Therapi Celf
Mae Gwasnaeth Cefnogaeth a Lles Myfyrwyr Prifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ yn cynnig sesiynau therapi celf i gefnogi anghenion emosiynol a seicolegol myfyrwyr. Mae therapi celf, math o seicotherapi, yn cynnig cefnogaeth emosiynol a seicolegol yn ystod cyfnodau anoddaf bywyd. Mae gweithio â therapydd celf cymwys yn helpu pobl i ddefnyddio deunyddiau celf, darganfod y broses greadigol a'u cefnogi wrth iddynt archwilio eu meddyliau a'u teimladau drwy'r delweddau maent yn eu creu.
Mae'r broses o wneud delweddau a thrafod mewn therapi celf yn galluogi pobl i ystyried a rhannu profiadau mewn man diogel a chyfrinachol. Gall gefnogi cleientiaid i leihau pryder a’u helpu i ddeall a delio gyda problemau emosiynol, yn ogystal â’u hannog i ddod i adnabod ei hunain yn well a datblygu hunan-ymwybyddiaeth.
Mae’n bwysig pwysleisio nad oes rhaid i rhai sy’n mynychu therapi celf fod yn ‘dda mewn celf' ac nid oes angen unrhyw brofiad blaenorol arnynt. Gall sesiynau therapi celf helpu os yw rhywun yn teimlo'n isel, yn orbryderus, bod ganddynt hunan-ddelwedd isel a diffyg hyder neu yn dioddef yn emosiynol oherwydd tensiynau teuluol, profedigaeth, straen gwaith academaidd, problemau gyda ffrindiau a pherthnasau, rhywioldeb, bwlio a mwy.
Mae therapi celf ar gael ar sail un i un mewn person yn arferol, ond mae modd ei gynnal ar-lein o oes angen. Mae cyfres o oddeutu wyth sesiwn therapi ar gael, cynhelir yn wythnosol ar amser rheolaidd ac mewn lleoliad cyson.
Mae cynnwys y therapi yn cael ei gadw'n breifat ac yn gyfrinachol. Dim ond pan fydd diogelwch y cleient neu rywun arall mewn perygl bydd gwybodaeth yn cael ei rannu ag eraill.
Dewch i gyswllt am fwy o wybodaeth neu ymwelwch â’r wefan hon a chliciwch i ddysgu mwy am therapi celf a beth i ddisgwyl pan yn cychwyn therapi celf (dolenni cyswllt i wefannau allanol uniaith Saesneg).
Ebostiwch am fwy o wybodaeth ac i wneud apwyntiad drwy clicio yma.
Lawrlwythwch gopi o’n taflen Therapi Celf yma.
Grwp Seicotherapi Celf 2024/25 Bydd Grwp Seicotherapi Clef wyth wythnos yn cael ei gynnal bob bore Mawrth rhwng 4 Chwefror 2025 a 25 Mawrth 2025. Cliciwch yma am y manylion llawr ar ein tafle ac ebostiwch gwasanaethaulles@bangor.ac.uk am fwy o wybodaeth a/neu i gofrestru. |
Gweithgareddau a Mwy o Wybodaeth:
Dysgwch fwy am Therapi Celf, ei hanes, beth ydyw, yr hyfforddiant sydd ei angen i ymarfer, lleoliadau gwaith therapyddion celf a gair gan ein therapydd celf Gwawr Wyn Roberts.
Gall cadw dyddlyfr gweledol fod yn ffordd dda o gefnogi eich ymarfer hunanofal, lawrlwythwch gopi o'n taflen waith yma i ddysgu mwy am sut i ddechrau dyddlyfr gweledol eich hun.
Lawrlwythwch gopi o’n taflen celf ymdopi â newid – gorffen yn y brifysgol yma i’ch cefnogi pan ddaw’n amser gadael y brifysgol.
Lawrlwythwch gopi rhad ac am ddim o’r llyfryn ‘Adfyfyrio Drwy Gelf’ yma os yr hoffech ysbrydoliaeth i greu celf eich hun.
Gall natur gael effaith gadarnhaol ar les, lawrlwythwch gopi o'n llyfryn Natur a Lles yma i ddysgu mwy am weithgareddau creadigol a all eich helpu i gysylltu â natur. |