Beth rydym yn ei wneud i fyfyrwyr
1.Dyma rai enghreifftiau o鈥檙 hyn y gallwn ei wneud i chi
Rydym yn cynnig gwasanaeth i bob myfyriwr anabl, boed yn fyfyrwyr llawn amser neu'n rhan-amser, israddedig neu 么l-radd.听Rydym yn ystyried gofynion pob unigolyn fesul achos ac yn gweithio o fewn fframwaith听polisi cyfrinachedd y brifysgol.听Mae angen i ni ofyn am ryw fath o dystiolaeth ddogfennol ar gyfer rhai trefniadau, er enghraifft, addasiadau i arholiadau, trwyddedau parcio.
Dyma rai enghreifftiau o’r hyn y gallwn ei wneud i chi:
- Darparu gwybodaeth am anabledd, gan gynnwys gwahaniaethau dysgu penodol neu faterion iechyd meddwl, a'r gwasanaethau a'r gefnogaeth a allai fod ar gael.
- Cynnig cymorth a chyfarwyddyd personol ac academaidd.
- Rhoi cyngor ar strategaethau er hwyluso astudio a thasgau beunyddiol.
- Gallwn gynghori myfyrwyr y DU ar wneud cais am y Lwfans Myfyrwyr Anabl (LMA), ac i fyfyrwyr nad ydynt yn gymwys i gael y Lwfans Myfyrwyr Anabl gallwn gynghori ar ddewisiadau amgen posibl.
- Ddarparu gweithwyr cefnogi, er enghraifft Mentoriaid, Cynorthwywyr Ymarferol, Arweinydd 芒 Golwg, ayb.
- Cynorthwyo i drefnu yn ôl gofynion penodol ar gyfer arholiadau
- Trefnu i ddarparu dehongliad yn yr Iaith Arwyddion Brydeinig.
- Trefnu ar gyfer mwy o ddarpariaeth a chymorth yn y llyfrgell.
- Trefnu Cynllun Cefnogi Dysgu Personol i sicrhau fod unrhyw drefniadau angenrheidiol (addasiadau rhesymol) yn eu lle.
- Cysylltu ar eich rhan, os oes angen a chyda’ch caniatâd chi, ag aelodau’r staff i sicrhau bod angenrheidiol wedi’u gwneud.
- Cadw mewn cysylltiad trwy gyfarfodydd, newyddlenni, e-bost ac ar y ffôn.
- Cyfeirio myfyrwyr at weithwyr proffesiynol eraill a all helpu, e.e. y Gwasanaeth Cynghori neu’r Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol.
- Gweithio mewn cysylltiad agos â Tiwtoriaid eich Ysgol ym maes Anabledd.
Cefnogaeth i fyfyrwyr sy'n aros am ddiagnosis anhwylderau'r sbectrwm awtistig ym Mhrifysgol 香港六合彩挂牌资料
Ydych chi'n meddwl y gallech chi fod ar y sbectrwm awtistig?
Gall ein Cynghorwyr Anabledd gefnogi myfyrwyr sy'n credu y gallent fod ar y sbectrwm awtistig ond nad ydynt wedi cael diagnosis ffurfiol neu maent yn aros am ddiagnosis, mewn gwahanol ffyrdd:
- Cyngor da ar gefnogaeth i drosglwyddo i'r brifysgol.
- Cyfarfod wyneb yn wyneb 芒 chynghorydd i drafod materion yn ymwneud 芒 gwaith dosbarth ac aseiniadau, cymdeithasu ac agweddau eraill ar fywyd prifysgol.
- Trafod opsiynau posibl, fel sut i gael diagnosis neu sut i gael eich cyfeirio at wasanaethau lleol.
- Cyngor ar wasanaethau ym Mhrifysgol 香港六合彩挂牌资料 y gall myfyrwyr eu defnyddio i gael cefnogaeth (nid yn gysylltiedig ag anabledd yn benodol).
Os ydych chi'n meddwl eich bod efallai'n awtistig, gallwch ofyn i'ch meddyg teulu eich cyfeirio am asesiad awtistiaeth. Nid yw'r brifysgol yn cynnig sgrinio neu asesu awtistiaeth - mae hyn ar gael drwy'r GIG neu'n breifat yn unig. Efallai y byddai'n well gennych holi a yw rhestr aros y GIG yn ardal eich cartref yn fyrrach nag yma ym Mangor a gofynnwch i'ch meddyg teulu gartref eich cyfeirio. Os oes gennych y modd ariannol, mae rhai pobl yn dewis talu'n breifat am asesiad (gall Cynghorwyr Anabledd roi manylion cyswllt gwasanaethau preifat lleol i chi).
Sefydlwyd Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig Gogledd Cymru yn 2018 ac mae'n cefnogi myfyrwyr gyda'r broses o gael diagnosis ac wedi hynny. Mae'r Gwasanaeth yn derbyn hunan-gyfeiriadau. Gall Cynghorwyr Anabledd helpu myfyrwyr i lenwi'r ffurflen hunangyfeirio.
Dyma gyswllt i'w gwefan:
Mae rhagor o wybodaeth am ddiagnosis ar gael ar wefan y Gymdeithas Awtistiaeth Genedlaethol yma: https://www.autism.org.uk/about/diagnosis/adults.aspx
Adnoddau:
- Mae gwe-dudalennau'r Gymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth yn cynnwys llawer o wybodaeth bellach ddefnyddiol.
Myfyrwyr ag Anafiadau ac Anhwylderau Dros Dro
Mae'n rhaid i fyfyrwyr sydd ag anafiadau a chyflyrau dros dro, ac angen addasiadau, roi tystiolaeth berthnasol i'r Gwasanaethau Anabledd a'u hysgol, er enghraifft, nodyn gan eu meddyg teulu neu ymgynghorwr yn cadarnhau'r salwch neu'r anaf, y dyddiad y cychwynnodd a faint mae’n debygol o bara.
Dyma enghraifft o'r addasiadau y gallai'r Gwasanaeth Anabledd eu trefnu ar eich rhan ar yr amod eich bod yn darparu'r ddogfennaeth berthnasol:
- Rhoi benthyg cyfrifiadur
- Rhoi benthyg cadair olwyn
- Cymorth i gymryd nodiadau
- Cymorth llyfrgell
- Estyniadau i ddyddiadau gorffen
- Trefniadau arholiadau gwahanol
Gallai myfyrwyr sydd 芒 salwch neu anafiadau dros dro gael addasiadau i'w trefniadau arholiadau megis egwylion neu amser ychwanegol, defnyddio cyfrifiadur neu ysgrifennwr. Nodwch, tra bod natur anafiadau ac anhwylderau dros dro yn golygu weithiau na all fyfyrwyr roi gymaint o rybudd i'r Brifysgol ag sydd ei angen fel arfer, bydd rhai trefniadau angen rhybudd rhesymol, e.e. pythefnos.
Mae’n bosib y byddwch yn gymwys i gael cymorth o’r Gronfa Caledi tuag at gostau tacsi. Gall Ymgynghorydd eich helpu i archwilio'r dewis hwn.
Ebostwich gwasanaethanabledd@bangor.ac.uk neu ff么nio ar 01248 382032.
Wedi'i ddiweddaru 21.01.2021