Benthyciadau Diwrnod Talu
Mae benthyciadau diwrnod talu yn fenthyciadau bach, tymor byr, y mae’r llog arnynt ar gyfradd uchel iawn. Mewn theori, maent i’w defnyddio fel benthyciadau ariannol cyn diwrnod cyflog, y mae pobl yn eu had-dalu ar 么l cael t芒l, ond rydym wedi gweld myfyrwyr yn eu cymryd a’u had-dalu ar 么l cael eu benthyciad/ grant myfyriwr. Mae’r mathau hyn o fenthyciad ar gael yn rhwydd ar-lein ac ar y stryd fawr.
Fel rheol, cewch fis i ad-dalu’r benthyciad a, ran amlaf, bydd y cwmni benthyciadau yn debydu eich cyfrif banc yn awtomataidd am y t芒l ar ddyddiad y cytunir arno. Os nad oes gennych arian yn eich cyfrif, bydd y cwmni’n ceisio ei gymryd o hyd, gan achosi i’r banc godi taliadau arnoch, o bosibl.
Yn anffodus, mae mwyfwy o fyfyrwyr yn troi at fenthyciadau diwrnod talu, am fod y math hwn o fenthycwyr yn targedu myfyrwyr wrth roi gwybodaeth am yr hyn sydd ganddynt i’w cynnig. Gall hyn ymddangos fel ateb tymor-byr deniadol i’r broblem ac yn ffynhonnell rwydd o arian ychwanegol, ond hoffem eich cynghori i osgoi’r math hwn o fenthyca ac i edrych ar ddewisiadau eraill a all fod yn fwy priodol.
Mae gan staff yr Uned Cymorth Ariannol brofiad uniongyrchol o weld sut y gall myfyrwyr ychwanegu at eu hanawsterau personol trwy gymryd benthyciadau diwrnod talu, a hoffem eich annog i ddod draw a siarad 芒 ni gyntaf yn yr Uned Cymorth Ariannol, Llawr 1af, Neuadd Rathbone. Mae gennym staff priodol nad ydynt yn barnu, ac a fydd yn gallu eich cynghori.