Tudalennau Caplaniaeth a Darpariaeth Ffydd
- Caplaniaeth a Darpariaeth Ffydd
- Darpariaeth Ffydd Lleol
- Adnoddau Caplaniaeth (a dolenni i wybodaeth ddefnyddiol)
- Tîm y Gaplaniaeth
- Cwrdd â tîm y Gaplaniaeth
- Anecs Rathbone a Gweddïau Fwslimaidd
- Newyddion a Digwyddiadau
- Myfyrdod y Mis
- Profedigaeth
- Cymdeithas Staff Cristnogol Prifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ
Anecs Rathbone a Gweddïau Fwslimaidd
Anecs Rathbone a Gweddïau Fwslimaidd
Mae Ystafell Dawel yn Anecs Rathbone ar Ffordd y Coleg sydd ar gael yn ystod oriau dysgu i unigolion ei defnyddio i weddïo’n dawel ac i fyfyrio. Mae ystafell gyfarfod yn yr Anecs hefyd sydd ar gael i grwpiau ei harchebu i gynnal gweithgareddau sy'n gysylltiedig â ffydd. Mae toiledau ar wahân i ferched a dynion yn Anecs Rathbone yn ogystal â thoiled hawdd ei gyrraedd ac maent i gyd yn cynnwys cyfleusterau ymolchi at ddibenion crefyddol.
Gellir archebu yma
Gellir gwneud ymholiadau trwy anfon neges e-bost at: ffydd@bangor.ac.uk
Gweddïau Fwslimaidd
Mae’r Ystafell Gyfarfod yn Anecs Rathbone ar gael ar gyfer Gweddïau Mwslimaidd rhwng 12.30–3.30 dydd Llun i ddydd Gwener. Mae’r ystafell wedi’i rhannu’n ddwy â llen er mwyn rhoi man gweddïo ar wahân i ddynion a merched gyda mynedfeydd ar wahân. Mae cyfleusterau ymolchi ar gael yn y toiledau i ddynion, merched a’r anabl.
Oherwydd bod yr Ystafell Gyfarfod yn cael ei defnyddio ar gyfer gweithgareddau ffydd eraill, ni ddylid gadael unrhyw eitemau personol yn yr ystafell.
Ar rai achlysuron, gall yr Ystafell Gyfarfod fod wedi’i harchebu ymlaen llaw ar gyfer gweithgareddau eraill yn ymwneud â ffydd. Rhoddir o leiaf bythefnos o rybudd am unrhyw ddyddiau pan nad yw’r ystafell ar gael i ddibenion Gweddïo Mwslimaidd.
Gofynnir i chi anfon unrhyw ymholiadau at ffydd@bangor.ac.uk