Meddwl am adael? Gair o gyngor...
Ydych chi'n meddwl am adael neu gymryd egwyl o'ch astudiaethau / eu gohirio?
Byddai'n syniad da i chi drafod materion o'r fath gyda'ch Tiwtor Personol ac yna gydag un o’r Cynghorwyr Myfyrwyr yn y T卯m Cefnogi Myfyrwyr. Gwnawn bob ymdrech i roi'r holl wybodaeth a'r cyngor angenrheidiol i chi i'ch helpu i wneud penderfyniad cytbwys. Bydd hynny'n cynnwys trafod goblygiadau eich penderfyniad a sut y bydd hyn yn effeithio ar eich ffioedd dysgu a llety, eich hawl i gael cyllid myfyrwyr, a’ch gallu i astudio yn y dyfodol. Gallai helpu datrys eich pryderon.
Os oes gennych chi fisa myfyriwr/haen 4 cysylltwch ag internationalsupport@bangor.ac.uk cyn gwneud hynny am arweiniad ar sut y gallai hyn effeithio ar eich fisa.
A gaf i gymryd blwyddyn fwlch?
Nid yw’n anarferol i fyfyrwyr sydd wedi dod yn syth o’r Ysgol neu’r Coleg deimlo pwysau i fynd ar eu hunion i'r Brifysgol, a'u cael eu hunain yn y Brifysgol heb fod wedi rhoi llawer iawn o feddwl i bethau cyn dewis cwrs na Phrifysgol. Yn 么l rhai myfyrwyr, maen nhw'n teimlo fel pe baent ar ‘felin draed addysgol’, ac mai ychydig iawn o ddweud a fu ganddyn nhw yngl欧n 芒'u tynged. Os felly, efallai yr hoffech chi gymryd blwyddyn rydd o addysg, er mwyn cael amser i ystyried yr hyn yr hoffech chi ei wneud mewn gwirionedd.
Sut i atal neu dynnu'n 么l o astudio?
Os ydych chi'n ystyried tynnu'n 么l o'r Brifysgol am gyfnod neu ohirio’ch astudiaethau dros dro, rydym eto'n argymell eich bod yn siarad ag aelod o'r staff megis eich Tiwtor Personol, aelod priodol arall o staff yr Ysgol neu un o’r Cynghorwyr Myfyrwyr yn y T卯m Cefnogi Myfyrwyr i drafod eich pryderon a'ch dewisiadau. Unwaith y byddwch wedi trafod eich sefyllfa gyda’ch Tiwtor Personol a’r t卯m Cefnogi Myfyrwyr, rhaid i chi gwblhau cais israddedig naill ai i ohirio eich astudiaethau neu i dynnu’n 么l o astudio trwy lenwi’r ffurflen briodol trwy FyMangor h.y.
- Gohirio Astudiaethau Israddedig Dros Dro
- Hysbysiad o ohirio astudiaethau israddedig
Dylid gwneud hynny cyn gynted ag y bo modd ar 么l ichi benderfynu er mwyn lleihau’r posibilrwydd o ordaliadau gan gyllid myfyrwyr. Os na wnewch chi ohirio’ch astudiaethau dros dro neu dynnu'n 么l yn barhaol o'r Brifysgol yn ffurfiol mi ellid codi ffioedd dysgu arnoch chi am flwyddyn lawn.
Unwaith y bydd y ffurflen ar-lein wedi'i chyflwyno:
- bydd yr aelodau staff perthnasol yn y brifysgol yn cael eu hysbysu fel y bo'n briodol am eich amgylchiadau a chaiff eich cofnodion eu diweddaru yn unol 芒 hynny.
- hysbysir sefydliadau Cyllid Myfyrwyr lle bo hynny'n berthnasol.
- gellwch lawrlwytho llythyr o gadarnhad os bydd ei angen arnoch.
- os ydych yn gohirio eich astudiaethau, cysylltir 芒 chi oddeutu 2 fis cyn eich dyddiad dychwelyd arfaethedig gyda'r wybodaeth angenrheidiol ar gyfer ailddechrau eich astudiaethau.
Byddwn yn cadarnhau eich penderfyniad i dynnu'n 么l neu ohirio eich astudiaethau gyda Chyllid Myfyrwyr, ond eich cyfrifoldeb chi yw rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf iddynt. Rydym yn awgrymu eich bod yn cysylltu’n uniongyrchol 芒 nhw os na fyddwch wedi clywed ganddynt o fewn mis o dynnu'n 么l o astudio neu ohirio eich astudiaethau. Mae hynny'n helpu i leihau neu osgoi cymhlethdodau gyda Chyllid Myfyrwyr megis adhawlio am ordaliadau a phroblemau gyda cheisiadau yn y dyfodol.
A gaf i drosglwyddo i Brifysgol arall?
Gall hyn fod yn bosibl ar ddechrau'r flwyddyn academaidd.
Mae’n dibynnu i raddau helaeth ar ba mor gyflym y gwnewch chi eich penderfyniad a'r llefydd sydd ar gael yn y brifysgol yr ydych am fynd iddi. Fodd bynnag, mi allai newid prifysgol yn sydyn a chithau newydd gyrraedd yma fod yn straen mawr arnoch chi ac felly byddai'n dda o beth i chi drafod y mater gyda Chynghorydd Myfyrwyr yn y T卯m Cefnogi Myfyrwyr a all roi cyngor i chi a sicrhau y dilynir y gweithdrefnau priodol.
Os ydych yn trosglwyddo i brifysgol arall, dylech ohirio cysylltu 芒 Chyllid Myfyrwyr hyd nes y byddwch wedi trosglwyddo'n llwyddiannus ac yna rhoi gwybod iddynt i ba sefydliad rydych wedi trosglwyddo.
Newid cwrs ym Mangor
Os ydych chi eisiau newid i gwrs arall ym Mhrifysgol 香港六合彩挂牌资料, mae angen ichi fynd at Gyfarwyddwr y Cwrs yr hoffech chi drosglwyddo iddo, boed o fewn eich ysgol bresennol neu un arall. Mae hyn i weld a oes llefydd ar y cwrs hwnnw ac a ydynt yn barod i'ch derbyn chi. Ar 么l gwneud hynny, bydd angen i chi gwblhau Cais Newid Gradd trwy'r ar FyMangor.
Fel arfer, ni chaniateir newid cwrs ar 么l i 4 wythnos o’r semester gyntaf fynd heibio.
Ystyriaethau ariannol (wrth ohirio astudiaethau neu dynnu'n 么l)
Cyllid Myfyrwyr
Fel rheol, mae myfyrwyr israddedig yn cael cyllid myfyrwyr ar gyfer eu cwrs cyfan (3 neu 4 blynedd fel arfer) ynghyd 芒 blwyddyn ychwanegol. Os byddwch chi'n atal neu'n tynnu'n 么l o astudio ran o'r ffordd drwy'r flwyddyn, byddwch chi wedi derbyn cyllid am y flwyddyn honno. Pan ddychwelwch chi'r flwyddyn ganlynol i ailgychwyn eich astudiaethau, mae'n debyg y byddwch chi'n defnyddio eich 'blwyddyn ychwanegol'. Petai angen, byddai disgwyl i fyfyrwyr dalu eu hunain am unrhyw flynyddoedd ychwanegol sydd eu hangen i gwblhau eu gradd ac ni fyddent ond yn gymwys am fenthyciad cynhaliaeth ar gyfer y cyfnod hwn.
Unwaith y bydd myfyriwr wedi gohirio ei astudiaethau neu dynnu’n 么l:
- caiff y gyfran briodol o'r benthyciad dysgu ei chyfrifo gan ddefnyddio'ch dyddiad presenoldeb diwethaf ac addesir eich benthyciad dysgu yn unol 芒 hynny.
- ni chaiff unrhyw daliadau cyllid myfyrwyr eraill eu gwneud - er o dan amgylchiadau arbennig, mi ellid ystyried ap锚l yn erbyn hynny ar gyfer yr astudiaethau hynny a gafodd eu hatal.
- caiff y gyfran briodol o gyllid myfyrwyr ei chyfrifo gan ddefnyddio'ch dyddiad presenoldeb diwethaf ac ad-hawlir unrhyw ordaliadau. Tynnir unrhyw arian a gafodd ei ordalu ond na chafodd ei ad-dalu o'ch hawl chi i gyllid yn y dyfodol.
Ystyriaethau ariannol eraill:
- unwaith y byddwch chi wedi peidio 芒 bod yn fyfyriwr, efallai y bydd angen i chi dalu Treth y Cyngor. Cofiwch ofyn i'r Awdurdod Lleol.
- os ydych chi'n derbyn unrhyw fudd-daliadau lles, bydd angen i chi roi gwybod iddynt am y newid yn eich amgylchiadau er mwyn gwneud unrhyw addasiadau angenrheidiol.
Gallwch ddysgu mwy am adhawlio unrhyw gyllid myfyrwyr a ordalwyd drwy'r dolenni isod.
Gwybodaeth ynghylch tynnu'n 么l |
||
Gwybodaeth ynghylch gohirio astudiaethau |
||
Gwybodaeth ynghylch Caledi Ariannol |
COFIWCH, os ydych chi’n derbyn cyllid myfyrwyr o rywle arall, mae'n bwysig edrych ar wefan eich darparwr.
Dan nawdd y GIG
Rhaid gwneud ceisiadau i atal neu dynnu'n 么l o’ch astudiaethau drwy'r ffurflen briodol ar FyMangor h.y.
- Gohirio Astudiaethau Israddedig Dros Dro
- Hysbysiad o ohirio astudiaethau israddedig
Er y gall Cymorth i Fyfyrwyr roi cyngor ar arian gan Gyllid Myfyrwyr, ni allwn roi cyngor ar gyllid gan y GIG. Os ydych yn cael eich ariannu drwy’r GIG, bydd yn ddefnyddiol ichi edrych ar y telerau ac amodau sy’n ymwneud 芒 Chynllun Bwrsariaeth y GIG y gellir dod o hyd i gopi ohono .
Myfyrwyr 么l-radd
Dylai myfyrwyr 么l-radd sy'n dymuno atal eu hastudiaethau naill ai dros dro neu'n barhaol drafod y mater gydag aelod priodol o staff yn eu hysgol academaidd megis:
- 鈦燭iwtor personol
- Goruchwyliwr (myfyrwyr ymchwil)
- Cyfarwyddwr Cwrs (rhaglenni Meistr)
- Cyfarwyddwr Astudiaethau 脭l-Radd.
Unwaith y byddwch wedi trafod eich bwriad gyda'ch ysgol academaidd bydd angen i chi roi gwybod i ni am eich penderfyniad naill ai i ohirio eich astudiaethau neu i dynnu’n 么l o astudio trwy lenwi’r ffurflen briodol trwy FyMangor h.y.
- Gohirio Astudiaethau 脭l-Raddedig Dros Dro
- Hysbysiad o ohirio astudiaethau 脭l-Raddedig
Manylion cyswllt:
E-bost: student-admin@bangor.ac.uk
Ff么n: 01248 388484
Cysylltwch 芒 ni
Mae croeso i chi alw heibio i weld y T卯m Cefnogi Myfyrwyr yn ystod oriau swyddfa ar lawr cyntaf Neuadd Rathbone, Dydd Llun i ddydd Gwener 9:00鈥16:30.
I wneud apwyntiad wyneb yn wyneb neu ar-lein, defnyddiwch y ddolen .
Ff么n: 01248 382072
E-bost: 聽聽聽聽聽聽聽聽聽聽cefnogimyfyrwyr@bangor.ac.uk
Cyfeiriad: 聽聽聽聽聽聽聽Y T卯m Cefnogi Myfyrwyr, Gwasanaethau Myfyrwyr, Ail Lawr, Neuadd Rathbone, Ffordd y Coleg, 香港六合彩挂牌资料, LL57 2DF.
Ffynonellau eraill o gymorth a chyngor
Neuadd Rathbone, Ffordd y Coleg
- Gwasanaeth Anabledd: Llawr Gwaelod Isaf 01248 382032 | gwasanaethanabledd@bangor.ac.uk
- Gwasanaeth Lles Myfyrwyr: Llawr Gwaelod 01248 388520 | gwasanaethaulles@bangor.ac.uk
- Cymorth Ariannol: Llawr Cyntaf 01248 38 3566 / 3637 | moneysupport@bangor.ac.uk
- Swyddfa Tai Myfyrwyr: Ail Lawr 01248 382034 | taimyfyrwyr@bangor.ac.uk
- Gwasanaeth Sgiliau a Chyflogadwyedd: Ail Lawr 01248 382071 | employability@bangor.ac.uk
- Cymorth i Fyfyrwyr Rhyngwladol: 01248 388430 | internationalsupport@bangor.ac.uk
Lleoliadau Eraill
- Gweinyddu Myfyrwyr: Llawr Cyntaf Adeilad Newydd y Celfyddydau 01248 388484 | gweinyddiaeth-myfyrwyr@bangor.ac.uk
- Ymgysylltiad Academaidd / Mewnfudo - academicengagement@bangor.ac.uk
- Ymholiadau am ddyfarniadau - dyfarniadau@bangor.ac.uk
- Ymholiadau am arholiadau - examinations@bangor.ac.uk
- Cofrestru cofrestru@bangor.ac.uk
Rheoliadau ac adnoddau
Mae’r wybodaeth uchod ar gael i’w lawrlwytho ar ffurf y llyfryn Meddwl am Adael.
Mae 'Gweithdrefnau ar gyfer Cymeradwyo Gohirio Astudiaethau' y Brifysgol ar gael .
Rydym yn croesawu eich sylwadau am y gwasanaeth a gewch, i'n helpu ni i ddatblygu a chynnig y gwasanaeth gorau posib yn awr ac yn y dyfodol.
Cysylltwch ag un o’r canlynol gyda'ch sylwadau:
Enw | Swydd |
Gian Fazey-Koven | Pennaeth Llesiant a Chefnogi Myfyrwyr |
Rheolwr Cefnogi Myfyrwyr |