Gwybodaeth hygyrchedd ar gyfer Canolfan Celfyddydau ac Arloesi Pontio
Arolwg
Lleoliad
Gwelwch Canolfan Celfyddydau ac Arloesi Pontio ar Map y Campws.
Dangosir bod yr adeilad hwn yn adeilad 48 ar map safle Prifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ
Map Google ar gyfer y lleoliad hwn:
Mynediad i Gerbydau
Wedi’i leoli ar Ffordd Deiniol. Mae man gollwng ar gael o flaen yr adeilad os byddwch yn dod gyda char. Am gyfleusterau parcio hygyrch, ewch tuag at Allt Glanrafon. Mae’r troad ger y croesfan i gerddwyr sydd wrth y Porth Coffa
Parcio
Pen Ffordd Deiniol (Llawr Gwaelod): Mae cyfleusterau parcio hygyrch ar gael yn ymyl Pontio neu mae sawl bae parcio ar gael ym maes parcio Thoday sydd union gyferbyn (gweler y golofn flaenorol)
Pen Undeb y Myfyrwyr (Llawr 5): Mae man gollwng/codi ar gael ar Ffordd Penrallt
Mynedfa
Pen Ffordd Deiniol (Llawr Gwaelod): Dwy fynedfa sydd ar lefel ond mae’r llwybr iddynt ar lethr. Mae gan y brif fynedfa (ochr Ffordd Deiniol) ddrysau sy’n llithro. Mae gan y fynedfa ochr ddrysau troi a drws ochr sydd â motor
Pen Undeb y Myfyrwyr (Llawr 5): Mae gan un fynedfa ddrysau troi a drws ochr sydd â motor
SYLWCH: Mae’r llwybr i gerddwyr sy’n arwain at y fynedfa hon yn serth
Coridorau
Mae’r rhan fwyaf o lefydd â chynllun agored
Mae’r gwaith yn parhau i fynd i’r afael â drysau tynnu / gwthio
Cyfleusterau
Ceir toiledau hygyrch ar y llawr gwaelod, 1af, 2il, 4ydd a 5ed
Lifftiau
Oes, prif lifft ac ail lifft llai
SYLWCH: Nid yw’r prif lifft yn stopio ar lawr 4, lle mae’r Undeb Myfyrwyr (UM)
I ymweld â’r UM o’r llawr gwaelod cymerwch y lifft i lawr 3 ac yna newidiwch i’r ail lifft i fynd at lawr
4. Neu cymerwch y brif lifft i lawr 5 ac yna newidiwch i’r ail lifft i fynd lawr at lawr 4
I ymweld â’r UM o lawr 5 cymerwch y lifft lawr un llawr i’r 4ydd
Mannau Loches
Oes. Edrych fel y llun isod
Gofynnwch yn nerbynfa Pontio am wybodaeth am y man lloches agosaf i’r lle y byddwch chi’n ymweld
Fideos
Adrannau’r fideo
Gallwch ddefnyddio’'r dolenni isod i neidio i adrannau penodol o’r fideo.