Catherine yn derbyn gwobr Arweinydd Cyfoed y Flwyddyn
Mae Arweinwyr Cyfoed Prifysgol 香港六合彩挂牌资料 wedi cael eu llongyfarch a diolchwyd iddynt am y gwaith allweddol y maent wedi ei wneud yn cefnogi eu cyd-fyfyrwyr.
Gan Brifysgol 香港六合彩挂牌资料 y mae un o鈥檙 Cynlluniau Arweinwyr Cyfoed hynaf a mwyaf ymysg prifysgolion Prydain. Mae'r 'Arweinwyr Cyfoed' hyfforddedig yn chwarae rhan allweddol mewn cynorthwyo myfyrwyr newydd i ddod i ddygymod 芒 bywyd prifysgol. Maent yn eu helpu gyda materion ymarferol megis symud i mewn a chanfod eu ffordd o amgylch y brifysgol, yn ogystal 芒鈥檜 cynorthwyo i ymaddasu i fywyd prifysgol a'u cyfeirio at wybodaeth a chefnogaeth bellach pan fo'r angen.
Meddai Kim Davies, Cydlynydd Arweinwyr Cyfoed yn y Gwasanaethau Cefnogi Myfyrwyr, wrth ddiolch i'r Arweinwyr Cyfoed:
"Mae ymroddiad a chyfraniad yr Arweinwyr Cyfoed i Brifysgol 香港六合彩挂牌资料 yn eithriadol werthfawr. Nid yn unig maent yn trefnu a chynnal digwyddiadau drwy gydol yr Wythnos Groeso, maent wrth law hefyd i gynorthwyo myfyrwyr newydd i ymaddasu i fywyd prifysgol. Gallant wneud gwahaniaeth rhwng i fyfyriwr benderfynu aros neu adael yn ystod yr ychydig wythnosau cyntaf oddi cartref. Maent hefyd yn ffurfio cyfeillgarwch gyda'u myfyrwyr, sy'n aml yn para am oes."
Tra diolchwyd i'r holl Arweinwyr Cyfoed am eu gwaith yn cefnogi eu cyd-fyfyrwyr, derbyniodd un myfyriwr wobr Arweinydd Cyfoed y Flwyddyn.
Gofynnwyd i holl fyfyrwyr y flwyddyn gyntaf a oeddent eisiau enwebu myfyriwr a oedd 'wedi mynd yr ail filltir' i gefnogi eu cyd-fyfyrwyr.
Y myfyriwr a enillodd eleni oedd Catherine Rhian Suddaby, myfyriwr trydedd flwyddyn o'r Ysgol Gwyddorau Cymdeithas.
Meddai Collette McDowell a'i henwebodd am y wobr:
"Mae Catherine yn haeddu cydnabyddiaeth gan y brifysgol am bopeth y mae wedi'i wneud, nid yn unig yn ystod y dyddiau cynefino a'r wythnos groeso, ond o ran y gefnogaeth a'r arweiniad y mae wedi'i roi i mi ers hynny."
"Mae hon wedi bod yn flwyddyn anodd iawn i mi o ran pethau sydd wedi digwydd a fy iechyd yn dirywio, ond mae Catherine wedi bod wrth law bob amser i'm helpu, gan fynd ymhell tu hwnt i'r hyn a ddisgwylid ganddi a gwneud i mi wenu."
"O waelod fy nghalon rwyf eisiau diolch yn bersonol i Catherine am bopeth y mae wedi'i wneud drosta i a'r holl amser y mae wedi ei roi i mi. Yn sicr mae wedi gwneud fy mlwyddyn gyntaf yn llai o straen."
Meddai Catherine, sy'n 24 oed ac o Benmon ger Biwmares ar Ynys M么n:
"Fe wnes i benderfynu mynd yn Arweinydd Cyfoed ar 么l y gefnogaeth ragorol a gefais i yn fy mlwyddyn gyntaf - byddwn wedi bod ar goll a chael fy ngadael allan heb Vicky fel fy Arweinydd Cyfoed."
Dyma gyngor Catherine i fyfyrwyr newydd:
"Gwnewch y gorau o'ch Arweinydd Cyfoed, maen nhw yma i'ch cefnogi a'ch helpu i setlo i fywyd prifysgol."
Meddai wrth dderbyn ei gwobr Arweinydd Cyfoed y Flwyddyn:
"Dwi'n ei ystyried yn anrhydedd mawr i ennill gwobr Arweinydd Cyfoed y Flwyddyn ac mae'n gwneud i mi deimlo'n ostyngedig a balch yr un pryd."
Dyddiad cyhoeddi: 8 Mai 2017