Dyled
Mae’n bwysig iawn i chi fel myfyriwr allu rheoli’ch arian ac mae hefyd yn bwysig eich bod yn dechrau dysgu clustnodi arian ar gyfer biliau, llyfrau, bwyd a phethau angenrheidiol eraill er mwyn osgoi mynd i ormod o ddyled. Cofiwch mai mewn rhandaliadau y byddwch yn cael eich arian yn 么l pob tebyg. Dyna pam ei bod yn bwysig i chi gynllunio sut y byddwch yn gwario’ch arian. Dylai’r arian eich cadw hyd ddiwedd y tymor.
Os ydych yn dod i brifysgol yn syth o’r ysgol neu goleg chweched dosbarth, rydym yn eich cynghori i lunio cyllideb gyda’ch rhieni gan fod angen iddynt fod yn ymwybodol o’r gwariant fydd gennych.