lleol o gymuned ffydd arall os hoffech chi. Os oes angen clust i wrando arnoch chi, cyngor ar faterion ymarferol, rhywun i wedd茂o drosoch chi neu gyda chi, neu unrhyw beth y credwch y gallwn fod o gymorth ag ef, yna cysylltwch 芒 ni.
Os hoffech chi gysylltu ag aelod o D卯m Caplaniaeth y Brifysgol anfonwch e-bost at caplaniaeth@bangor.ac.uk neu gweler y dudalen 'Cwrdd 芒'r T卯m Caplaniaeth' ar y wefan hon i gael ein manylion cyswllt unigol.
Os hoffech chi gysylltu ag aelod o Wasanaeth Cwnsela'r Brifysgol anfonwch e-bost at wellbeingservices@bangor.ac.uk
Os hoffech chi siarad 芒 rhywun y tu hwnt i'r Brifysgol, mae cymorth ar gael gan -
- Gofal mewn Galar sy'n darparu gwasanaeth lleol i'r ardal hon:
- 础迟补濒辞蝉蝉:听 sy'n trefnu gweithgareddau arbennig ar gyfer pobl ifanc 18 - 30 oed sydd wedi colli rhywun arbennig.
Mae rhagor o wybodaeth am brofedigaeth gan draddodiadau ffydd unigol y T卯m Caplaniaeth ar y dudalen ganlynol
Bedydd
Profedigaeth: Safbwynt y Bedyddwyr
“Yr Iesu a wylodd.”听
Dyma un o’r adnodau byrraf yn y Beibl (Ioan 11:35).听 Mae hefyd yn un o'r adnodau mwyaf arwyddocaol yn y Beibl.听 Mae Iesu yn angladd ei gyfaill Lasarus.听 Mae'n wylo, er, dim ond 8 adnod yn ddiweddarach, bydd yn atgyfodi Lasarus o'r bedd ac yn dod ag ef yn 么l yn fyw.听 Mae Iesu'n cysuro eraill hefyd.听 Yn yr un bennod, mae Iesu eisoes wedi gwneud datganiad beiddgar i deulu Lasarus.听 Yn Ioan 11:25 dywed Iesu,听
“Myfi yw’r atgyfodiad a’r bywyd.听 Pwy bynnag sy’n credu ynof fi, er iddo farw, fe fydd byw; a phob un sy’n byw ac yn credu ynof fi, ni bydd marw byth.” (Ioan 11:25)
O'r bennod hon, rydym yn deall (i) bod disgwyl inni alaru am golli brawd neu chwaer yn y Ffydd Gristnogol. (ii) Y gallwn ni ganfod cysur, trwy Iesu, yn ein profedigaeth wrth i ni alaru dros eraill. (iii) Rydym ni hefyd yn canfod gobaith penodol yn ein ffydd a'n cred yn Iesu, bod gwarant bywyd tragwyddol y tu hwnt i'r bedd i unrhyw un sy'n credu ynddo.听 Gan gynnwys lleidr sy'n marw ar groes ar yr un pryd ag Iesu ac sydd, yn eiliadau olaf ei fywyd, yn siarad ag Iesu gan roi ei ffydd ynddo ef. (Luc 23v32-43).
Eseia 66:13: “Fel y cysurir plentyn gan ei fam byddaf fi’n eich cysuro chwi,’ medd yr Arglwydd.”
Galarnad 3:22: “Nid oes terfyn ar gariad yr Arglwydd, ac yn sicr ni phalla ei dosturiaethau.
23 Y maent yn newydd bob bore, a mawr yw dy ffyddlondeb.”
Galaru
Wrth i ni alaru, rydym ni’n teimlo poen galar, ond gobaith penodol ar yr un pryd mewn anfarwoldeb.听 Efallai y byddwn yn ceisio meithrin diolchgarwch trwy ein tristwch, ond mae'n hollol naturiol i ymgodymu 芒 Duw yn ystod y cyfnodau hyn o ing hefyd.听 Mae llawer yn teimlo'n ddiffrwyth yn yr amseroedd hyn ac mae rhai yn ei chael hi'n anodd credu bod Duw yn gwrando.听 Ysgrifennodd C. S. Lewis, un o awduron Cristnogol mwyaf y cyfnod modern, 'A Grief Observed'.听 Mae'n disgrifio amser pan oedd yn teimlo fel petai Duw wedi cau'r drws yn ystod cyfnod lle teimlodd yr angen mwyaf am gysur, ond yna yn ddiweddarach aiff rhagddo i ofyn a fyddai sgrechiadau dryslyd ei deimladau amrwd wedi ei gwneud hi'n bosibl iddo glywed beth bynnag.听 Roedd Duw yno i Lewis, ond nid oedd yn gallu cysylltu ag ef.听 Er nad yw'r ffydd Gristnogol yn darparu atebion na datrysiad ar unwaith ar gyfer holl deimladau pob unigolyn, rydym yn teithio gyda'r Duw a gollodd ei Fab ei hun yr oedd yn ei garu’n fawr, ac ym mherson ei Fab, Iesu, mae Duw yn wylo am ei gyfaill, Lasarus.听 Mae Duw yn parhau gyda ni yn ein profedigaeth.听 Mae Iesu hefyd yn tywallt yr Ysbryd Gl芒n arnom ni.听 Disgrifir yr Ysbryd Gl芒n mewn sawl ffordd gan gynnwys 'y diddanydd', a'r 'eiriolwr'.
Mathew 5:4: Dywed Iesu, “Gwyn eu byd y rhai sydd yn galaru canys hwy a ddiddenir”.
Bywyd Tragwyddol
Fodd bynnag, mae Duw yn cynnig gobaith penodol inni o fywyd tragwyddol.听 Nid yw Duw yn analluog yn wyneb marwolaeth, ond mae'n gorchfygu marwolaeth ar y groes ac yn atgyfodiad Iesu.听 Mae Iesu’n addo na fydd pwy bynnag sy’n credu ynddo byth yn marw, ond y bydd ganddo fywyd tragwyddol ynddo ef, a gydag ef yn y nefoedd.听 Cryfder y neges Gristnogol yw oherwydd bod Iesu wedi atgyfodi o blith y meirw, mae gennym ni sicrwydd hefyd y bydd yn ein hatgyfodi ni o farwolaeth hefyd - ynghyd 芒 phawb sy'n credu ynddo.听 Mae hyn yn rhoi gobaith penodol inni mewn bywyd y tu hwnt i farwolaeth.听
1 Thesaloniaid 4:14: “Os ydym yn credu i Iesu farw ac atgyfodi, felly hefyd bydd Duw, gydag ef, yn dod 芒’r rhai a hunodd drwy Iesu.”
Credwn, wrth inni ymddiried yn Iesu, ei fod gyda ni trwy fywyd, marwolaeth, wrth i ni orffwys yn y nefoedd ac wrth i ni atgyfodi i fywyd newydd ynddo ef.听 Ni all unrhyw beth ein gwahanu oddi wrth gariad Duw.听 Rydym ni'n cymryd cysur yn hyn i ni'n hunain a phan rydym ni'n galaru am eraill.
Rhufeiniaid 8v38: Mae Paul yn ysgrifennu, “Yr wyf yn gwbl sicr na all nac angau nac einioes, nac angylion na thywysogaethau, na’r presennol na’r dyfodol, 39 na grymusterau nac uchelderau na dyfnderau, na dim arall a gr毛wyd, ein gwahanu ni oddi wrth gariad Duw yng Nghrist Iesu ein Harglwydd.”
Mae hefyd yn ddefnyddiol iawn dysgu o brofiadau eraill sydd wedi wynebu profedigaeth.听 Awgrymwyd sawl model ar gyfer profedigaeth, o gylchoedd i drobyllau.听 Efallai y bydd yn fuddiol i chi weld sut mae eraill wedi teimlo ac wedi ymdopi ac efallai y gallwch adnabod elfennau o'r agweddau hyn yn eich taith eich hun trwy brofedigaeth.听 Rhowch ganiat芒d i chi'ch hun alaru.听 Mae'n iawn galaru.听 Fe wnaeth Iesu.听 Rhowch amser i'ch hun alaru.听 Mae gwahanol bobl yn galaru am wahanol gyfnodau o amser.听 Mae'n iawn gwneud hynny.听 Rhowch le i'ch hun alaru.听 Cydnabyddwch y bydd gan rai dyddiadau arwyddoc芒d i chi ac amserlennwch eich gweithgareddau yn unol 芒 hynny i helpu'ch hun ac i allu parhau i fyw eich bywyd.听听
Os hoffech siarad 芒 mi am brofedigaeth neu unrhyw fater arall, cysylltwch ar bob cyfrif.听 Efallai fod hon yn brofedigaeth i chi neu efallai eich bod yn poeni am rywun arall.听 Byddwn wrth fy modd yn siarad 芒 chi - ac rwy’n hapus i wedd茂o gyda chi os hoffech i mi wneud hynny hefyd.听
Y Parchedig John Thompson
Caplan Bedyddwyr i fyfyrwyr
Gweinidog, Eglwys Bedyddwyr Penrallt, 香港六合彩挂牌资料
Bwdhydd
Mae'r wefan 'Death and Dying' sy'n cael ei rhedeg gan yr Awakened Heart Sangha yng Ngogledd Cymru yn cyflwyno safbwynt Bwdhaidd ar ystyr marwolaeth ac yn egluro:
Sut mae myfyrdod yn ein helpu i ddeall marwolaeth a phrofedigaeth
Sut y gall y byw helpu'r meirw neu’r rhai sy’n marw
Sut allwn ni baratoi ein hunain ar gyfer colled ac ymdopi wedyn
Ein caplan Bwdhaidd ym Mhrifysgol 香港六合彩挂牌资料 - Pati Bielak-Smith yw eich cyswllt cyfeillgar pe byddech yn dymuno trafod y syniadau hyn ymhellach: mentors@ahs.org.uk
Catholig
Y Safbwynt Catholig ar Farwolaeth
Ymhlith yr ansicrwydd sy'n ein hwynebu gyda marwolaeth rhywun annwyl mae cwestiynau ynghylch a oes unrhyw fodolaeth y tu hwnt i farwolaeth ac, os felly, lle gallai ein hanwyliaid fod nawr. Mae 'pasio trwy len' yn ddelwedd sydd wedi'i defnyddio yn air llednais am farwolaeth. Mae gennym ni obaith y byddwn ni, wrth basio drwy'r llen hon, yn gweld Duw ac yn gweld ein hanwyliaid unwaith eto. Yng ngeiriau Sant Paul 'Yn awr, gweld mewn drych yr ydym, a hynny’n aneglur, ond yna cawn weld wyneb yn wyneb: yn awr anghyflawn yw fy ngwybod; ond yna caf adnabod fel y cefais innau fy adnabod (1 Cor 13:12). Mae marwolaeth yn 么l ei natur yn gam i'r anhysbys, fel bod sawl barn Gristnogol wahanol am farwolaeth wedi ymffurfio.
Rydym ni, Gristnogion Catholig, yn credu fod ein bywydau cyfain yn rhan o’r cynllun sydd gan Dduw ar gyfer y byd. Weithiau, nid ydym yn deall pam mae pethau'n digwydd yn y ffordd y digwyddont, ac mae'n naturiol ymrafael gyda Duw pan rydym ni'n brifo. Mae'n naturiol gofyn pam? Sut gall Duw cariadus ganiat谩u hyn? Ymateb arferol mewn galar yw bod yn ddig gyda Duw pan gaiff rhywun rydym ni'n ei garu ei gymryd ymaith. Nid oes atebion hawdd, ond credwn mai Duw yw ffynhonnell Cariad a bod pob cariad yn gorffwys ynddo ef. Yn wir, credwn mai cariad Duw sydd wrth wraidd pam ein bod yma yn y lle cyntaf. Rhodd o gariad i ni gan Dduw yw bywyd, mae'n ein caru'n ddiamod a gwir bwrpas bywyd yw fel y gallom dyfu wrth ddychwelyd a rhannu ei gariad. Mae dibenion cariadus Duw yn ymestyn y tu hwnt i farwolaeth ac i dragwyddoldeb, ac fe'n gelwir yn y pen draw i rannu yn ei fywyd dwyfol ei hun o gariad trwy Grist.
Mae pob Cristion yn credu y caiff pobl eu dal yng nghariad Duw y tu hwnt i farwolaeth a bod ein bywyd yn parhau mewn undeb ag ef. Yn sylfaenol, y gobaith Cristnogol yw, ar ddiwedd amser fel rydym ni'n ei wybod, yn ail ddyfodiad Crist, y caiff cyrff ac eneidiau eu hadnewyddu mewn perffeithrwydd ac am byth. Yn union fel y cododd Duw Iesu oddi wrth y meirw, felly credwn y bydd yn codi'r holl saint ar y dydd olaf.
Cysylltiadau parhaus
Cyn hynny, fodd bynnag, credwn ni, Gatholigion, fod cyfranogi ysbrydol yn y nefoedd o'i gariad. Bod y rhai sydd, trwy ras, wedi dilyn deddf newydd Cariad Crist, 'o garu'r Arglwydd ein Duw ... a charu ein cymydog fel ni ein hunain', hyd yn oed os yn amherffaith, yn y pen draw yn gallu treiddio i'w bresenoldeb dwyfol yn y nefoedd. Credwn y caiff yr amherffeithrwydd ei ddileu trwy broses buro yr ydym yn ei galw'n burdan. Dyna pam rydym ni'n credu'n gryf mewn gwedd茂o dros y rhai sydd wedi marw. Rydym yn gysylltiedig er nad ydyn nhw yma mwyach ac yn yr un ffordd ag y gallwn ni wedd茂o dros anghenion ffrind, perthynas, neu'r rhai sydd mewn trallod yn y bywyd hwn, rydym ni hefyd yn gwedd茂o dros y rhai sydd wedi 'pasio drwy'r ll锚n' . Gallwn hefyd ofyn iddynt wedd茂o drosom ni hefyd - yn fwyaf penodol drwy ofyn i'r saint eiriol ar ein rhan.
Byddwn bob amser yn gysylltiedig 芒'n ffrindiau a'n perthnasau ymadawedig: maent wedi newid ein bywydau ac wedi ffurfio pwy ydym ni. Mae'n bwysig canfod ffyrdd o anrhydeddu hyn a'u cofio. Un ffordd rydym ni'n credu bod pobl ar y ddaear yn adleisio'r hyn rydym ni'n deall y mae’r meirw yn ei wneud yn y nefoedd yw trwy addoli - trwy fynd i'r Offeren. Credwn fod yr Offeren yn gyfranogiad yn yr hyn y mae'r saint yn ei wneud yn y nefoedd: moli Duw a gwedd茂o arno trwy aberth cariad Crist. Mae gan yr Eglwys ddau ddiwrnod yn ei blwyddyn litwrgaidd i goff谩u'r meirw, G诺yl yr Holl Saint a G诺yl yr Holl Eneidiau, y cyntaf yn dathlu pawb sydd wedi mynd i'r nefoedd a'r ail yn gwedd茂o dros ac yn coff谩u pawb sydd wedi marw. Yn ogystal 芒 mynd i'r Offeren, efallai y bydd rhywun hefyd yn trefnu i Offeren gael ei dweud ar gyfer rhywun annwyl sydd wedi ymadael 芒’r fuchedd hon - cysylltwch ag offeiriad os ydych chi'n dymuno gwneud hyn.
Gweddi o'r Traddodiad Catholig
Ymddengys y’u dychwelwn atat ti, O Dduw, a’u rhoddodd i ni. Ac eto er ni cholli hwynt yn y rhoi, felly ni chollwn ninnau hwy wrth eu dychwelyd. Nid fel y rhydd y byd, yr wyt ti’n rhoi, O garwr eneidiau. Yr hyn a roddi, ni ddwg ymaith, oherwydd yr eiddot yr eiddom os yr eiddot ydym.听 Ac mae bywyd yn dragwyddol a chariad yn anfarwol, a marwolaeth yn ddim ond gorwel, a gorwel yn ddim ond terfyn ein golygon. Dyrchafa ni, Fab Duw nerthol, fel y gwelom ymhellach; glanha ein llygaid fel y gwelom yn gliriach: tyn ni yn nes atat ti dy hun fel y gwyddom ein bod yn agosach at ein hanwyliaid sydd gyda thi. Ac wrth i ti wneud hynny, parat么 le i ni, a pharat么 ni hefyd ar gyfer y wynfa honno, fel ble yr wyt ti, y byddom ni hefyd am byth. Amen.听 (Bede Jarrett OP)
Rhai dolenni ar-lein
Eglwys Uniongred
Marwolaeth a Bywyd y Nefoedd
Trwy fedydd, caiff person ei adfywio: 'ei eni o'r newydd' - a daw yn aelod o Gorff Crist - yr Eglwys Gristnogol.
Mae Sant Paul yn s么n am fedydd fel marwolaeth ac atgyfodiad:
‘Claddwyd ni gan hynny gydag ef trwy fedydd i farwolaeth: fel megis ag y cyfodwyd Crist o feirw trwy ogoniant y Tad, felly y rhodiom ninnau hefyd mewn newydd鈥恉eb buchedd.’听 Rhufeiniaid 6:4
Wrth fynd i mewn i ddyfroedd bedydd fel i feddrod, rydym yn 'marw' i'r hen natur syrthiedig ac anachubedig yr ydym yn ei hetifeddu gan Adda, y dyn cyntaf, ac yn cael ein hatgyfodi gyda Christ wrth godi i fywyd newydd Teyrnas Dduw.
I Gristion felly, mae marwolaeth yn golygu marw i'n hen natur - tra nad yw marwolaeth gorfforol yn ddim ond cwsg. Dyna pam, yn ystod gwasanaethau'r Eglwys Uniongred dros y meirw, y cenir yr ymadrodd canlynol 听drosodd a throsodd: 'Dyro orffwys, O Arglwydd, i enaid Dy was / lawforwyn a hunodd'.
Mae bywyd y Deyrnas yr ydym yn mynd i mewn iddi trwy fedydd yn cychwyn yma ar y ddaear, ond fe’i profir yn ei gyflawnder yn y nefoedd ym mhresenoldeb Duw, y Drindod Sanctaidd. Mae hyn yn golygu, i Gristion, nad yw marwolaeth yn derfynol nac yn absoliwt, ond yn hytrach, yn newid o un bywyd - y bywyd daearol - i fywyd arall. Nid yw'n gyd-ddigwyddiad bod y Saint yng nghalendrau'r Eglwys Gristnogol yn cael eu coff谩u ar ddiwrnod eu marwolaeth, sef iddyn nhw, eu 'pen-blwydd', fel petai, yn y nefoedd.
Marwolaeth a Gweddi
Yn wyneb marwolaeth, rydym yn naturiol yn teimlo'n ddiymadferth, ond nid ydym yn ddiymadferth; mae Crist wedi trechu marwolaeth a’i wneud 听' yn flaenffrwyth y rhai a hunasant.' (1 Corinthiaid 15:20), ac adeg y Pasg ledled y byd, mae Cristnogion Uniongred yn cyfarch ei gilydd 芒 chyfarchiad yr Atgyfodiad - 'Atgyfododd Crist; Atgyfododd yn wir! '
Mae'r ffaith mai marwolaeth y corff yn unig yw marwolaeth ddaearol yn golygu nad yw'r cymundeb sy'n bodoli rhwng aelodau Corff Crist - yr Eglwys - yn cael ei dorri pan fydd ein corff daearol yn marw. Mae hefyd yn golygu ein bod yn gwedd茂o dros y meirw yn union fel yr ydym ni’n gwedd茂o dros y rhai sy'n dal ar y ddaear.听 Nid yw marwolaeth yn dinistrio cymundeb gweddi. Mae Cristnogion Uniongred, felly, yn ei hystyried hi’n ddyletswydd gysegredig arnynt i sicrhau eu bod yn gwedd茂o’n rheolaidd dros eneidiau’r ymadawedig.
''Canys er mwyn hynny yr efengylwyd i’r meirw hefyd (h.y. y rhai '... yr aeth Crist i bregethu iddynt ar 么l Ei farwolaeth ar y Groes' (Sylw gan y Gwynfededig Theophylact, Archesgob Ochrid a Bwlgaria, ac un o sylwebyddion anwylaf a mwyaf poblogaidd ar yr Ysgrythurau ers naw can mlynedd); fel y bernid hwy yn 么l dynion yn y cnawd, ac y byddent fyw yn 么l Duw yn yr ysbryd”.听 1 Pedr 4: 6 (Beibl William Morgan)
Emyn y Pasg
Atgyfododd Crist o feirw, gan sathru ar angau ag angau, a chan rhoddi bywyd i’r rhai yn y beddau. 听听听听听听听听听听听听听听听听听听
Gwasanaeth Angladd yr Eglwys Uniongred
Testunau Beiblaidd a Gwedd茂au
Prif gynnwys y gwasanaeth angladd Uniongred yw gweddi dros enaid y sawl a hunodd yn yr Arglwydd.
Mae'r gwedd茂au hyn wedi eu cyd-blethu 芒’r testunau Beiblaidd lu sy’n cael eu llafarganu yn y gwasanaeth - 'Gwyn fyd y rhai perffaith eu ffordd, y rhai a rodiant yng nghyfraith yr Arglwydd' (Salm 118 鈥 y rhifo yn 么l y Septuagint, yr LXX' = 'Cyfieithiad y Deg a Thrigain', fel arall fe’i rhifir yn 119) a hefyd Salmau 90 [91] a 50 [51], y Gwynfydau (Mathew 5: 3-10), llith o’r Efengyl yn 么l Sant Ioan (5: 24-30), yn ogystal 芒 llith o un o Epistolau Sant Paul (1 Thesaloniaid 4: 13-17).
Mae'n briodol bod Cristnogion yn gwedd茂o y caiff yr ymadawedig eu cofio bob amser - nid yn unig ar y ddaear, ond gan Dduw ei Hun am dragwyddoldeb, a mynegir hyn yn y geiriau 'Coff芒d tragwyddol'!
Marwoldeb y Corff
Ar adegau o brofedigaeth, mae Cristnogion hefyd yn myfyrio ar farwoldeb y corff, ac yn unol 芒 hynny, mae’r adnodau sy'n myfyrio ar farwoldeb y corff yn ffurfio cydran arall o'r gwasanaeth angladd Uniongred.
Trwy dderbyn Sagrafennau Bedydd a Chrismeiddio, daw corff Cristion yn llestr cysegredig ac felly caiff ei drin 芒 pharch mawr yn ystod bywyd ac ar 么l marwolaeth.
Yn Genesis (1:26) dywed Duw: 'Gwnawn ddyn ar ein delw, wrth ein llun ein hunain'. Mae pob person felly yn ddelw - yn eicon - o Dduw y Drindod Sanctaidd, ac mae'r corff yn rhan o'r ddelw Drindodaidd.
Trwy Fedydd a Chrismeiddio, daw'r corff yn breswylfod yr Ysbryd Gl芒n sy’n ymbreswylio ynddo, ac felly caiff ei drin 芒 gofal mawr ar 么l marwolaeth, a'i ddychwelyd i'r ddaear ar 么l i ni ddweud 'ffarw茅l'.
Y 'Ffarw茅l' Olaf (dim yn ystod Pandemig y Coronafeirws)
Gwedd茂au olaf y gwasanaeth angladdol yw y bydd gwas/llawforwyn ymadawedig Duw yn cael ei gofio ei chofio am dragwyddoldeb gan Dduw ei Hun.
Yna, ar 么l llafarganu 'Coff芒d tragwyddol', mae'r offeiriad yn adrodd gweddi’r gollyngdod, y caiff testun y weddi ei roi yn yr arch gyda'r sawl a hunodd.
Gweddi dros y sawl a hunodd
O Dduw’r ysbrydion a phob cnawd, a sethraist ar angau ac a orchfygaist y diafol, gan roddi bywyd i’th fyd; dyro Di, O Arglwydd, orffwys i enaid Dy ymadawedig was/lawforwyn (enw), mewn man disglair, man iraidd, man o orffwys, o’r lle y ffodd pob afiechyd, tristwch a galar. Maddau bob pechod a gyflawnwyd ganddo/ganddi ar air, ar weithred neu ar feddwl, canys daionus Dduw ydwyt, a charwr y ddynoliaeth. Oblegid nid oes neb a fydd byw na phecho; tydi yn unig wyt ddibechod - tragwyddol yw’th gyfiawnder, a gwirionedd yw’th air.
Canys Ti yw Atgyfodiad, a Bywyd, a Gorffwys Dy ymadawedig was/lawforwyn (enw), O Grist ein Duw, ac i Ti y dyrchafwn ogoniant, ynghyd 芒’th Dad sydd heb ddechreuad, a’th Ysbryd holl-sanctaidd, daionus a bywiawdol, yn awr a hyd byth, ac yn oes oesoedd. Amen
Emynau dros y sawl a hunodd
颁辞苍诲谩肠
Gyda'r Saint, dyro orffwys, O Grist, i enaid dy ymadawedig was / lawforwyn lle nad oes na phoen nac afiechyd na galar ond bywyd tragwyddol.
Icos
Coff芒d tragwyddol i Enw
ymadawedig was/lawforwyn Duw.
Gweinyddiaethau Duw
Cefnogir y modd y mae Cynulliadau Gweinyddiaethau Duw yn ymdrin 芒 galar gan lu o adnoddau a gwmpesir yn y ddogfen hon. Yn aml, bugeiliaid a chynghorwyr bugeiliol yw'r rhai cyntaf y gelwir arnyn nhw gan bobl sy'n ymdrin 芒 cholled a'r galar sy'n dod yn sgil hynny. Gall cwnsela pobl ddolurus fod yn gyfle euraid i weinidogaethu a chefnogi ar adegau tyngedfennol o fywyd person.
Mae ofn peidio 芒 gwybod beth i'w wneud neu ei ddweud ymhlith clerigwyr, ffrindiau agos, a theulu, yn creu pellter rhwng y rhai sy'n galaru a’r rhai a allai fod yn gysur iddynt pan fo eu hangen fwyaf. Mae mynegi tosturi yn ddefnyddiol a dylid ei wneud yn dyner. Gan fod pobl ddolurus yn aml yn galw bugeiliaid a chynghorwyr bugeiliol i gyd-gerdded ar lwybr galar gyda nhw, mae'n bwysig deall beth yw galar a sut orau i weinidogaethu i'r rhai sy'n dod am gymorth.
GALAR WEDI EI DDIFFINIO
Galar, yn 么l Russell Friedman, sy’n Gyfarwyddwr Gweithredol y Grief Recovery Insitute, yw “y teimlad gwrthgyferbyniol a achosir gan newid neu ddiwedd mewn patrwm neu ymddygiad cyfarwydd.” Mae'r awdur yn awgrymu ymhellach, “Nid yw'r cyflwr dynol yn hoffi newid; mae'n gwrthod newid. Mae eisiau cydbwysedd arno fel y gall ddychwelyd at yr hyn y mae'n ei wybod.”听 Felly, mynegiant cyffredin yw'r anhawster i symud ymlaen ar 么l colli rhywun annwyl.
Yn yr un modd mae J. William Worden yn diffinio galar fel “profiad rhywun sydd wedi colli rhywun annwyl i farwolaeth,” ond dywed heb betruso y gellir cymhwyso galar at golledion eraill. Diffiniwyd galar hefyd fel “y teimladau o dristwch, dicter, euogrwydd a dryswch sy'n codi pan fydd rhywun yn profi colled. Dyma’r effaith sy'n dod yn sgil profedigaeth.”
Yn y b么n, nid oes un diffiniad penodol o alar na chwaith un ffordd o ymdrin ag ef.听 Mae pawb yn mynegi ac yn profi galar yn eu ffordd unigol eu hunain, a thros amser penodol sy'n briodol i'w priod sefyllfaoedd.听 Tarwch olwg ar yr adnoddau hyn, ac a gaf i ffarwelio bob amser gan fynegi cariad Duw tuag atoch chi a rhodd bywyd.
ADNODDAU YNGL哦N 脗 GALAR A PHROFEDIGAETH
DEUNYDDIAU YNGL哦N 脗 GALAR
Care Notes. Archebwch gan: One Caring Place:
HOPE FOR BEREAVED: Understanding, Coping and Growing Through Grief (llawlyfr). Archebwch gan:
Grief Digest. Archebwch gan Centering Corporation:
Grief Support Guide, llawlyfr i fugeiliaid ac eglwysi gan Lou-Ann Redmon. Archebwch gan:
Mae Willowgreen yn darparu amryw fath o wybodaeth, ysbrydoliaeth, a chefnogaeth ar gyfer newidiadau sylweddol mewn bywyd a heneiddio, colled a galar, salwch a gofalu, gobaith ac ysbrydolrwydd, a phresenoldeb iachaol. Am fwy o wybodaeth, ewch i:
Mae New Leaf Resources yn hyrwyddo perthnasoedd iach a thwf personol trwy gwnsela, addysg ac ymgynghori o safbwynt Cristnogol. Cyswllt:
Adnoddau amrywiol gan gynnwys cyfres fideo DVD. Archebwch gan:
HYFFORDDIANT A GWYBODAETH BROFFESIYNOL
Academi Profedigaeth America
Mae Sefydliad Addysg CMI, Inc. yn sefydliad dielw sydd wedi ymrwymo i ddarparu addysg a hyfforddiant o ansawdd uchel i weithwyr proffesiynol gofal iechyd, gweithwyr proffesiynol cwnsela, a'r cyhoedd ar bynciau sy'n ymwneud 芒 gofal lliniarol, iechyd meddwl, galar a phrofedigaeth, salwch difrifol, colled. a / neu bynciau eraill sydd o ddiddordeb i weithwyr proffesiynol gofal iechyd ac iechyd meddwl, a phawb sy'n gweithio gyda'r rhai sy'n galaru a / neu'n dioddef o salwch corfforol neu feddyliol. Am fwy o wybodaeth, ewch i:
American Academy of Bereavement
Mae'r Centre for Loss yn ymroddedig i “ymgyfeillio” 芒 phobl alarus wrth iddynt alaru ar 么l newidiadau a cholledion sy'n trawsnewid eu bywydau. Rydym ni'n helpu galarwr, trwy gerdded gyda nhw yn eu teithiau bywyd unigryw, a gofalwyr proffesiynol a lleygwyr, trwy wasanaethu fel adnodd addysgol a fforwm proffesiynol. Am fwy o wybodaeth, ewch i: .
Grief Recovery Institute
Sefydliad sy’n darparu adnoddau a hyfforddiant i'r rhai sy'n gwella ar 么l galar neu sydd eisiau dysgu sut i weinidogaethu i'r rhai sy'n galaru. Am fwy o wybodaeth, ewch i: .
鈦燗搁-尝贰滨狈
Grwpiau cymorth wedi'u cynllunio i helpu'r rhai sy'n galaru.
Chwiliadau Google: ‘Christian Grief Resources’; ‘Grief Support Training for Clergy and Congregations’
Methodistaidd
Profedigaeth - Y Safbwynt Methodistaidd
Mae’r Eglwys Fethodistaidd yn deulu byd-eang o Gristnogion sy'n cynnwys dros 80 miliwn o bobl mewn 138 o wledydd. Yn y Deyrnas Unedig ni yw’r听pedwerydd enwad Cristnogol mwyaf, gyda dros 4,000 o eglwysi a thua 170,000 o aelodau.听
Ym Mangor rydym yn addoli yn Eglwys Sant Ioan, hen eglwys fawreddog sydd ym mhen pellaf y Stryd Fawr wrth ymyl Lidl. Rydym yn addoli yn Saesneg. Rydym yn hamddenol a chroesawgar ein natur. Byddem wrth ein bodd yn eich gweld ar ddydd Sul neu yn unrhyw un o'r digwyddiadau wythnosol eraill a gynhaliwn. Mae llawer yn digwydd yn yr eglwys.听
Ar hyn o bryd rydym yn cyfarfod yn yr eglwys ei hun i addoli ar fore Sul am 10.30 gyda'r gwasanaeth ar Zoom bob yn ail wythnos. Mae yna hefyd wasanaeth ar Zoom am 6.00 yr hwyr ar nos Sul olaf pob mis. Mae manylion y pethau eraill sy’n digwydd yng nghymuned ein heglwys i'w gweld yma:听听
Fi yw Gweinidog Eglwys Sant Ioan ac rwyf hefyd yn un o D卯m Caplaniaeth y Brifysgol. Rwy'n newydd i'r ardal ac yn dal i ymgyfarwyddo, ond byddaf yn hapus iawn i gwrdd 芒 chi neu roi unrhyw wybodaeth bellach sydd ei hangen arnoch. Gallwch gysylltu 芒 fi drwy e-bostiorevdncsissons@gmail.com neu rhowch ganiad i mi ar 07793800410.听
Os ydych chi eisiau gwybod mwy amyr听Eglwys Fethodistaidd ym Mhrydain Fawr听yna ewch i’n gwefan, lle ceir toreth o wybodaeth amdanom ni:听
Efallai y byddwch chi'n mwynhau’r adlewyrchiad beunyddiol ar y Beibl yn arbennig:
Mae gan John Wesley, a sylfaenodd y mudiad Methodistaidd yn 么l yn y ddeunawfed ganrif, Reol Buchedd a briodolir yn aml iddo. Mae'n debyg na ddywedodd yr union eiriau hyn ond maen nhw'n rhoi blas i chi o'r hyn a gredai ddylai fod yn bwysig i ni.听
Rwy'n gobeithio’n fawr y mwynhewch chi eich amser ym Mangor.听
'Gwnewch yr holl dda y gallwch chi,
Ym mhob modd y gallwch chi,
Ym mhob ffordd y gallwch chi,
Yn yr holl leoedd y gallwch chi,
Bob amser y gallwch chi,
I'r holl bobl y gallwch chi,
Cyhyd ag erioed y gallwch chi.'听
Nick Sissons, Y Caplan Methodistaidd