Cyfrinachedd
Rydym yn annog myfyrwyr i rannu gwybodaeth yn ymwneud ag anabledd, yn cynnwys gofynion iechyd meddwl, i'n galluogi i dynnu sylw at y gefnogaeth a'r cyllid sydd ar gael, yn ogystal 芒 thrafod unrhyw ofynion cefnogaeth neu addasiadau rhesymol fydd gennych tra ym Mhrifysgol 香港六合彩挂牌资料. Cytunir ar addasiadau rhesymol gyda chi ac fe'u hamlinellir mewn Cynllun Cefnogi Dysgu Personol (CCDP).
Bydd unrhyw wybodaeth y byddwch yn ei rhannu 芒 ni ynghylch eich anabledd, iechyd neu les yn cael ei thrin fel data personol sensitif dan Deddfwriaeth Diogelu Data ac fe'i cedwir yn gyfrinachol i Gwasanaethau Anabledd. Caiff gwybodaeth berthnasol ei throsglwyddo i eraill yn y Brifysgol gyda'ch caniat芒d pendant, a dim ond wedyn ar sail ‘angen i wybod’ er mwyn sicrhau bod y gefnogaeth a'r addasiadau y cytunwyd 芒 chi yn eich CCDP yn cael eu gweithredu. Bydd unrhyw aelod staff sy'n ymwybodol o'ch anabledd o ganlyniad i'ch CCDP, neu wybodaeth gan Gwasanaethau Anabledd, yn trin y wybodaeth hon yn unol 芒'r Deddfwriaeth Diogelu Data. Os oes gennych unrhyw bryderon o fath yn y byd am y broses hon, mae croeso i chi eu trafod gydag Ymgynghorydd Gwasanaeth Anabledd.
Cadw cofnodion
Bydd Gwasanaethau Anabledd yn cadw eich manylion personol mewn cronfa ddata, na ellir mynd iddi heb gyfrinair, ar weinydd diogel yn y Brifysgol ac yn unol 芒'r Deddfwriaeth Diogelu Data. Dim ond staff Gwasanaethau Anabledd gaiff fynd at y data hyn. Cedwir dogfennau papur mewn cypyrddau diogel. Rydym yn gweithredu trefn cael gwared ar wybodaeth er mwyn sicrhau na chedwir data am fwy o amser nag sy'n angenrheidiol.
Mae angen i鈥檙 Brifysgol gyflwyno data'n ymwneud ag anabledd i'r Cyngor Cyllido ar ffurf ystadegol yn unig (data HESA). Nid oes unrhyw wybodaeth a fyddai'n datgelu pwy yw myfyriwr unigol yn cael ei chynnwys yn y data.
Dyletswydd Gofal
Mewn amgylchiadau eithriadol iawn bydd dyletswydd gofal yn gorbwyso ein dyletswydd i gadw cyfrinachedd ac mewn achosion o'r fath gellir datgelu peth gwybodaeth i rywun arall (e.e. meddyg, gweithiwr cymdeithasol neu'r heddlu). Dyma'r amgylchiadau lle gallem orfod torri cyfrinachedd:
-
pryder bod perygl i'r unigolyn achosi niwed difrifol iddynt eu hunain neu i eraill;
-
lle gallai'r Cynghorwr wynebu achos mewn llys sifil neu droseddol pe na bai'r wybodaeth yn cael ei datgelu.
Gwybodaeth bellach
Mae polis茂au ar gyfrinachedd a rhannu gwybodaeth yn ymwneud ag anabledd i'w cael yn y Cod Ymarfer ar Ddarpariaeth i Fyfyrwyr Anabl.
Mae polis茂au Prifysgol 香港六合彩挂牌资料 ar gadw cofnodion i'w cael yma.
Cwestiynau?
Os oes gennych unrhyw ymholiadau'n ymwneud 芒 chyfrinachedd a sut y rhennir gwybodaeth, anfonwch e-bost at gwasanaethanabledd@bangor.ac.uk neu ffoniwch 01248 383620 / 382032 i drefnu apwyntiad i weld un o'r Cynghorwyr.
Wedi'i ddiweddaru 26.01.2021