Budd-daliadau
Mae’n bosib rhannu budd-daliadau nawdd cymdeithasol i ddau gategori:
- Budd-daliadau a bennir trwy brawf modd
- Budd-daliadau na phennir trwy brawf modd
Nid yw bod yn fyfyriwr ynddo’i hun yn effeithio ar hawl i dderbyn rhai budd-daliadau na phennir yn ôl prawf modd, megis Lwfans Anabledd, Pensiwn Ymddeoliad, Lwfans Byw Pobl Anabl, Budd-dal Plant, Lwfans Anabledd Difrifol a Budd-dal Gweddwon. Am wybodaeth bellach ynglyn â hawl i dderbyn budd-dal, cysylltwch â'r swyddfa budd-dal.
Yn gyffredinol, mae’r rhan fwyaf o fyfyrwyr israddedig amser-llawn yn anghymwys i hawlio budd-daliadau nawdd cymdeithasol a bennir trwy brawf modd fel Budd-dal Tai neu Chymhorthdal Incwm yn ystod eu cwrs, gan gynnwys adegau gwyliau. Ond mae eithriadau i’r rheol hwn. Mae’r eithriadau yn cynnwys:
- Rhieni sengl: Os ydych yn rhiant sengl i blentyn dan 5 oed
- Myfyrwyr ag anableddau (Os ydych yn gymwys am bremiwm anabledd neu anabledd difrifol, os ydych wedi bod yn analluog i weithio am 28 wythnos neu os ydych yn derbyn LMA oherwydd byddardod.)
- Parau sydd, ill dau, yn fyfyrwyr sydd â phlant dibynnol
- Myfyrwyr sydd mewn oed pensiwn.
Os ydych yn gymwys o fewn un o’r dosbarthiadau hyn, efallai y byddwch yn gallu hawlio Credydau Treth Plant, , Budd-dal Tai a Budd-dal Treth y Cyngor neu Chymhorthdal Incwm, er y gall hawl i’w derbyn newid yn ystod y flwyddyn academaidd. Gall Credyd Treth Gweithio hefyd fod ar gael i fyfyriwr (neu gymar) sydd â phlentyn/plant dibynnol os yw’r myfyriwr yn gweithio am gyflog am o leiaf 16 awr yr wythnos. Yn achos cyplau sydd â phlant dibynnol, rhaid i’r ddau bartner fod yn gyflogedig am 16 awr yr un, sef cyfanswm uchaf o 24 awr yr wythnos.
Os ydych yn gymwys, bydd yr Asiantaeth Budd-daliadau yn ystyried unrhyw incwm a dderbyniwch trwy grantiau neu fenthyciadau dan y prif drefniadau cymorth myfyrwyr. Lle rydych yn gymwys i gael Benthyciad Cynhaliaeth, bydd yr Asiantaeth yn cymryd yr arian sydd ar gael ichi i ystyriaeth, p’un a ydych yn ei gymryd neu beidio. Os yw eich cymar yn gymwys i dderbyn budd-daliadau, bydd yr Asiantaeth Fudd-daliadau yn cymryd eich incwm myfyriwr i ystyriaeth yn yr un modd, pan fydd yn cyfrif ei f/budd-daliadau ef/hi. Nodwch, os ydych yn gymwys i gael budd-daliadau sy'n dibynnu ar brawf modd, bydd yr Asiantaeth Budd-daliadau yn ystyried unrhyw incwm yr ydych yn ei dderbyn trwy grantiau neu fenthyciadau o dan y prif drefniadau cynnal myfyrwyr. Os ydych yn gymwys i gael Benthyciad Cynhaliaeth, bydd yr Asiantaeth Budd-daliadau yn ystyried yr arian sydd ar gael i chi p'un ai y byddwch yn ei gymryd ai peidio. Os yw'ch partner yn gymwys i dderbyn budd-daliadau, bydd yr Asiantaeth Budd-daliadau yn ystyried eich incwm fe myfyriwr yn yr un modd wrth gyfrifo ei b/fudd-daliadau hi/ef. Serch hynny, diystyrir Benthyciadau Ffioedd Dysgu, cyfran o'r Grant/Benthyciad Cymorth Arbennig, y Grant Gofal Plant a'r Lwfans Dysgu i Rieni at ddibenion budd-daliadau. Byddant hefyd yn diystyru cyfan o'ch Benthyciad Cynhaliaeth ar gyfer costau teithio, llyfrau ac offer.
Os ydych yn gymwys i dderbyn budd-daliadau sy'n dibynnu ar brawf modd o dan un o'r categor茂au cymwys uchod a'ch bod yn fyfyriwr israddedig, gwnewch yn siwr eich bod yn derbyn y Grant/Benthyciad Cymorth Arbennig yn hytrach na Grant Dysgu Llywodraeth Cymru gan eich sefydliad cyllid myfyrwyr.
Os ydych yn hawlio budd-daliadau a bennir yn ôl prawf modd cyn
i chi gychwyn eich cwrs, mae'n rhaid i chi roi gwybod i’r asiantaeth
sy’n talu eich budd-daliad eich bod yn mynd i fod yn fyfyriwr ac
mae’n rhaid i chi ddatgan eich incwm fel myfyriwr. Os nad ydych
yn gwneud hyn fe fydd y swyddfa budd-daliadau yn gordalu budd-daliadau
i chi a byddent yn adennill y taliadau hyn tra byddwch yn y brifysgol.
Mae byw ar incwm myfyriwr yn ddigon anodd fel y mae heb orfod poeni am
ad-dalu gordaliadau budd-dal.
Nid oes raid i fyfyrwyr llawn amser dalu Treth Cyngor ers mis Ebrill 2004.
Er mwyn cael eich esgusodi rhag talu Treth y Cyngor rydych angen gyrru
copi o’ch tystysgrif presenoldeb yn y Brifysgol i’r Cyngor.
Cewch gopi o’r dystysgrif o Gofnodion Myfyrwyr.
Am wybodaeth bellach ynglyn â hawl i dderbyn budd-dal, cysylltwch â'r swyddfa sy'n talu eich budd-dal.