Canllawiau i Ddarparwyr Allanol Cymorth An-feddygol (NMH)
Rhagarweiniad
Rhaid i ddarparwyr Cymorth An-feddygol (NMH) gadw at safonau'r Fframwaith Sicrhau Ansawdd Lwfansau Myfyrwyr Anabl (DSA-QAF), a sicrhau bod holl bolis茂au a dulliau gweithredu wedi'u sefydlu, eu bod yn cael eu rhannu 芒'r myfyriwr, ac ar gael i'r brifysgol.听听
Mae ar y Gr诺p Sicrhau Ansawdd DSA (DSA-QAG) angen i ddarparwyr allanol NMH sefydlu trefniadau adrodd 芒 Sefydliadau Addysg Uwch (HEIs) i roi gwybod iddynt am y gefnogaeth sy'n cael ei darparu i'w myfyrwyr.听听 Rhaid iddynt egluro pwysigrwydd y trefniadau adrodd wrth fyfyrwyr, ac annog myfyrwyr i roi caniat芒d i wybodaeth gael ei rhannu.听听 Rhaid i ddarparwyr allanol hefyd ymgyfarwyddo 芒'r wybodaeth a ddarperir gan yr HEI (gweler isod) ynghylch rhoi gwasanaethau NMH i'w myfyrwyr, a sicrhau bod eu gweithwyr NMH yn derbyn y wybodaeth hon.
Mae'r canllawiau hyn yn rhoi fframwaith ar gyfer gweithgareddau gweithredol er mwyn sicrhau fod pawb yn ymwybodol o'r safonau a ddisgwylir ganddynt.
Cyfathrebu ac Adborth
Gwasanaethau Anabledd
Mae'r Gwasanaethau Anabledd yn rhan o'r Gwasanaethau Myfyrwyr ac yn cydweithio 芒 rhwydwaith o Diwtoriaid Anabledd ar draws ysgolion ac adrannau academaidd i hwyluso amgylchedd dysgu hygyrch a chynhwysol i fyfyrwyr anabl.听听 Mae Cynlluniau Cefnogi Dysgu Personol (CCDP) yn sicrhau bod addasiadau rhesymol yn cael eu gweithredu.听听 Ceir mwy o wybodaeth am swyddogaethau a chyfrifoldebau yn:听/studentservices/disability/index.php.cy
Y Rheolwr Cymorth Anabledd yw'r pwynt cyswllt penodedig i ddarparwyr allanol NMH.听听 Dylai gwybodaeth am ddarpariaeth allanol NMH gael ei hanfon i gyfeiriad e-bost i gwasanaethanabledd@bangor.ac.uk
Cyfrifoldebau Darparwyr Allanol Cymorth An-feddygol (NMH):
Rhaid i ddarparwyr allanol NMH wneud y canlynol:
- Rhoi gwybod i'r brifysgol os ydych yn rhoi cefnogaeth i'n myfyrwyr, yn cynnwys yr unigolyn penodedig yn y sefydliad (yn cynnwys manylion cyswllt) y gallwn gysylltu ag ef/芒 hi gydag unrhyw ymholiadau'n ymwneud 芒 chefnogi myfyrwyr.
- Lle mae myfyrwyr yn cael cyllid DSA, disgwylir iddynt rannu eu Hadroddiad Asesu Anghenion gyda'r brifysgol a dylai'r darparwr allanol roi gwybod i fyfyrwyr am hyn a hwyluso'r gweithgaredd hwn gyda'r brifysgol fel bo'r angen.
- Sicrhau bod cyllid ar gael cyn dechrau sesiynau 芒 myfyriwr, monitro'r defnydd o'r oriau a bennir, a sicrhau nad yw myfyrwyr yn rhedeg allan o gyllid (nid yw Prifysgol 香港六合彩挂牌资料 yn atebol am unrhyw daliadau y mae'r SFE yn gwrthod eu talu).听
- Trefnu ystafelloedd cyfarfod addas ar gyfer sesiynau cefnogi.听
- Cyfeirio myfyrwyr yn 么l at y Cynghorwr Anabledd / SpLD / Iechyd Meddwl neu ysgol academaidd i drafod unrhyw faterion yn ymwneud 芒 gwasanaethau prifysgol neu eu cwrs.听听 Dylai myfyrwyr gydag ymholiadau'n ymwneud 芒'u cefnogaeth anabledd gysylltu 芒 ni eu hunain.听听 Nid ydym yn annog gweithwyr NMH i gyfryngu dros fyfyrwyr.听听 Yn aml y ffordd orau i fyfyrwyr gysylltu 芒 ni yw drwy e-bost: gwasanaethanabledd@bangor.ac.uk neu ffonio: 01248 382032
- Cysylltu'n syth 芒'r Gwasanaethau Anabledd gwasanaethanabledd@bangor.ac.uk os bydd unrhyw bryderon yn codi o ran ymwneud 芒'r gefnogaeth, lles, diogelwch, neu gynnydd academaidd, fel y gellir rhoi sylw prydlon iddynt.听听
- Darparu adroddiad cryno ar ddiwedd pob semester (diwedd Ionawr a Mai) i bob myfyriwr sy'n derbyn cefnogaeth band 4. Dylai hwn gynnwys:听听
- enw'r myfyriwr/myfyrwyr a rhif CRN;
- enw'r gweithiwr/gweithwyr allanol NMH;听
- disgrifiad byr o’r gefnogaeth a roddwyd;
- dyddiad y dechreuodd y gefnogaeth;听
- nifer sesiynau / oriau o gefnogaeth a roddwyd y tymor hwnnw, a chyfanswm am y flwyddyn hyd yma;听
- lleoliad y gefnogaeth a roddir;听
- gwybodaeth am unrhyw faterion y mae angen i'r brifysgol wybod amdanynt neu fynd ar eu h么l.
Lle bynnag y bo modd, rydym eisiau i wybodaeth gael ei rhannu'n electronig mewn fformat diogel.
- Darparu cop茂au o unrhyw bolis茂au perthnasol os gofynnir amdanynt.
- Rhoi gwybodaeth i'r brifysgol ar sut i roi adborth ar sail ad hoc.听
Mynediad i Brifysgol 香港六合彩挂牌资料 i weithwyr allanol NMH
Ymweld a Pharcio
Nid yw Prifysgol 香港六合彩挂牌资料 yn brifysgol ar un campws ac mae lleoedd parcio'n gyfyngedig iawn.听听听 Anogir ymwelwyr i ddefnyddio meysydd parcio cyhoeddus gerllaw.听听 Gall deiliaid bathodynnau glas drefnu parcio drwy gysylltu 芒 parking@bangor.ac.uk听 听
Mae gwybodaeth ynghylch ymweld a sut i fynd o gwmpas i'w chael yn:听
/mapcampws
Mae taflen y brifysgol, Mynd o Gwmpas 香港六合彩挂牌资料, hefyd yn cynnwys gwybodaeth ddefnyddiol ar fynd i adeiladau:听
/studentservices/guide/index.php.cy
Mannau y gellir eu harchebu i gynnal cyfarfodydd cyfrinachol
Mae darparwyr allanol yn gyfrifol am ddarparu cyfleusterau cyfarfod addas sy'n gyfforddus, cyfrinachol a chymryd i ystyriaeth anghenion myfyrwyr yn gysylltiedig ag anabledd.听听Mae myfyrwyr yn gallu archebu ystafelloedd cyfarfod y Brifysgol, fodd bynnag, mae'r rhain yn gyfyngedig iawn mewn argaeledd. 听Gall darparwyr allanol gysylltu 芒 Gwasanaethau Datblygu Busnes y brifysgol am wybodaeth ar logi ystafelloedd:
/commercial-services/conferencing.php.cy听
/management_centre/photogallery/categories/conference/conference.php.cy
Dim ond mannau y mae arnynt angen mynd iddynt fel rhan o'u cefnogaeth NMH y cytunwyd arni y dylai gweithwyr NMH allanol fynd iddynt.听听 Ni ddylent fynd i mewn i unrhyw weithdai, labordai neu fannau peryglus eraill oni bai eu bod yn cael caniat芒d penodol gan staff y brifysgol, ac wedyn dim ond pan maent yn cael eu goruchwylio a gwisgo dillad/offer diogelwch priodol (nas darperir gan y brifysgol).
Mynediad gweithwyr cefnogi at ddeunyddiau ar-lein (addysgu ar-lein)
Caiff hyn ei asesu ar sail unigol gan roi ystyriaeth i anghenion unigol y myfyriwr sy'n cael ei gefnogi, y gweithgaredd dysgu a'r cymorth anfeddygol a asesir. Cysylltwch 芒'n cydlynydd cymorth anfeddygol am wybodaeth bellach.
Mynediad i Lyfrgelloedd
Gweler:听 /library/visitor/visitor.php.cy
Lleoedd i fwyta ac yfed ym Mhrifysgol 香港六合彩挂牌资料:
Gweler:听 /commercial-services/index.php.cy
Gwybodaeth am Iechyd a Diogelwch
Gweler:听 /hss/visitors.php.cy
Mae dyletswydd ar weithwyr NMH i ymgyfarwyddo 芒 threfniadau argyfwng ar gyfer yr adeilad (fel y dangosir ar arwyddion gweithredu mewn argyfwng).听听 Pe bai larwm argyfwng yn seinio, mae'n rhaid i weithwyr NMH adael yr adeilad yn syth yn unol 芒 chyfarwyddiadau.听听
Gwasanaeth Diogelwch
Mae is-adran Diogelwch yr Adran Gwasanaethau Campws ac Eiddo yn cynnwys t卯m o unigolion wedi'u hyfforddi'n dda sy'n gyfrifol am ddiogelwch myfyrwyr, staff ac ymwelwyr, yn ogystal ag yst芒d y brifysgol.
Rhaid rhoi gwybod i'r Gwasanaethau Diogelwch am unrhyw ddigwyddiadau neu sefyllfaoedd argyfwng, gweler:听 /eo/security.php.cy 听am rifau ff么n.
Delio ag Argyfwng Iechyd Meddwl
Gweler:听 /studentservices/mentalhealth/emergency.php.cy
Gwasanaethau/Polis茂au Prifysgol 香港六合彩挂牌资料 perthnasol i Ddarparwyr a Gweithwyr NMH Allanol
Math |
Ffynhonnell |
Gwasanaethau Myfyrwyr |
|
Gwasanaethau Anabledd听 |
|
Polis茂au a Dulliau Gweithredu |
|
Wedi'i ddiweddaru mis Awst 2024